Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
CY31320
Teitl y Modiwl
Golwg ar Ferched mewn Llenyddiaeth hyd tua 1500
Blwyddyn Academaidd
2017/2018
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Rhagofynion
CY10110 + CY10210 + CY10310 + CY10410 NEU CY10510 + CY10610 + CY10710 + CY10810
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminar 10 x Seminarau 1 Awr
Darlith 10 x Darlithoedd 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad Atodol  60%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad  60%
Asesiad Ailsefyll Traethawd: 3000 o eiriau  40%
Asesiad Semester Traethawd: 3000 o eiriau  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

dangos dealltwriaeth o’r fframwaith theoretig rhyweddol a ffeminyddol ehangach.

adnabod y prif ddulliau llenyddol o bortreadu merched a ddefnyddid gan feirdd a llenorion Cymraeg yr Oesoedd Canol; gosod y dulliau hyn yn eu cyd-destun diwylliannol Cymreig ac Ewropeaidd.

dangos dealltwriaeth o statws a swyddogaethau’r ferch yng Nghymru’r Oesoedd Canol.

arddangos ymwybyddiaeth o natur a chyfyngiadau’r prif ffynonellau a ddefnyddir i archwilio’r maes.

medru dadansoddi a thrafod yn feirniadol ddetholiad o destunau rhyddiaith a barddoniaeth, naill ai yn y gwreiddiol neu mewn cyfieithiad neu ddiweddariad.

Cynnwys

Cyflwyno’r maes: y cyd-destun beirniadol a hanesyddol
Wythnos 1
Darlith & Seminar
• Cyflwyniad i fframwaith astudiaethau rhywedd a ffeminyddiaeth, sef y cyd-destun Ewropeaidd ac Engl-Americanaidd; rôl y beirniad ffeminyddol; lle’r modiwl hwn yn hanesyddiaeth y ddisgyblaeth; cyfiawnhau bodolaeth modiwl fel hwn fel rhan o’r ddadl dros brif-ffrydio astudiaethau rhywedd/ffeminyddiaeth.

Wythnos 2
2 Darlith
• Y cyd-destun hanesyddol: agweddau mytholegol, crefyddol, meddygol tuag at y ferch; statws a swyddogaeth y ferch, gan gynnwys gwisgoedd; y tyndra rhwng duwioldeb a rhywioldeb.

Wythnos 3
Darlith & Seminar
• Y cyd-destun hanesyddol (parhad)

Testunau penodol: taflunio lleisiau merched

Wythnos 4
2 x Darlith
• Y canu cynnar: ‘Pais Dinogad’ a llais y fam;
• ‘Canu Heledd’ a llais y ferch yn y canu englynol cynnar.

Wythnos 5
Seminar
• ‘Canu Heledd’
Darlith
• Pedeir Keinc y Mabinogi (PKM): merched a’r Mabinogi; rhywioldeb yn y Mabinogi;

Wythnos 6
Darlith & Seminar
• PKM: Rhiannon.

Wythnos 7
Darlith & Seminar
• PKM: Blodeuwedd a Branwen.

Wythnos 8
Darlith & Seminar
• Cerddi’r Gogynfeirdd i fenywod: ‘Gorhoffedd’ Hywel ab Owain Gwynedd; ‘Rhieingerdd Efa’ Cynddelw Brydydd Mawr.

Wythnos 9
Darlith & Seminar
• Merched Dafydd ap Gwilym: Morfudd, Dyddgu ac eraill.

Wythnos 10
Darlith & Seminar
• Merched a chanu serch yr Oesoedd Canol: y ferch ddelfrydol?

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno fframwaith beirniadol ffeminyddol, lle’r ferch yn y gymdeithas Gymreig ganoloesol, y safbwynt gwrywaidd (S. ‘the male gaze’) ac ymdrechion llenorion gwrywaidd i daflunio llais y ferch. Astudir detholiad o destunau gwreiddiol sy’n rhoi sylw i ferched a’r modd y portreadir hwynt yn y testunau hynny.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Anogir myfyrwyr i fynegi eu syniadau yn glir yn yr aseiniad ysgrifenedig.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygir sgiliau hanfodol (megis delio â llif gwaith yn wythnosol, trefnu amser yn effeithiol a chyflawni ymchwil yn annibynnol) drwy gydol y modiwl.
Datrys Problemau Trwy ymwneud yn feirniadol, ar lafar ac ar bapur, â chysyniadau deallusol sy’n codi o’r fframwaith beirniadol, y cyd-destun hanesyddol ac o destunau llenyddol penodol.
Gwaith Tim Trwy gyfrannu at drafodaethau grŵp ynghylch y testunau a’r cysyniadau allweddol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae’r aseiniadau ar gyfer y modiwl hwn yn asesu gwaith y myfyrwyr yn ffurfiannol. Trwy ymchwil annibynnol; adborth eu twtoriaid ar waith ysgrifenedig a chyfraniadau llafar; ymwneud â chymheiriaid yn ystod trafodaethau grŵp; datblygu sgiliau trefnu amser/gwaith; myfyrio ar sgiliau cyflwyno a gwaith ysgrifenedig arall. Bydd modd i fyfyrwyr wella eu gallu i ddarllen a dehongli testunau hanesyddol.
Rhifedd amherthnasol
Sgiliau pwnc penodol Trwy gymhwyso theori ffeminyddol i destunau hanesyddol. Trwy feithrin gallu myfyrwyr i ddarllen a deall testunau mewn Hen Gymraeg a Chymraeg Canol, a thrwy hynny ddysgu mwy am ddatblygiad yr iaith Gymraeg a nodweddion generig y testunau a astudir.
Sgiliau ymchwil Trwy gyfrwng ymchwil annibynnol ar gyfer aseiniadau ysgrifenedig (traethawd) a chyfraniadau i drafodaethau grŵp. Hefyd, trwy ddefnyddio ymchwil electronig ac adnoddau electronig a llyfryddol.
Technoleg Gwybodaeth At ddibenion ymchwil (aseiniad a thrafodaethau); prosesu geiriau. Defnyddio ymchwil electronig ac adnoddau llyfryddol; cael mynediad i adnoddau’r modiwl ar y BwrddDu.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6