Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Seminar | 10 x Seminarau 1 Awr |
Darlith | 16 x Darlithoedd 1 Awr |
Gweithdy | 3 x Gweithdai 2 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr 1 x arholiad 2 awr | 50% |
Arholiad Semester | 2 Awr 1 x arholiad 2 awr | 50% |
Asesiad Ailsefyll | 1 x traethawd 2,500 o eiriau | 50% |
Asesiad Semester | 1 x traethawd 2,500 o eiriau | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Adnabod a thrafod yn fanwl brif themâu hanes meddwl gwleidyddol.
2. Dangos dealltwriaeth o brif gysyniadau theori wleidyddol.
3. Dangos dealltwriaeth o destunau allweddol yn hanes meddwl gwleidyddol.
4. Dadansoddi’r prif bynciau a’r gwahaniaethau a godir gan destun gwreiddiol mewn theori wleidyddol.
5. Cloriannu pwysigrwydd, cysonder a chydlyniant dadleuon gwleidyddol ar hyd y canrifoedd.
Disgrifiad cryno
Mae’r modiwl hwn yn darparu cyflwyniad i hanes theori wleidyddol a dadansoddiad manwl o syniadau penodol, yn cynnwys llywodraeth dda, cyflwr natur a rheol y gyfraith, a meddylwyr, megis Aristotle, Machiavelli, Hobbes, Montesquieu, Rousseau, a Kant. Dysgir trwy gyfuniad o ddarlithoedd a seminarau, gan roi’r cyd-destun i fyfyrwyr yn ogystal â chyfle i wneud defnydd ymarferol o rai o destunau allweddol theori wleidyddol. Trwy ddysgu am, a dadansoddi, syniadau o gyd-destunau sy’n bell o ran amser a/neu ofod, bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau dadansoddi hanfodol fydd yn eu galluogi i ddeall, dadansoddi a beirniadu pynciau gwleidyddol cyfoes yn well.
Cynnwys
• Theori wleidyddol a’i hanes
• Meddwl gwleidyddol hynafol: Plato
• Meddwl gwleidyddol hynafol: Aristotle
• Theori wleidyddol ganoloesol: Augustine
• O theori wleidyddol ganoloesol i’r Dadeni
• Crefft llywodraeth: Machiavelli
• Theori wleidyddol fodern: Hobbes
• Rhyddfrydiaeth cytundeb cymdeithasol: Locke
• Cyd-destun a chyfansoddiad: Montesquieu
• Cymdeithas a moesoldeb: Rousseau
• Ewyllys gyffredinol a democratiaeth: Rousseau
• Cyfraith foesol gyffredinol: Kant
• Athroniaeth wleidyddol gyfundrefnol: Kant a Hegel
• Ymddieithriad a rhyddfreinio: Marx
• Unigoliaeth a rhyddid: JS Mill
• Theori Wleidyddol a Gwleidyddiaeth Ryngwladol
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd y myfyrwyr yn dysgu sut orau i gyflwyno eu syniadau ar lafar ac yn ysgrifenedig. Byddant yn dysgu pwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu’n eglur a sut i fanteisio ar hynny. Byddant yn gwybod sut i ddefnyddio’r amryw ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael iddynt a sut orau i ddefnyddio’r ffurf fwyaf priodol o gyfathrebu. Byddant yn dysgu ysgrifennu a siarad yn glir a sicrhau nodau ac amcanion uniongyrchol. Byddant yn dysgu ystyried dim ond yr hyn sy’n berthnasol i’r pwnc, canolbwynt ac amcanion y ddadl neu’r drafodaeth. Trefnir seminarau mewn grwpiau a dysgir yn bennaf trwy gyfrwng cyflwyniadau a bydd y pwyslais ar gyfranogi a chyfathrebu o du’r myfyrwyr. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Pwrpas y modiwl hwn yw gwella a phrofi sgiliau fydd o ddefnydd i’r myfyrwyr yn eu swyddi, yn enwedig wrth siarad â grwpiau bychain, gwrando, meddwl ac ymateb i ddatganiadau eraill. Ar ben hynny, mae’r gwaith ysgrifenedig yn cynnwys ysgrifennu’n glir ac yn gryno, sy’n dasg gyffredin yn y gweithle. Anogir myfyrwyr drwy gydol y modiwl i ystyried eu perfformiad ac ystyried gwersi i’w defnyddio yn y dyfodol. |
Datrys Problemau | Bydd gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau yn un amcan canolog o’r modiwl; wrth gyflwyno traethawd, bydd gofyn i’r myfyrwyr ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal â sgiliau datrys problemau. Bydd gallu’r myfyrwyr i ddatrys problemau yn cael ei ddatblygu a’i asesu drwy ofyn iddynt: fabwysiadu gwahanol safbwyntiau; rhoi trefn ar ddata a llunio ateb i’r broblem; ystyried achosion eithafol; rhesymu’n rhesymegol; llunio modelau damcaniaethol; ystyried achosion tebyg; chwilio am batrymau; rhannu pynciau yn broblemau llai. |
Gwaith Tim | Bydd y myfyrwyr yn cyflawni ymarferion tîm yn ystod y seminarau. Ar gyfer llawer o’r pynciau ar y modiwl, bydd y seminarau yn cynnwys trafod mewn grwpiau bychain a gofynnir i fyfyrwyr drafod pynciau craidd pwnc y seminar fel grŵp. Bydd y trafodaethau a’r dadleuon hyn yn y dosbarth yn ffurfio rhan sylweddol o’r modiwl, ac yn galluogi’r myfyrwyr i fynd i’r afael â phwnc arbennig, ac ymchwilio iddo, drwy waith tîm. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Nod y modiwl hwn yw hyrwyddo hunanreoli, ond o fewn i gyd-destun lle bydd cefnogaeth a chymorth ar gael gan y cydgysylltydd a chyd-fyfyrwyr. Disgwylir i fyfyrwyr wella eu dysgu a’u perfformiad eu hunain drwy wneud eu gwaith ymchwil eu hunain a dilyn eu trywydd eu hunain, yn cynnwys chwilio am ffynonellau, llunio rhestrau darllen, a phenderfynu (dan gyfarwyddyd) ar gyfeiriad pynciau eu traethodau. Bydd yr angen i gwrdd â dyddiad cau ar gyfer cyflwyno traethawd yn hoelio sylw myfyrwyr ar yr angen i reoli eu hamser a’u hadnoddau yn dda. |
Rhifedd | Amherthnasol |
Sgiliau pwnc penodol | Bydd y modiwl hwn yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr ddatblygu, ymarfer a phrofi amrywiaeth eang o sgiliau sy’n benodol i’r pwnc a fydd yn eu cynorthwyo i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau am y modiwl. Bydd y sgiliau pwnc-benodol hyn yn cynnwys: • Casglu a deall amrywiaeth eang o ddata sy’n berthnasol i’r modiwl • Gwerthuso safbwyntiau sy’n cystadlu â’i gilydd • Dangos technegau ymchwil sy’n benodol i’r pwnc • Defnyddio rhychwant o fethodolegau i broblemau gwleidyddol cymhleth |
Sgiliau ymchwil | Bydd cyflwyno traethawd yn dyst i sgiliau ymchwilio annibynnol y myfyriwr. Bydd yr angen i ddod o hyd i adnoddau ymchwil priodol ac ysgrifennu’r canlyniadau hefyd yn hwyluso sgiliau ymchwil. |
Technoleg Gwybodaeth | Disgwylir i fyfyrwyr eirbrosesu’u gwaith ar gyfer ei gyflwyno, trwy’r llwyfan ar-lein Blackboard. Anogir myfyrwyr hefyd i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal â chwilio am ffynonellau trwy ffynonellau gwybodaeth electronig. Disgwylir hefyd i fyfyrwyr ddefnyddio’r adnoddau fydd ar gael ar Blackboard. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5