Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
GF32120
Teitl y Modiwl
Cyfraith a Pholisi Cymru
Blwyddyn Academaidd
2017/2018
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Rhagofynion
GF13110 neu GF33110 or LA15710
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 22 x Darlithoedd 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Prosiect ymchwil ar agwedd o gyfraith Cymru o ddewis  50%
Arholiad Semester Trafodaeth lafar ar ffurf viva fechan ar agweddau o gyfraith Cymru  50%
Asesiad Ailsefyll Prosiect ymchwil ar agwedd o gyfraith Cymru o ddewis  Ail sefyll y rhan a fethir  50%
Arholiad Ailsefyll Trafodaeth lafar ar ffurf viva fechan ar agweddau o gyfraith Cymru  Ail sefyll y rhan a fethir  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

* Trafod ffynhonellau cyfraith Cymru ac egluro gwahaniaethau sylweddol rhwng cyfraith Cymru a chyfraith Lloegr;

* Arfarnu’n feirniadol mesurau llwyddiant cyfreithiau a pholisiau;

* Trafod cyfreithiau a pholisiau a ddarperir yn y Gymraeg a’r Saesneg;

* Cynnal gwaith ymchwil i mewn agwedd benodol o gyfraith Cymru a’i gyflwyno yn ysgrifenedig;

* Trafod ar lafar ar agwedd o gyfraith Cymru.

Nod

Y mae tri pwrpas canolog dros gyflwyno’r modiwl hwn:

  • Bydd yn cymryd lle 1 modiwl a ddiddymir yn llwyr, a 2 fodiwl lle gostyngir y ddarpariaeth Gymraeg, ac felly yn cadw at ymrwymiad y brifysgol I beidio a lleihau ar y ddarpariaeth Gymraeg.
  • Bydd yn fodiwl a fydd yn atyniadol i fyfyrwyr cyfraith yn ogystal a myfyrwyr sydd yn astudio troseddeg, gwleidyddiaeth a Chymraeg proffesiynol.
  • Bydd yn datblygu dealltwriaeth o sefyllfa gyfreithiol Cymru, ac agweddau unigryw ar gyfraith Cymru. Y mae Comisiwn y Gyfraith a Chynulliad Cenedlaethol Cymru a diddordeb arbennig mewn recriwtio myfyrwyr o Gymru sydd ag arbenigedd mewn cyfraith Cymru. Ein nod felly yw i ddatblygu’r dealltwriath hwnnw.

Disgrifiad cryno

Ers 1999, y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi gallu deddfu ar sawl maes cyfreithiol, ac erbyn hyn y mae sawl agwedd o gyfraith Cymru sydd yn wahanol iawn i gyfraith Lloegr. Amcan y modiwl hwn felly fydd i drin a thrafod rhai o’r materion hyn, sef cyfaith gofal iechyd, cyfraith addysg, cyfraith tai, a dwyieithrwydd yn y gyfraith.

Cynnwys

  • Cymru – y setliad datganoli
  • Iechyd a chyfraith a pholisi iechyd
  • Addysg yng Nghymru
  • Cartrefi a thai
  • Dwyieithrwydd cyfreithiol

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Sgiliau ysgrifenedig a sgiliau trafod ar lafar.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu hyder ar gyfer cyfweliadau.
Datrys Problemau Canfod a dewis deunyddiau perthnasol.
Gwaith Tim Trafodaethau o fewn y sesiynau grwp.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Ymateb i sylwadau ac adborth.
Rhifedd Peth gwaith efo ystadegau.
Sgiliau pwnc penodol Dealltwriaeth o’r gyfraith. Cyflwyno dadl. Ysgrifennu a chyflwyno ar lafar.
Sgiliau ymchwil Prosiect ymchwil a gwaith paratoi.
Technoleg Gwybodaeth Gwaith ymchwil a chanfod deunyddiau.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6