Cynhadledd Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr Flynyddol

Mae Tîm Aggsyg Ddigidol sy'n gyfrifol am drefnu Gynhadledd Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr Flynyddol Prifysgol Aberystwyth. Mae'r gynhadledd yn dod â'r gymuned dysgu ac addysgu at ei gilydd o bob rhan o'r Brifysgol i ddathlu, rhannu, a rhoi llwyfan i'r dulliau cyffrous ac arloesol sy'n cael eu defnyddio wrth ddysgu.

Mae'r gynhadledd yn cynnwys gweithdai, arddangosiadau, cyflwyniadau a siaradwyr gwadd. 

Y 14eg Gynhadledd Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr Flynyddol

Cyd-greu Dyfodol Cynhwysol: Dysgu Hyblyg, Amrywiol sydd wedi’i ysgogi gan Gymhwysedd

Cynhelir y gynhadledd eleni rhwng dydd Mawrth 8 Medi a dydd Iau 10 Medi a bydd yn canolbwyntio ar y pynciau canlynol:

  • Creu Cwricwlwm mwy Amrywiol ar gyfer Tegwch ac ymdeimlad o Berthyn
    • Adeiladu cwricwlwm cynhwysol, dad-drefedigaethol sy'n adlewyrchu hunaniaethau a phrofiadau amrywiol, gan hyrwyddo'r Siarter Cydraddoldeb Hil.
  • Dysgu Hyblyg ar gyfer Tirwedd sy'n Newid
    • Cynlluniau dysgu cymysg, cyfunol a hygyrch sy'n cefnogi anghenion amrywiol dysgwyr trwy osod cyflymder, strwythur a thechnoleg feddylgar.
  • Dysgu sydd wedi’i ysgogi gan Gymhwysedd
    • Integreiddio sgiliau, nodweddion graddedigion, a chymhwyso cymwyseddau yn y byd go iawn yn glir ac ystyrlon.
  • Myfyrwyr fel Cyd-grewyr a Chydweithwyr
    • Cydweithredu dilys rhwng myfyrwyr a staff wrth gynllunio’r cwricwlwm, asesu, ymchwil, a gwneud penderfyniadau.

Bydd y gynhadledd yn ddigwyddiad hybrid gyda sesiynau dydd Mawrth 8 Medi yn cael eu cynnal ar-lein drwy Microsoft Teams, ac yna sesiynau dydd Mercher 9 Medi a dydd Iau 10 Medi yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb. 

Mae'r Alwad am Gynigion bellach ar agor, os oes gennych ddiddordeb mewn cyflwyno rhywbeth yn y gynhadledd, llenwch y ffurflen hon cyn y dyddiad cau am 23:45 ddydd Gwener 22ain Mai

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod i’r gynhadledd, llenwch y ffurflen hon.

I gael y newyddion diweddaraf, cofrestrwch ar gyfer ein blog.

 

Llyfryn Rhaglen Cynhadledd

Archif y gynhadledd: