Arbenigwr gwymon IBERS yn cyfrannu at brosiect fideo newydd ar ddyfodol bwyd

Dr Jessica Adams
16 Tachwedd 2026
Gallai mwy o bobl elwa ogynnwys gwymon yn eu diet bob dydd, yn ôl arbenigwr o IBERS sy’n flaenllaw ym maes algâu.
Mae Dr Jessica Adams,Uwch Gymrawd Ymchwil yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn ymddangos mewn prosiect fideo newydd sy'n tynnu sylw at sut mae gwaith ymchwil ac arloesi yn y DU yn gwella iechyd a maeth ar raddfa fyd-eang.
Mae’r Ymgyrch Dros Wyddoniaeth a Pheirianneg (The Campaign for Science and Engineering - CaSE) a Sorted Food, sy’n creu cynnwys coginio ar YouTube, wedi defnyddio prosiectau ymchwil o bob rhan o'r DU i ysbrydoli cyfres o seigiau blasus a thrafodaethau difyr sy'n dangos sut mae gwyddoniaeth yn helpu i wella bywydau a bywoliaethau.
Mae cynhyrchwyr y fideo wedi dewis pedair thema i adrodd straeon rhai o gnydau pwysicaf y byd: y cnwd anghofiedig (pysen y glaswellt), y cnwd a gamddeallir (cywarch), y cnwd a anwybyddir (gwymon), a'r cnwd ar fenthyg amser (coffi). Mae Dr Adams yn cyfrannu at y drafodaeth ar wymon, sy'n ystyried potensial y cnwd hwn, a gaiff ei anwybyddu’n aml, i gefnogi diet mwy iach a chynaliadwy.
Mae Dr Adams wedi bod yn ymchwilio i wymon ac algâu eraill ers bron ugain mlynedd, gan astudio eu potensial ar gyfer bwyd, iechyd a chynhyrchion sy'n deillio o adnoddau biolegol. Hi hefyd yw Llywydd Cymdeithas Wymoneg Prydain (2026-28), sef y prif sefydliad ar gyfer ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio ym maes algâu a gwymon yn y DU.
Wrth siarad am ei gwaith, dywedodd Dr Adams:
"Os gallwn ni fwyta mwy o wymon fel cynhwysyn sylfaenol yn ein bwyd, byddwn ni'n elwa ar eu holl fanteision maethol. Mae gwymon yn gyfoethog o ran fitaminau a mwynau, mae’n uchel o ran ffibr, yn isel o ran braster, ac mae’n cynnig ffynhonnell dda o asidau amino hanfodol yn ei brotein. Mae bara lawr wedi bod yn rhan o draddodiad coginio Cymru, ac rydyn ni gyd yn gyfarwydd â'r defnydd o wymon mewn bwyd Japaneaidd. Ond fe ddylen ni gyd fod yn cynnwys mwy o wymon yn ein diet bob dydd am ei fod yn fuddiol i'n hiechyd ar sawl lefel.
"Wrth i'r galw am fwyd maethlon gynyddu, gallai gwymon hefyd helpu i gefnogi diogelwch bwyd drwy ddarparu ffynhonnell gynaliadwy o faetholion sy’n gallu cael eu tyfu heb fod angen tir amaethyddol, dŵr croyw na gwrtaith."
Yn ogystal ag IBERS, mae'r prosiect sydd newydd ei lansio hefyd yn cynnwys cyfraniadau gan ymchwilwyr o Gymdeithas Gwyddor Môr yr Alban (SAMS), Canolfan John Innes, Sefydliad Rowettym Mhrifysgol Aberdeen, a Phrifysgol Rhydychen. Mae IBERS a Chanolfan John Innes ill dau yn derbyn cyllid strategol gan Gyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC),sy'n rhan o UKRI sef sefydliad Ymchwil ac Arloesi’r DU.
Dywedodd Alicia Greated,Cyfarwyddwr Gweithredol yr Ymgyrch dros Wyddoniaeth a Pheirianneg (CaSE):
"Mae effaith y pum tîm ymchwil sy'n ymddangos yn y fideo yn wirioneddol ysbrydoledig. Ond rydyn ni’n gwybod mai megis crib y rhewfryn yw hyn o ran ymchwil a datblygu yn y DU. Mae gan aelodau CaSE ac eraill ledled y sector gyfoeth o straeon i'w hadrodd, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd y gwaith hwn yn ysbrydoli a sbarduno syniadau ymhlith eraill."
Mae'r cydweithrediad yn dwyn ynghyd gysylltiadau helaeth CaSE ar draws y sector ymchwil a datblygu, arddull ddeniadol a gweledol Sorted Food o ran adrodd stori, ac arbenigedd partneriaethau ymchwil ledled y DU. Ariannwyd y prosiect drwy grant gan Sefydliad Gates,ac mae'n rhan o genhadaeth CaSE i ddarparu tystiolaeth ac adnoddau i gefnogi'r sector ymchwil a datblygu drwy ymgysylltu â'r cyhoedd.
Gellir gwylio'r fideo yn llawn ar YouTube: https://www.youtube.com/watch?v=CPFtTPbwNz8
