Gwella'ch rhagolygon gyrfaol

Ydych chi'n dechrau meddwl am eich gyrfa yn y dyfodol?
Mae datblygu sgiliau a fydd yn eich gwneud yn ddeniadol i gyflogwyr ac yn rhoi dechrau da ichi pan fyddwch chi'n edrych am waith yn golygu ehangu eich sgiliau presennol, creu cysylltiadau, ehangu'ch syniadau, a deall sut i ennill profiadau a'u defnyddio i wella'ch rhagolygon gyrfaol yn y dyfodol.
Lluniwyd ein modiwlau gyda golwg ar anghenion cyflogwyr a phroffesiwn y gyfraith a throseddeg ac rydym yn rhoi pwyslais mawr ar ddatblygu'ch sgiliau proffesiynol. Rydym hefyd yn gweithio gyda Gwasanaeth Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth i sicrhau bod ein holl fyfyrwyr yn derbyn y cyngor y maen nhw ei angen.
Am gwestiynau sy'n ymwneud â Gyrfaoedd cysylltwch â:
Y Gyfraith
Caroline Whitby
Ebost: caw96@aber.ac.uk
Ffôn: +44 (0) 1970 622406
Throseddeg
Dr Gwyn Griffith
Ebost: gwg10@aber.ac.uk
Ffôn: +44 (0) 1970 622720
Neu'r Gwasanaeth Gyrfaoedd
Ebost: careers@aber.ac.uk
Ffôn: +44 (0) 1970 622378
Mae cymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol megis ymuno â chymdeithasau, gwirfoddoli ac ymgymryd â phrofiad gwaith wrth astudio'n ffordd dda i ddangos i gyflogwyr eich bod yn frwd ac yn fodlon mentro. Rydym yn annog ein holl fyfyrwyr i geisio gwneud y gorau o'u hamser gyda ni. i'ch cynorthwyo yn hyn o beth, rydym wedi casglu gwybodaeth ddefnyddiol ynghyd. Cliciwch ar y tabiau i ganfod mwy.