Cynhadledd Fer Academi

Mae’r Gynhadledd Fer yn fersiwn llai o’n Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol sy’n ein galluogi i gasglu ynghyd gyfres o gyflwyniadau a gweithdai sy’n ymwneud â phwnc dysgu ac addysgu penodol.

Os hoffech gynnal cynhadledd fer i ganolbwyntio ar bwnc penodol, cysylltwch â ni (eddysgu@aber.ac.uk).

Cynhadledd Fer Nesa

Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol

Cynhelir y Gynhadledd Fer nesaf ddydd Iau 18 Rhagfyr 2025. Bydd y Gynhadledd hon yn canolbwyntio ar DA Cynhyrchiol mewn Dysgu ac Addysgu, ac mae ganddynt ddiddordeb mewn sesiynau sy'n ymwneud â'r themâu canlynol:

  • Ymgorffori sgiliau DA Cynhyrchiol yn y cwricwlwm 
  • DA Cynhyrchiol fel sgil cyflogadwyedd
  • Defnyddio DA Cynhyrchiol mewn asesiad
  • DA Cynhyrchiol a chynnal uniondeb academaidd
  • DA Cynhyrchiol ar gyfer gweithgareddau dysgu

Rydym yn galw am gynigion gan staff a myfyrwyr ar gyfer y digwyddiad hwn.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfrannu, llenwch y ffurflen hon erbyn dydd Gwener 7 Tachwedd os gwelwch yn dda.

Mae modd archebu’ch lle ar gyfer y digwyddiad nawr. Archebwch eich lle ar-lein.