Amdanom Ni
Rydym wedi ein lleoli yn Adeilad yr Arglwydd Milford ar Gampws Gogerddan yn Aberystwyth.
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cael ei benodi gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ddarparu pob cwrs Cymraeg i Oedolion yng Ngheredigion, Powys a Sir Gâr.
Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn gorff newydd sy'n gyfrifol am bob agwedd ar y maes Cymraeg i Oedolion. Mae'n gweithredu fel corff hyd braich oddi wrth y Llywodraeth ac mae ganddi weledigaeth glir ar gyfer y dyfodol.
Bydd y Ganolfan yn:
- sefydliad gweledol sy'n gosod cyfeiriad strategol cenedlaethol i'r maes Cymraeg i Oedolion
- cynnig arweiniad i ddarparwyr Cymraeg i Oedolion
- codi safonau addysgu a dysgu Cymraeg i Oedolion
- datblygu cwricwlwm cenedlaethol difyr, priodol ac o safon a chynhyrchu adnoddau sy'n addas i bob mathau o ddysgwyr.