Newyddion

Mynediad prawf i ebrary Academic Complete, casgliad gwych o dros 80,000 o e-lyfrauMynediad prawf i ebrary Academic Complete, casgliad gwych o dros 80,000 o e-lyfrau

04/07/2013

Am weddill Gorffennaf, bydd gennym fynediad prawf i ebrary Academic Complete, casgliad gwych o dros 80,000 o e-lyfrau yn cwmpasu ystod eang o bynciau. Mynnwch gipolwg a rhowch wybod i ni beth yw eich barn. Gellir cael mynediad i'r safle yma: http://site.ebrary.com/lib/aber/home.action  neu drwy'r dudalen treialon e-adnoddau (http://www.aber.ac.uk/cy/is/elecinfo/trials/). Mae canllaw i ddefnyddwyr ar gael yma: http://www.ebrary.com/corp/collateral/en/Quick_Guides/Quick_Guide.pdf.

Gellir cyrchu ebrary Academic Complete oddi ar y campws trwy Shibboleth neu gysylltiad Aber VPN.

Anfonwch e-bost at acastaff@aber.ac.uk  gydag unrhyw adborth sydd gennych.