Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
DD20420
Teitl y Modiwl
SGILIAU SGRIPTIO
Blwyddyn Academaidd
2009/2010
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Rhagofynion
Cwblhau rhan un yn llwyddiannus

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd Darlithiau 4 x 1.5 awr
Seminarau / Tiwtorialau 5 x 1 awr
Sesiwn Ymarferol Dosbarthiadau ymarferol 1 x sesiwn deuddydd yn Sherman Caerdydd. Bydd y sesiynau yma yn cynnwys sesiynau gwylio deunydd sgriptio newydd a gyflwynir yn yr wyl. Fe fydd cyfle drafod ac ymateb yn feirniadol i'r gwaith a gyflwynir ac i leoli hwnnw yn nghyd-destun cynnyrch creadigol y myfyrwyr. Fe fydd yn gyfle i fyfyrwyr lunio map syniadaethol o sgriptio yng Nghymru fodern ac i fyfyrio dros eu cyfraniad nhwn i'r tirlun hwnnw. Fe fydd cyfle i fyfyrwyr gyflwyno elfennau o'u gwaith creadigol eu hunain i ymarferwyr professiynol o dan arweiniad rheolwraig creadigol yr wyl, Sian Summers.
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Er mwyn ail-sefyll y modiwl rhaid i fyfyrwyr gyflwyno 2 x sgript unigol, sgript 1 = 30%, sgript 2 = 50% a portffolio = 20% 
Asesiad Semester Portfolio  20%
Asesiad Semester Sgript terfynol  30%
Asesiad Semester Cyfraniad i sesiynau dysgu  10%
Asesiad Semester Cwblhau tasgiau rhagbaratoadol  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. sianelu eu hynni creadigol yn bwrpasol trwy gyflawni tasgiau penodol

2. llunio cronfa syniadau ar sail eu profiadau personol boed yn rhai uniongyrchol neu anuniongyrchol

3. datblygu syniad yn fraslun o weithgaredd dramataidd

4. creu cymeriad dychmygus a rhoi llais priodol iddo/i

5. arddangos sgiliau llunio monolog a deilalog

6. ymateb yn gadarnhaol i feirniadaeth a chyngor arbenigol

7. cyflwyno sgript ysgrifenedig i amserlen penodedig wedi ei olygu mewn modd ac i safon proffesiynol

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl yn cyflwyno myfyrwyr i nifer o'r sgiliau sylfaenol sy'n berthnasol i'r grefft o ysgrifennu sgriptiau drama megis ymateb i sbardun, trefnu amser, canoli ar dasgau penodol o fewn i amserlen benodedig, sgiliau cynllunio a pharatoi, sgiliau llunio monolog a deialog, y grefft o lunio cymeriad, sgiliau adolygu a golygu ac ymateb yn bositif i feirniadaeth allanol.

Cynnwys

Bydd y modiwl yn cynnwys 4 sesiwn 1.5 awr gan ymarferwyr gwadd a 4 x sesiwn 1 awr o diwttora ynghyd a 2 diwrnod ar leoload yn Sherman Cymru Caerdydd. Cyfanswm o 20 awr cyswlt.

  • Sesiwn 1: Chwilio a chanfod ysbrydoliaeth
  • Sesiwn 2: Ymateb i sbardunau amrywiol
  • Sesiwn 3: Datblygu syniad yn fraslun ac ymgorffori'r braslun ar ffurf gweithgaredd dramataidd
  • Sesiwn 4: Creu cymeriadau a rhoi llais iddynt
  • Sesiwn 5-8: Bydd y sesiynau yma yn gyfle i adolygu a thrafod y gwaith a gyflwynir yn y sesiynau gan ymarferwyr gwadd ac i weithio ar greu a golygu gwaith sgriptio a lunir mewn ymateb i'r sbardun hwnnw. Fe fydd y cyfnod dwys hwn yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ddod i gysylltiad gyda chorff sylweddol o waith newydd sgriptwyr ifanc trwy gyfrwng yr wyl ei hun sy'n ffenestr siop i waith sgriptio newydd yn y Gymraeg. Fe fydd hi hefyd yn darparu cyfle i fyfyrwyr dderbyn sylwadau gan sgriptwyr proffesiynol ar y gwaith a'r syniadau a ddyfeisiwyd ganddynt yn ystod y flwyddyn.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Datblygir y sgil hwn wrth i fyfyrwyr lunio cymeriadau a rhoi llais iddynt ac wrth iddynt drafod eu cynlluniau gyda thiwtoriaid a chyd-fyfyrwyr trwy gyfrwng yr hafan gwe a'r sesiynau tiwtorial penodedig
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygir y sgil wrth i fyfyrwyr lunio portffolio a fydd yn cyflwyno eu gwaith ar y cyd yn ogystal a'r cryfderau a diddordebau personol yn sgil y broses o ddilyn y modiwl.
Datrys Problemau Datblygir y sgil hwn wrth i fyfyrwyr fynd i'r afael a'r broblem o ganfod a chynnal ysbrydoliaeth ar gyfer ysgrifennu.
Gwaith Tim Datblygir y sgil hwn wrth i fyfyrwyr cyd-drafod a rhannu syniadau trwy gyfrwng yr hafan we ac ar y cyfnodau dwys yn Sherman Cymru.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Datblygir y sgil hwn wrth i fyfyrwyr sylwebu ar eu gwaith a derbyn sylwebaeth ac wrth iddynt ymgymryd a gwaith golygu ac adolygu.
Sgiliau pwnc penodol Fe ddatblygir y gallu i ysgrifennu mewn arddull ac ar fformat sy'n benodol berthnasol i waith sgriptio mewn gwrthgyferbyniad a gwaith ysgrifenedig traddodiadol megis cyflwyno traethodau neu gwblhau arholiadau ysgrifenedig . Datblygir y gallu i gyflwyno a chyfryngu gwaith mewn modd creadigol a deallus sy'n cynnwys y gallu i ymateb yn uniongyrchol ac adeiladol i feirniadaeth o du cynulleidfa neu ddarpar gynulleidfa. Datblygir y gallu i ddeall hanfod theatraidd y testun ysgrifenedig ac i gyfleu'r cyfryw ddealltwriaeth wrth baratoi deunydd ysgrifenedig ar gyfer y modiwl.
Sgiliau ymchwil Datblygir y sgil hwn wrth i fyfyrwyr chwilio am ddeunydd cefndirol addas i sbarduno sgript gwreiddiol.
Technoleg Gwybodaeth Datblygir y sgil hwn trwy ddefnyddio'r we fel cyrchfan ar gyfer deunydd cefndirol ac ymchwil yn ogystal ag wrth ddefnyddio'r hafan we fel gweithdy syniadau.

Rhestr Ddarllen

Hanfodol
Gooch, Steve (1995) Writing a Play Chwilio Primo
Testun A Argymhellwyd
Dancyger, Ken & Jeff Rush (1995) Alternative Scriptwriting: Successfully Breaking the Rules Oxford Chwilio Primo Davis, Rib (2001) Developing Characters for Scriptwriting A & C Black Chwilio Primo Phillips, William (1999) Writing Short Scripts Syracuse University Press Chwilio Primo Thomas, M. Wyn (1992) Internal Difference: Twentieth Century Writing in Wales University of Wales Press Chwilio Primo Wood, David (1944) Theatre for Children: A Guide to Writing, Adapting, Directing and Acting Faber Chwilio Primo Yeger, Sheila (1990) Sound of One Hand Clapping Amber Lane Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5