Cymraeg yn y Catref

Oes diddordeb gyda chi mewn dysgu geirfa a chymalau Cymraeg sy’n addas i’w defnyddio gartref o fewn y teulu?  Fasech chi’n hoffi cefnogi eich plentyn i siarad, darllen a dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg? Oes tipyn bach o Gymraeg gyda chi yn barod ond eich bod chi efallai ddim digon hyderus i siarad? 

Mae’r cyrsiau Cymraeg yn y Cartref yn rhoi cyfle i rieni/gwarchodwyr plant ddysgu Cymraeg sy’n berthnasol i fyd plant a hynny mewn awyrgylch hwyliog ac anffurfiol.  Byddwch yn defnyddio adnoddau Cymraeg sydd i’w cael ar-lein a gemau fydd yn addas i’w defnyddio gartref hefyd. Byddwch yn dysgu caneuon y bydd plant yn arfer eu canu ac yn dysgu ychydig am ddiwylliant cyfredol a thraddodiadau Cymreig.

Mae cyrsiau 1.5 awr yr wythnos gyda ni ar Zoom ac ambell gwrs wyneb yn wyneb hefyd.  ‘Dyn ni’n gweithio’n agos gyda rhai ysgolion i gynnig cyrsiau unigryw a phenodol i’r rhieni hynny.  Golyga hyn y gallwn roi sylw i themâu a gweithgareddau sy’n berthnasol i’r ysgol / dosbarth dan sylw.

Am ragor o wybodaeth am fanteision addysg Gymraeg neu ddwyieithog ewch i: https://dysgucymraeg.cymru/dysgu/cefnogi-rhieni-a-theuluoedd/