Astudiaeth Hirdymor IBERS yn Datgelu Dylanwadu Genoteipiau ar Faint o Garbon mae Miscanthus yn Storio yn y Pridd

08 Hydref 2025

Mae astudiaeth newydd gan ymchwilwyr yn IBERS, Prifysgol Aberystwyth, wedi dangos bod gwahanol genoteipiau o Fiscanthws yn amrywio'n fawr o ran eu gallu i storio carbon yn y pridd. Mae ‘genoteip’ yn cyfeirio at gyfansoddiad genetig planhigyn, sy'n dylanwadu ar ei nodweddion fel ei dwf, ei gnwd, a'r gallu i storio carbon. Gallai fod i hyn oblygiadau mawr o ran lliniaru ar newid yn yr hinsawdd a bridio planhigion.

Roedd yr ymchwil, a gyhoeddwyd yn GCB Bioenergy, wedi’i seilio ar dreialon maes hirdymor ger Aberystwyth lle y tyfwyd genoteipiau Miscanthus am ddegawd a mwy. Roedd y safle, sy'n rhan o diroedd IBERS sy’n ymestyn i oddeutu 1,000 hectar, yn enghraifft o dir amaethyddol ymylol, gyda phriddoedd bas, llawer o gerrig, a hinsawdd wlyb a llugoer yn bennaf. Trwy gymharu creiddiau pridd cyn trosi’r tir o laswelltir â rhai ar ôl tyfu Miscanthws, ymchwiliodd y tîm i sut roedd y stociau o garbon organig yn y pridd (COP) wedi newid o dan wahanol fathau o Fiscanthws.

"Dyma un o'r ychydig astudiaethau hirdymor i graffu ar newidiadau yng ngharbon y pridd ar draws ystod amrywiol o enoteipiau Miscanthus," meddai Dr Paul Robson, y prif awdur ac un o ymchwilwyr IBERS. "Mae ein canfyddiadau'n dangos bod y genoteip a ddewisir yn gallu chwarae rhan allweddol wrth storio cymaint â phosib o garbon, a hynny heb gyfaddawdu o ran y cnwd."

Mae'r canfyddiadau'n galonogol: at ei gilydd, fe adferwyd y carbon a gollwyd o’r pridd ar y cychwyn wrth drosi o dir pori, ac roedd y lefelau o garbon organig yn y pridd o dan Miscanthus yn debyg i’r stociau cyn ei drosi. Serch hynny, roedd gwahaniaethau trawiadol rhwng y genoteipiau – gyda chymaint â 32 tunnell o garbon o wahaniaeth fesul hectar rhwng y perfformwyr gorau a’r gwaethaf.

Darganfuwyd bod cyswllt rhwng y carbon a ddaliwyd yn y pridd a nodweddion megis màs y rhisomau a’r gwasarn/deiliach marw a gynhyrchwyd, sy’n dangos bod gan fridwyr gyfleoedd i ddethol amrywogaethau sy'n cyfuno cynnyrch uchel â gwell nodweddion storio carbon yn y pridd. Un darganfyddiad pwysig yn yr astudiaeth oedd nad yw cnwd da o fiomas yn amharu ar y carbon a storiwyd, sy’n chwalu unrhyw bryderon bod rhaid aberthu iechyd y pridd er mwyn cael cynhyrchiant uchel.

Dywedodd Dr Paul Robson, a arweiniodd yr astudiaeth:

"Mae ein hymchwil yn dangos bod y genoteip a ddewisir yn wirioneddol bwysig. Trwy ddethol a bridio ar gyfer y nodweddion iawn yn y planhigion Miscanthus, gallwn wella’r cnwd yn ogystal â storio mwy o garbon yn y pridd, gan wneud y gorau o’r cyfraniad y mae cnydau biomas yn gallu ei wneud o ran yr hinsawdd."

Y Darganfyddiadau Allweddol:

  • Adfer Carbon Organig y Pridd (COP): Ar gyfartaledd roedd stociau COP yn dychwelyd i’r lefelau cyn trosi’r tir.
  • Amrywiadau Genoteipig: Roedd stociau COP yn amrywio hyd at 32 tunnell C ha⁻¹ rhwng y genoteipiau a berfformiwyd orau a’r rhai gwaethaf.
  • Nodweddion Perthnasol: Roedd màs uchel y rhisomau a’r deiliach marw (a gollwyd wrth aeddfedu) yn gysylltiedig â chynnydd mewn COP.
  • Cyfaddawdu rhwng Cynnyrch Uchel a Storio Carbon: Nid oedd genoteipiau uchel eu cynnyrch o reidrwydd yn arwain at lai o garbon yn y pridd, sy’n awgrymu nad oes angen aberthu buddion i’r hinsawdd wrth fridio ar gyfer cynhyrchiant uchel.

Astudiwyd 13 genoteip ar draws pum grŵp o rywogaethau, gan gynnwys M. sinensisM. sacchariflorus, yn ogystal â chroesfridiau megis M. × giganteus. Er nad oedd grwpiau rhywogaethau yn cael effaith arwyddocaol ar ganlyniadau’r carbon yn y pridd, roedd cryn wahaniaethau rhwng genoteipiau, a dim ond dau enoteip a ddangosodd lai o garbon yn y pridd yn gyson.

 

Goblygiadau ar gyfer Bridio a Pholisi

Mae'r ymchwil yn cefnogi ymgorffori nodweddion sy'n gysylltiedig â COP mewn rhaglenni bridio Miscanthus, rhywbeth sy'n cydweddu â strategaethau Sero Net y DU a'r UE. Wrth i ni ddod yn fwyfwy ymwybodol o’r rhan y mae cnydau biomas yn ei chwarae mewn tynnu nwyon tŷ gwydr o’r atmosffer, drwy ddethol genoteipiau sy'n storio mwy o garbon o dan y ddaear fe ellir gwella ymhellach y potensial sydd gan systemau bioynni i liniaru effeithiau newid hinsawdd.

Cafodd yr astudiaeth gefnogaeth gan brosiect y BBSRC ar Gnydau Biomas Lluosflwydd ar gyfer Tynnu Nwyon Tŷ Gwydr a'r rhaglen Cnydau Gwydn.

Darllen y Cyhoeddiad

Mae'r papur llawn ar gael trwy GCB Bioenergy: Genotypic Differences in Soil Carbon Stocks Under Miscanthus: Implications for Carbon Sequestration and Plant Breeding.