Polisi Ymgysylltu â Defnyddwyr

Mae’r Llyfrgell yn croesawu ac yn ceisio adborth gan ein defnyddwyr. Rydym yn defnyddio amrywiaeth o fecanweithiau ffurfiol ac anffurfiol i gynnal deialog, cael adborth a sicrhau bod ein gwasanaethau’n ymateb i ofynion ac anghenion newidiol y defnyddwyr.

Sut i gysylltu â ni / rhoi adborth

Ymateb i adborth

Mae ymatebion i’n harolygon defnyddwyr, grwpiau ffocws a gweithgareddau eraill yn cael eu cyhoeddi ar ein tudalennau adborth ar y we. Rydym yn cael adborth ychwanegol ynghylch y Llyfrgell drwy'r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr a gynhelir yn flynyddol a dulliau eraill o gasglu adborth ledled y Brifysgol. Defnyddir y data hyn, ynghyd â dulliau eraill o roi adborth, i adolygu a datblygu ein gwasanaethau yn rheolaidd.

Ymgysylltu â defnyddwyr

Rydym yn cynnal Cynhaeaf Awgrymiadau blynyddol am wythnos ym mis Mawrth gan roi cyfle i fyfyrwyr a staff fynegi barn cyffredinol am ein gwasanaethau trwy arolwg byr ar-lein.

Cynhelir Grwpiau Ffocws Myfyrwyr i gael adborth manylach gan ein cwsmeriaid am ein gwasanaethau, ein hadnoddau neu newidiadau posibl.

Pwyllgorau Ymgynghorol Staff a Myfyrwyr a Phwyllgorau Ymgynghorol Myfyrwyr Ymchwil: Diben y PYSM a’r PYMY yw sefydlu dull ffurfiol o drafod a chyfathrebu rhwng adrannau a myfyrwyr ar faterion yn ymwneud â materion academaidd sy’n effeithio ar eu hastudiaethau. Mae staff y Llyfrgell yn mynychu’r PYSM a'r PYMY ac yn adrodd yn ôl ar unrhyw faterion yn ymwneud â’r Llyfrgell ac yn adrodd yn ôl i’r adrannau ar unrhyw gamau a gymerir pan fo’n briodol.

Cynhelir Wythnosau Samplu 3 gwaith y flwyddyn yn ystod mis Tachwedd, Mawrth a Mai. Diben yr wythnosau samplu yw i:

  • Cofnodi ymholiadau mewn categorïau penodol – adolygu’r categorïau ymlaen llaw
  • Cynllunio a chynnal gweithgareddau i gasglu adborth ar ddetholiad o weithgareddau a gwasanaethau y Llyfrgell

Bydd y themâu yn amrywio o’r naill wythnos samplo i'r llall gan ddibynnu ar ba wasanaethau neu grwpiau defnyddwyr y mae arnom eisiau ymchwilio iddynt neu eu blaenoriaethu. Fodd bynnag, bob blwyddyn byddwn yn casglu adborth ansoddol cyffredinol gan ddefnyddwyr ar ein gwasanaethau er mwyn cael golwg gyffredinol ar hynt ein gwasanaethau.

Cyfarfodydd gydag Undeb Aber

Mae staff y Llyfrgell yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda Swyddog Materion Academaidd Undeb Aber. Dyma gyfle i'r Swyddog i godi unrhyw faterion sydd wedi'u codi, a hefyd yn gyfle i'r Llyfrgell adrodd ar unrhyw newidiadau a gwelliannau i'r gwasanaeth.

Mae’r Llyfrgell hefyd yn cynnal ymarferion ymgysylltu â defnyddwyr mwy anffurfiol, gan gynnwys cynnal cyfarfodydd rheolaidd â chydweithwyr y Gwasanaeth Cefnogi ac Undeb Aber i drafod materion a chytuno ar unrhyw gamau sydd eu hangen i wella mynediad i adnoddau a gwasanaethau’r Llyfrgell i staff a myfyrwyr.

Rhowch wybod i ni beth yw eich barn am ein gwasanaeth

Rydym yn ymroddedig i ddarparu gwasanaeth rhagorol i chi, ac rydym yn gwahodd eich adborth i’n helpu ni i wella’r gwasanaethau.

Rydym yn cydnabod fodd bynnag nad ydym weithiau’n darparu’r gwasanaeth yr ydych yn ei ddisgwyl. Os hoffech grybwyll unrhyw beth sy’n anfoddhaol am y gwasanaeth yn eich barn chi, edrychwch ar ein Gweithdrefn Gwyno Rydym yn addo i ymdrin â’ch cwyn cyn gynted â phosibl, yn gyfrinachol, rhoi gwybod i chi am unrhyw ddatblygiadau, ac edrych ar batrwm y cwynion i adnabod unrhyw feysydd sydd angen eu gwella.

Mae'r Polisi hwn yn cael ei gynnal gan Lyfrgell y Brifysgol. Fe’i adolygwyd ddiwethaf ym mis Mai 2025 a bydd yn cael ei adolygu eto ym mis Mai 2026.