Trwydded CLA
Mae gan staff y llyfrgell hawl i sganio a digideiddio eitemau yn llyfrgelloedd y Brifysgol yn unol â thelerau Trwydded Sylfaenol yr Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint (CLA) ac UUK / Guild HE ar gyfer llungopïo a sganio.
Dyma rai manylion am drwydded yr Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint:
- mae’n caniatáu i greu copïau digidol o ddeunyddiau gwreiddiol sy’n eiddo i’r Brifysgol, neu o gopi o bennod neu erthygl y talwyd ffi hawlfraint ar ei chyfer ac a gyflenwir gan sefydliad sydd â thrwydded dosbarthu dogfennau gyda CLA e.e. y Llyfrgell Brydeinig
- mae’n caniatáu llungopïo a sganio hyd at 10% neu un bennod o lyfr neu un erthygl mewn cyfnodolyn (pa un bynnag yw’r mwyaf)
- mae’n caniatáu sganio eitemau fel eu bod ar gael i fyfyrwyr ar gwrs astudio
- mae’n caniatáu sganio at ddibenion addysgol yn unig
- nid yw’n caniatáu sganio dogfennau cyfan neu ddefnyddio’r copïau at ddefnydd masnachol pellach (ni fwriedir i’r copïau sydd wedi’u sganio gael eu defnyddio yn hytrach na phrynu copïau gwreiddiol)
- mae’n ymdrin â chyhoeddiadau’r DU a UDA (a rhai Thiriogaethau Rhyngwladol eraill) yn unig – ceir rhestr o eithriadau pellach o https://cla.co.uk/excluded/
