Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
TC25920
Teitl y Modiwl
Actio i Gamera
Blwyddyn Academaidd
2015/2016
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Portffolio Myfyrgar/Hunanfyfyrgar/Arfarnol (2,500 o eiriau)  40%
Arholiad Semester 7 Awr   Arholiad Ymarferol  60%
Asesiad Ailsefyll Portffolio Myfyrgar/Hunanfyfyrgar/Arfarnol (2,500 o eiriau)  40%
Arholiad Ailsefyll 7 Awr   Arholiad Ymarferol  60%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Weithio'n effeithiol mewn grŵp bach ar gyfres o olygfeydd penodol

2. Defnyddio ystod o dechnegau perfformio ar gyfer y sgrin

3. Trafod, dehongli, a myfyrio'n feirniadol ar ystod o brosesau

Disgrifiad cryno

Fe fydd y modiwl yn rhoi cyfle i fyfyrwyr archwilio potensial y berthynas rhwng perfformiwr a chamera. Ar y cyd â modiwlau eraill sy'n canoli ar berfformio, fe fydd y modiwl yn ymestyn gallu myfyrwyr i berfformio mewn cyd-destunnau gwahanol.

Nod

Nod y modiwl yw ymestyn sgiliau perfformio myfyrwyr wrth rhoi theori ar waith wrth berfformio.

Cynnwys

Pynciau a wyntyllir mewn gweithdai ymarferol:

1. Stanislavski a Chekhov

2. Perfformio byw a pherfformio sgrin

3. Adnoddau 1: Y Llais

4. Adnoddau 2: Y Corff

5. Pellter saethiadau

6. Creu cymeriad

7. Dadansoddi testun

8. Saethu

9. Genre 1: Sebon a Drama

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Mae cyfathrebu yn hanfodol i'r modiwl. Disgwylir i fyfyrwyr gyfrannu at drafodaethau mewn gweithdai. Fe fydd myfyrwyr yn creu portffolio myfyrgar/hunanfyfyrgar.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu ymwybyddiaeth o ddiddordeb a medrau personol, ac ychwanegu ar sgiliau sylfaenol.
Datrys Problemau Adnabod problemau wrth weithio ar olygfa benodol, ceisio dod o hyd i atebion a bod yn ymwybodol o gymhlethdodau.
Gwaith Tim Fe fydd disgwyl i fyfyrwyr weithio mewn grwpiau bychan yn y gweithdai ac i ddeall deinamig grwp.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Fe fydd ymateb i adborth a gwella perfformiad yn rhan ganolog o weithdai'r modiwl hwn.
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Disgwylir i fyfyrwyr ddarllen ac ymchwilio i ystod eang o ffynonellau.
Technoleg Gwybodaeth Er nad yw'n cael ei asesu yn ffurfiol, disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio'r We i ymchwilio, a medru defnyddio pecynnau geirbrosesu.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5