Ein Clinigau Cyfreithiol

Cyn-filwyr a theuluoedd yn mynychu clinigau cyfreithiol sy'n cael eu rhedeg gan Adran y Gyfraith a Throseddeg

Ymunwch â'n prosiectau Clinigau Cyfreithiol i wella'ch cyfleoedd gyrfaol.

Mae hyn yn gyfle i feithrin sgiliau a phrofiad yn y gweithle i ategu'r wybodaeth a ddysgir ar y cwrs.

Y Clinig Cyfraith Teulu

Mae’r clinig yn cynnig cyngor cyfreithiol, cyfrinachol am ddim mewn cyfraith teulu a phlant, sy’n faes y gall pobl ei chael hi’n anodd i ganfod a fforddio gwasanaethau cyfreithiol eraill ynddo. Ar yr un pryd, mae’r clinig yn rhoi cyfle i’r myfyrwyr gael profiad gwerthfawr o fywyd go-iawn ac i roi’r theori maen nhw wedi’i ddysgu ar waith. Mae gwaith y clinig yn cael ei oruchwylio gan gyfreithiwr profiadol, er mwyn sicrhau bod y cyngor cyfreithiol o safon uchel drwyddo draw.

Byddwch yn meithrin sgiliau a phrofiad yn y gweithle i ategu'r wybodaeth a ddysgir ar y cwrs.

Prosiect Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr

Sefydlwyd Cyswllt Cyfreithiol y Cyn-filwyr yn 2015 i fynd i’r afael â’r diffyg cyngor cyfreithiol yng Nghymru.

Mae’r prosiect yn gwahodd cyfreithwyr a myfyrwyr y gyfraith i helpu cyn-filwyr a’u teuluoedd i dderbyn cyngor cyfreithiol am ddim. Mae’r gwasanaeth yn cynorthwyo cyn-filwyr a’u teuluoedd i ailymuno â chymdeithas drwy ddarparu gwasanaeth cyfeirio cynhwysfawr ar gyfer cyngor cyfreithiol a gwasanaethau cynghori ehangach nad ydynt yn rhai cyfreithiol.

Caiff y prosiect ei redeg ledled y wlad ar- lein, ar y ffôn, ar Skype ac wyneb yn wyneb. Rydym yn edrych am fyfyrwyr gyda sgiliau cyfrifiadurol a gofal cleientiaid rhagorol i wasanaethu amrywiaeth o gleientiaid sy'n wynebu ystod o heriau cyfreithiol.

Bydd disgwyl ichi weithio'n hyblyg gan gynnwys gyda'r nos ac ar benwythnosau fel bo'r angen. Ceir hawlio treuliau.

Mae hyn yn gyfle i wella'ch rhagolygon gyrfa gan feithrin sgiliau a phrofiad yn y gweithle sy'n ategu'r wybodaeth a ddysgir ar eich cwrs gradd.

Mynnwch gip ar Ein Prosiectau i gael rhagor o wybodaeth.