Newyddion
Rhowch label ar eich cofben USB
11/01/2017
Peidiwch â gwastraffu eich arian na cholli eich gwaith - labelwch eich cofbennau USB.
O'r 283 cof-bennau USB a roddwyd i mewn i Lyfrgell Hugh Owen rhwng Ionawr a Mehefin eleni (sef cyfartaledd o 40 bob mis) dim ond nifer fechan oedd modd eu hadnabod. Dim ond 150 o'r cofbennau coll oeddem yn medru dychwelyd i’w perchnogion.
Peidiwch â gwastraffu eich arian na cholli eich gwaith - labelwch eich cofbennau USB. Yna, bydd modd i ni gysylltu â chi os yw eich cofben yn cael ei rhoi i mewn i unrhyw un o'n llyfrgelloedd.