Ymchwil

Staff yr Adran Ieithoedd Modern yn gwneud eu gwaith ymchwil

Mae ein staff addysgu'n weithgar ym maes ymchwil ac yn gweithio ar lefel fyd-eang. Mae eu gwaith wedi cael ei ariannu gan yr Academi Brydeinig, Cyngor Ymchwil yn y Celfyddydau a'r Dyniaethau, a'r Wellcome Trust, ymhlith eraill. Cyhoeddwyd y canlyniadau gyda rhai o'r prif gyhoeddwyr ac yn rhai o'r prif gyfnodolion ysgolheigaidd.

Mae'r ymchwil hon yn sail i'n haddysgu ac mae ein diddordebau ymchwil yn eang ac yn ddeinamig. Rydym yn manteisio ar rwydwaith eang o gysylltiadau a phrosiectau ar y cyd, ar lefel genedlaethol a byd-eang, gan weithio gydag academyddion ac ymarferwyr creadigol o bedwar ban byd ar brosiectau cyffrous ac arloesol. Mae hyn yn golygu eich bod chi, ein myfyrwyr, yn cael y wybodaeth ddiweddaraf yn ystod eich cwrs gradd. 

Cliciwch ar y tabiau isod i ddarllen am rai o'n prosiectau ymchwil diweddaraf.

Y Geiriadur Eingl-Normaneg

Mae prosiect y Geiriadur Eingl-Normaneg yn astudio ac yn cofnodi'r iaith Eingl-Normaneg - tafodiaith Ffrangeg canoloesol a gyflwynwyd ym Mhrydain ar ôl y Goncwest Normanaidd yn 1066. Defnyddiwyd yr iaith hon yn helaeth ym mhob agwedd ar fywyd canoloesol ym Mhrydain, megis llenyddiaeth, y gyfraith, crefydd, masnach, gwyddoniaeth, addysg a gweinyddiaeth, hyd at ddiwedd yr Oesoedd Canol. O ganlyniad, cafodd Eingl-Normaneg effaith fawr ar ddatblygiad yr iaith Saesneg, ac ni ellir gorbwysleisio’r effaith hon: mae geiriau Saesneg modern, megis exercise, literature, petty, frail, place neu dragon, i gyd yn tarddu o eiriau benthyg o'r iaith Eingl-Normaneg. Amcangyfrifwyd bod Eingl-Normaneg wedi siapio mwy na hanner yr eirfa Saesneg fel y'i cofnodwyd gan Eiriadur Saesneg Rhydychen.

Lluniwyd y Geiriadur Eingl-Normaneg 80 mlynedd yn ôl fel cofnod cynhwysfawr o eirfa'r iaith hon, ac fe’i cyhoeddwyd mewn cyfres o gyfrolau a argraffwyd rhwng 1977 a 1992. Dechreuodd rhaglen o ddigideiddio ac adolygu ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2003 i gynhyrchu ail argraffiad estynedig ar-lein o'r geiriadur (Y Geiriadur Eingl-Normaneg), ac mae’r gwaith hwn yn dal i fynd rhagddo. Mae'r gwaith ymchwil, a wneir gan dîm golygyddol ym Mhrifysgol Aberystwyth, wedi’i ariannu gan bum grant yn olynol gan yr ARHC, ac ar hyn o bryd mae'n canolbwyntio ar adolygu T-Z. Ers 2006 mae'r adnodd wedi bod ar gael yn rhad ac am ddim i'r cyhoedd. Mae'r Geiriadur Eingl-Normaneg ar-lein wedi sefydlu ei hun fel yr adnodd awdurdodol ar eirfa Eingl-Normaneg, gan ddarparu adnodd hanfodol ar gyfer ystod eang o ddefnyddwyr: arbenigwyr academaidd (gan gynnwys ieithyddion, ysgolheigion llenyddol, archifwyr a haneswyr), yn ogystal â phobl nad ydynt yn arbenigwyr sydd â diddordeb ym mywyd ac ieithoedd Prydain yn yr Oesoedd Canol.

Dylanwadwyr Trefedigaethol: Hanes Anghofedig Myfyrwyr ar Ymgyrch yn Indotsieina

Mae'r prosiect ymchwil hwn, a ariennir gan yr Academi Brydeinig, yn ymdrin â  hanes 'anghofiedig' yn nhrefedigaethedd Ffrainc. Yn 1924, er mwyn hyrwyddo ideoleg drefedigaethol, anfonwyd sawl grŵp o fyfyrwyr elitaidd i wahanol rannau o'r Ymerodraeth Ffrengig, i fod yn dystion i ragoriaeth 'cenhadaeth drefedigaethu' Ffrainc ac i ddod yn hyrwyddwyr iddi ar ôl dychwelyd – heddiw byddem yn eu galw'n 'ddylanwadwyr’ dros yr achos trefedigaethol. Fodd bynnag, methodd y teithiau â chyflawni eu nod, ac ni chawsant unrhyw ganlyniadau pendant.  Yn y pen draw, aeth y teithiau hyn yn angof, ac nid oeddent yn hysbys ym myd ysgolheictod chwaith.

Darganfu Dr Gelléri dystiolaeth archifol o un o’r teithiau hyn, lle teithiodd grŵp o ferched yn unig i Indotsieina, sef Fietnam a Chambodia heddiw. Yn dilyn hynny, llwyddodd i ganfod enwau’r rhai a gymerodd rhan yn y daith a chwrdd â'u disgynyddion, a rannodd amrywiaeth o ddeunyddiau gydag ef nad oeddent wedi’u cyhoeddi: ysgrifau teithio a channoedd o ffotograffau. Trwy'r cyfrifon hyn, rydym yn darganfod stori ddiddorol. Ar y naill law, roedd y myfyrwyr yn teithio mewn moethusrwydd: roeddent yn gwisgo dillad cynllunydd, cawsant gwrdd â'r elitiau lleol, a rhyfeddu at olygfeydd Angkor a Bae Halong. Ar y llaw arall, cafodd y daith ei difetha gan wrthdaro: roedd gwrthdaro mewnol, anghytundebau gyda'r trefnwyr a darganfu'r myfyrwyr hefyd ochr dywyll i drefedigaethedd.

Mae'r astudiaeth achos unigryw hon yn rhoi cipolwg ar amrywiaeth o bynciau. Rydym yn cael gwell dealltwriaeth o'r profiad o drefedigaethedd a bywyd yn dilyn trefedigaethedd, a dyddiau cynnar twristiaeth drefedigaethol. Ond mae'r prosiect hefyd yn cynnig cipolwg ar sut beth oedd bod yn fyfyriwr benywaidd yn y 1920au, yn Ffrainc ei hun ac yn y trefedigaethau. Nod y prosiect, y tu hwnt i gyhoeddiadau ysgolheigaidd, yw creu arddangosfa a ffilm ddogfen.

Sinema Ciwba Gyfoes: Gofod Newydd, Hanes Newydd

Nod y prosiect ymchwil hwn gan Dr Guy Baron yw ennill gwell dealltwriaeth o’r cysylltiad rhwng ffilmiau Ciwbaidd a chymdeithas Ciwba ar ôl 1990. Mae llawer o astudiaethau wedi’u gwneud eisoes sydd wedi datblygu dealltwriaeth o ffilmiau Ciwbaidd a’r gymdeithas cyn 1990. Mae’r astudiaethau hyn yn datblygu’r cysylltiad rhwng twf yr ymwybyddiaeth chwyldroadol ar draws y celfyddydau yng Nghiwba a’r ymdrech i ddehongli a mynegi’r ymwybyddiaeth honno drwy gyfrwng ffilm.

Ar ôl 1990 fodd bynnag, pan oedd Ciwba’n dioddef o’r argyfwng mwyaf yn ei hanes chwyldroadol oherwydd methiant y gomiwnyddiaeth Ewropeaidd, bu llawer o’r pwyntiau cyfeiriol ideolegol yn newid. O ganlyniad i hynny, datblygwyd dulliau newydd i fynegi’r newid hwnnw yn y sinema Giwbaidd er mwyn ymgynefino â’r newidiadau economaidd a chymdeithasol enfawr a ddaeth yn sgîl hyn oll. Pwrpas yr ymchwiliad hwn yw archwilio sut y cafodd y newidiadau hyn eu mynegi er mwyn canfod i ba raddau y mae’r wladwriaeth yn ymgorffori’r mynegiant ffilmaidd hwnnw yn yr ideoleg swyddogol mewn proses sydd yn datblygu’n barhaus.

Mae ugain mlynedd wedi mynd heibio ers y cafodd methiant Comiwnyddiaeth yn Nwyrain Ewrop effaith mor ddofn ar economi a lles cymdeithasol a diwylliannol Ciwba. Yn ystod yr amser yna mae sinema Ciwba wedi datblygu mewn ffordd benodol, o fewn sefydliad ffilm swyddogol y wladwriaeth, a’r tu allan iddo, i fynegi bodlonrwydd ac anfodlonrwydd â’r broses chwyldroadol barhaus.

Yng Nghiwba, mae sinema wastad wedi bod yn rhan o sylfaen ddiwylliannol y chwyldro, ac mae hynny’n wir hyd heddiw. Mae angen parhau ag ymchwilio i’r maes hwn er mwyn dal ati i ddeall proses sydd mor arwyddocaol yng nghyd-destun y byd. Cynhelir seminarau i ddatblygu’r ddealltwriaeth hon ac i feithrin perthynas ddiwylliannol gynaliadwy rhwng Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Havana.

 

Y Kindertransport 1938/39: Hanes a Chof Ffenomen Brydeinig

Yn ystod y degawd diwethaf - ac yn enwedig felly ar yr adeg pan gofnodwyd deng mlynedd a thrigain ers ei gychwyn - mae’r Kindertransport wedi derbyn mwyfwy o sylw cyhoeddus ym Mhrydain, yn dod i’r amlwg mewn rhaglenni teledu, ffilmiau, erthyglau papurau newyddion ac wrth ddadorchuddio cofebau cyhoeddus.

Mae prosiect Yr athro Andrea Hammel yn archwilio hanes a chof cyn-aelodau’r Kindertransport – y grŵp o ffoaduriaid a ddaeth i Brydain sydd wedi ei gofnodi yn fwyaf helaeth yn ôl yr hanesydd Tony Kushner.

Mae’r term Kindertransport yn cael ei ddefnyddio fel arfer i gyfeirio at achub yn agos i 10,000 o blant o gefndiroedd Iddewig a ddaeth heb eu rhieni o’r Almaen ac Awstria trwy eu cludo i Brydain rhwng Rhagfyr 1938 a dechrau’r Ail Ryfel Byd ym mis Medi 1939. Gan ddefnyddio dulliau hanesyddol-gymdeithasol yn ogystal â beirniadaeth ddiwylliannol, bydd yr astudiaeth hon yn edrych ar gofnodion archifol, deunydd hunangofiannol a phortreadau yn y cyfryngau. Mae’r prosiect yn ceisio dod â sawl trywydd ymchwil ynghyd: (a) hanes polisi allfudo’r blaid Sosialaidd-Genedlaethol a’i effaith ar ddatblygu’r Kindertransport; (b) hanes y polisi mewnfudo Prydeinig a’i effaith ar dderbyn y plant i Brydain; (c) cadw’r Kindertransport yn y cof trwy law dogfennau hunangofiannol, trefnu digwyddiadau a chofebau cyhoeddus, yn ogystal â: (ch) trafod y Kindertansport yng nghyd-destun hanesyddiaeth Brydeinig a’r ymwybyddiaeth gyhoeddus. Cefnogir y prosiect gan y Claims Conference a’r Academi Brydeinig.