Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
CYM1320
Teitl y Modiwl
Polisi Iaith yng Nghymru
Blwyddyn Academaidd
2016/2017
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Traethawd ar theori polisi iaith. Dim mwy na 2,500 o eiriau.  40%
Asesiad Semester Traethawd ar agwedd ar bolisi iaith yng Nghymru - addysg, y gyfraith neu'r gymdeithas. Dim mwy na 2,500 o eiriau.  40%
Asesiad Semester Llunio dogfen bolisi iaith sefydliad dychmygol. Dim mwy na 750 o eiriau  20%
Asesiad Ailsefyll Ailgyflwynir elfennau a fethwyd yn unol â’r canrannau a nodir, uchod. 

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

deall a diffinio hanes datblygiad polisïau iaith yng Nghymru

deall a diffinio egwyddorion sylfaenol theorïau polisi iaith

meithrin sgiliau dadansoddi trwy bwyso a mesur gwendidau a chryfderau polisïau iaith yng nghyd-destun addysg, y gyfraith a’r gymdeithas

deall a diffinio natur polisïau iaith mewn gwledydd eraill

adnabod a chloriannu ffynonellau ymchwil/darllen sy’n berthnasol i’r maes.

Disgrifiad cryno

Amcan y modiwl hwn yw cyflwyno gwybodaeth hanesyddol, theoretig ac ymarferol am bolisi iaith yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Bydd y myfyrwyr yn dysgu am gyd-destun polisi iaith yng Nghymru gan ystyried effaith polisïau iaith cenedlaethol ar sefydliadau cyhoeddus a phreifat. Dysgir sgiliau dadansoddi wrth i’r myfyrwyr bwyso a mesur gwendidau a chryfderau polisïau iaith hanesyddol a chyfredol. Edrychir ar effaith polisïau iaith ar feysydd penodol sef addysg, y gyfraith a’r gymdeithas. Cymherir sefyllfa Cymru gyda sefyllfa ieithoedd lleiafrifol mewn gwledydd eraill a sefyllfa gwledydd amlieithog eraill gan ystyried a oes modd dysgu o’u hesiampl nhw.

Cynnwys

Wythnos 1
Sesiwn 2 awr (Darlith a seminar i ddilyn) - Hanes Polisi Iaith yng Nghymru

Wythnos 2
Sesiwn 2 awr (Darlith a seminar i ddilyn) - Theori Polisi Iaith

Wythnos 3
Sesiwn 2 awr (Darlith a seminar i ddilyn) - Theori Polisi Iaith

Wythnos 4
Sesiwn 2 awr (Darlith a seminar i ddilyn) - Cymharu Bwrdd yr Iaith Gymraeg a'r Comisiynydd Iaith

Wythnos 5
Sesiwn 2 awr (Darlith a seminar i ddilyn) - Effaith y Safonau Iaith ar sefydliadau cyhoeddus a phreifat

Wythnos 6
Sesiwn 2 awr (Darlith a seminar i ddilyn) - Polisi Iaith ac Addysg

Wythnos 7
Sesiwn 2 awr (Darlith a seminar i ddilyn) - Polisi Iaith a'r Gyfraith

Wythnos 8
Sesiwn 2 awr (Darlith a seminar i ddilyn) - Polisi Iaith a'r Gymdeithas

Wythnos 9
Sesiwn 2 awr (Darlith a seminar i ddilyn) - Gwledydd eraill: Gwledydd ac ardaloedd amlieithog (Quebec, Gwlad Belg)

Wythnos 10
Sesiwn 2 awr (Darlith a seminar i ddilyn) - Gwledydd eraill: Ieithoedd lleiafrifol (Gwlad y Basg, Iwerddon)

Bydd y sesiynau dwyawr yn rhoi cyflwyniad i'r meysydd a amlinellir uchod ac yn rhoi'r cyfle i'r myfyrwyr drafod y pynciau.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Mae cyfathrebu effeithiol yn hanfodol i’r seminarau a gynhelir ar y modiwl hwn; disgwylir i’r myfyrwyr gyfrannu at drafodaethau wrth asesu gwahanol bolisïau iaith. Disgwylir i'r myfyrwyr wneud defnydd o Gymraeg cywir yn ysgrifenedig fel rhan o'u haseiniadau.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Dysgir sgiliau ymchwil, dadansoddi a chymhwyso. Mae cynnwys y modiwl hwn yn cynnig gwybodaeth a dealltwriaeth hanfodol ar gyfer unigolion sydd â diddordeb mewn gyrfaoedd ym maes polisi iaith.
Datrys Problemau Wrth drafod natur polisïau iaith sefydliadol a chenedlaethol disgwylir i’r myfyrwyr gymhwyso gwedd ddadansoddol y modiwl wrth lunio eu polisïau eu hunain.
Gwaith Tim Bydd angen i'r myfyrwyr drafod theori polisi iaith a dadansoddi polisïau iaith penodol a pharchu safbwyntiau myfyrwyr eraill.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Y gallu i gynhyrchu tasgau dadansoddol yn effeithiol, gan gynnwys cymhwyso’r ymchwil/darllen wrth lunio’r aseiniadau ar bolisi iaith.
Rhifedd Amherthnasol yn y cyswllt hwn.
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Mae sgiliau ymchwil yn rhan bwysig o’r aseiniadau a osodir ar y modiwl hwn: disgwylir i fyfyrwyr ennill gwybodaeth am hanes a theori polisi iaith a dadansoddi ystod o bolisïau sefydliadol a chenedlaethol.
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i fyfyrwyr brosesu geiriau wrth lunio eu haseiniadau yn ogystal â gwneud gwaith ymchwil ar-lein.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7