Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
GW10320
Teitl y Modiwl
Rhyfel Strategaeth a Chuddwybodaeth
Blwyddyn Academaidd
2018/2019
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Elfennau Anghymharus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 24 x Darlithoedd 1 Awr
Seminar 4 x Seminarau 1 Awr
Gweithdy 2 x Gweithdai 2 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Semester 2 Awr   [1x Arholiad a welir o flaen llaw]  pre seen exam - schedule am  60%
Asesiad Semester 1 x Traethawd 1,000 o eiriau  30%
Asesiad Semester Perfformiad seminar  10%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   (1 x Arholiad a welir o flaen llaw)  60%
Asesiad Ailsefyll 1 x Traethawd 1,000 o eiriau  30%
Asesiad Ailsefyll 1 x 500 o eiriau Adolygiad byr yn lle perfformiad seminar  10%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Trafod materion sy’n berthnasol i’r astudiaeth o ryfel
2. Trafod natur rhyfel ac ymwneud â dadleuon ynglŷn â’i drawsnewidiad
3. Trafod moeseg rhyfel a’r defnydd o rym milwrol a chymhwyso hyn i enghreifftiau hanesyddol
4. Trafod ac ymwneud â ffurfiau gwahanol o feddwl strategol
5. Trafod natur cudd-wybodaeth a’i esblygiad
6. Trafod ac ymwneud â thrafodaethau sy’n cyffwrdd ar ystod o broblemau diogelwch cyfoes

Disgrifiad cryno

Mae’r modiwl yn cyflwyno myfyrwyr blwyddyn gyntaf i syniadau a thrafodaethau allweddol ym meysydd rhyfel, strategaeth a chudd-wybodaeth. Trwy wneud hyn mae’r modiwl yn cynnig sail deallusol ar gyfer mynd ati i astudio’r meysydd hyn ar lefel Anrhydedd yn ogystal a darparu gafael ar syniadau a chysyniadau pwysig i’r sawl sy’n astudio gwleidyddiaeth Ryngwladol a meysydd cysylltiedig. Bydd y myfyrwyr yn cael eu harfogi â gwybodaeth a thechnegau pwnc-benodol a fydd yn cyfrannu at ddatblygiad sgiliau ysgolheigaidd a chyflogadwyedd yn gyffredinol.

Cynnwys

Bydd y modiwl yn archwilio syniadau a thrafodaethau allweddol ym meysydd rhyfel, strategaeth a chudd-wybodaeth. Caiff y rhaglen o ddarlithoedd ei rhannu i bedwar adran thematig:
1. Astudio rhyfel, gan gynnwys ei natur a’i derfynnau
2. Strategaeth, gan gynnwys strategaeth gonfensiynol, ataliaeth, rhyfela chwyldroadol-guerrilla a therfysgaeth
3. Astudio cudd-wybodaeth
4. Problemau a thrafodaethau cyfoes ym maes diogelwch

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4