Pam Dysgu Cymraeg?

Cant a mil o resymau dros ddysgu Cymraeg

Ni fu erioed amser gwell i ddysgu Cymraeg. Mae dros 582,000 o bobl yn siarad yr iaith a miloedd ar filoedd o bobl yn dysgu. Mae dwyieithrwydd yn gallu cynnig mantais addysgiadol, yrfaol a diwylliannol i chi a'r teulu. Ydy'r amser wedi dod i chi dechrau dysgu neu wella'ch Cymraeg? 

Beth sy'n cymell pobl i ddysgu Cymraeg? 

Dyhead personol

Mae nifer o bobl yn dewis dysgu'r iaith oherwydd eu bod yn mwynhau her newydd. Os nad ydych chi wedi ystyried dysgu Cymraeg o'r blaen, beth am roi cynnig arni? Byddwch yn sylweddoli'n fuan bod yr iaith yn fyw yn y rhan fwyaf o gymunedau yng Nghymru, a bydd siarad yr iaith yn agor y drws i nifer o brofiadau a chyfleoedd newydd.

Diwylliant

Ydych chi'n teimlo'n angerddol am fod yn Gymro neu'n Gymraes ond nad ydych wedi dysgu'r iaith yn yr ysgol? Neu ydych chi wedi symud i Gymru ac eisiau profi gwir ddiwylliant Cymru? Beth am gofrestru ar gwrs Cymraeg a chyflawni'ch uchelgais unwaith ac am byth?

Gwaith

Mae'r Gymraeg yn cael ei defnyddio fwyfwy fel iaith fusnes. Yn yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, mae'n rhaid i sefydliadau gynnig gwasanaeth cwsmeriaid dwyieithog. Yn sgìl hyn, mae nifer o bobl am ddysgu Cymraeg i wella eu potensial. Tybed a all siarad Cymraeg agor drysau i chi yn y gweithle?

Teulu

Ydy'r plant yn dysgu Cymraeg yn yr ysgol? Hoffech chi siarad Cymraeg gyda nhw a'u helpu gyda'u gwaith cartref? Mae llawer o gyrsiau Cymraeg yn y Cartref i rieni i ddysgu Cymraeg tra bod eu plant yn yr ysgol neu'r feithrinfa. Beth am roi cynnig arni, a dysgu'r iaith gyda'ch plant? Mae hefyd yn bosib i chi ddysgu Cymraeg gyda'ch babi gyda Cymraeg o'r Crud.