Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
TC11020
Teitl y Modiwl
Theatr yr Ugeinfed Ganrif
Blwyddyn Academaidd
2018/2019
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Elfennau Anghymharus
TP11220 Thinking Theatre 1: Key Theatre Practices
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 5 x Darlithoedd 2 Awr
Gweithdy 5 x Gweithdai 2 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester 1. Portffolio Creadigol (Cofnodi ac adlewyrchu ar brofiad hyfforddi'r myfyrwyr, gan roi pwyslais ar y corff, symud, testun, neu'r llais.) Yn cyfateb â 1,500 o eiriau.   50%
Asesiad Semester 2. Cyflwyniad Grŵp (10 i 15 munud, mewn grwpiau o 4 i 5)   50%
Asesiad Ailsefyll 1. Portffolio Creadigol (Cofnodi ac adlewyrchu ar brofiad hyfforddi'r myfyrwyr, gan roi pwyslais ar y corff, symud, testun, neu'r llais.) Yn cyfateb â 1,500 o eiriau.   50%
Asesiad Ailsefyll 2. Cyflwyniad Unigol (8-10 munud)   50%

Canlyniadau Dysgu

1. Arddangos ymwybyddiaeth a dealltwriaeth eang o'r ymarferiadau a'r ymarferwyr astudiwyd ar y modiwl;

2. Arddangos gallu i werthuso, dadansoddi a lleoli y gwaith astudir mewn cyd-destun ymarferol priodol;

3. Arddangos gallu i gymhwyso dealltwriaeth ddamcaniaethol a hanesyddol wrth drafod a dadansoddi gwaith ymarferol;

4. Arddangos dealltwriaeth briodol o'r broses o greu theatr, fel ymarfer esthetig ac fel un deallusol.

Disgrifiad cryno

Bydd myfyrwyr ar y modiwl yn cael eu cyflwyno i nifer o ymarferiadau theatr allweddol gan ymarferwyr nodedig ym meysydd theatr a pherfformio. Nid astudiaeth o brif weithiau gan brif ymarferwyr yn unig fydd yma, ond fe fydd y modiwl yn cynnig fframweithiau hanesyddol a beirniadol ehangach, gan ddefnyddio'r gweithiau allweddol fel astudiaethau achos. Bydd y modiwl hefyd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr wylio enghreifftiau o'r gweithiau allweddol hyn.

Bydd cydgysylltydd modiwl yn sicrhau bod cydbwysedd rhwng gwahanol foddau theatraidd (gan gynnwys theatr destunol, delweddol, theatr gyda'i bwyslais ar y corff ac ar waith symud, gwaith llais, a pherfformio safle-benodol) a'u lleoli o fewn cyd-destunau cenedlaethol a chymdeithasol penodol (er enghraifft yng Nghymru/Ewrop; gwledig/dinesig; theatr avant garde/theatr boblogaidd.

Bydd y moddau astudio yn gyson o flwyddyn i flwyddyn ac yn seiliedig ar yr ymarferiadau canlynol:

Astudiaeth o gyd-destun hanesyddol a daearyddol;
Dadansoddi testun a pherfformio;
Astudio'r grefft o greu theatr fel ymarferiad esthetig a deallusol;
Diffinio a dadansoddi disgyblaethau ymarferol;
Trafod a gwerthuso meysydd beirniadol ar gyfer mynegi dealltwriaeth o brosesau ac ymarferiadau creu theatr.

Nod

Bydd myfyrwyr ar y modiwl yn cael eu cyflwyno i nifer o ymarferiadau allweddol ym maes theatr a pherfformio. Bwriad y modiwl yw rhoi cyfle i fyfyrwyr i ddadansoddi gwahanol ffurfiau o greu theatr, ac i wneud hynny mewn cyd-destun priodol sy'n manylu ar locws y corff, testun, symud, delwedd, safle, a'r llais, mewn gweithiau theatr a pherfformio. Rhoddir pwyslais arbennig ar archwilio enghreifftiau penodol o ymarferiadau theatr a pherfformio, cyd-destunau hanesyddol a chymdeithasol y gwaith, ynghyd a'r ymarfer beirniadol sydd angen ei feddu er mwyn gallu ymateb i'r gwaith yn effeithiol.

Bydd myfyrwyr hefyd yn mynychu cyfres o weithdai tair awr wythnosol a fydd yn eu galluogi i ddatblygu sgiliau perfformio allweddol gan ganolbwyntio ar y corff, y llais, a gwaith symud. Mae'r sgiliau yma wedi'u dewis yn benodol er mwyn paratoi a galluogi myfyrwyr i ymgymryd â'r ymarferiadau allweddol a gyflwynir yn y modiwl, a hynny ar lefel addas ar gyfer astudiaeth Rhan Un. Mae'r modiwl felly yn ffurfio rhan allweddol ar gyfer datblygu sgiliau ymchwilio a dadansoddi a fydd yn paratoi myfyrwyr ar gyfer gweddill eu cynllun gradd.

Cynnwys

Sesiynau dysgu:
Darlithoedd: 5 x 2 awr (pob yn ail wythnos)
Seminarau / Gweithdai: 5 x 2 awr (pob yn ail wythnos)


Bydd pum bloc o bythefnos yn canolbwyntio ar y canlynol:

Ymarfer testunol (Beckett, Müller)
Ymarfer corfforol a gwaith symud (Meyerhold, Grotowski, Bausch)
Ymarfer gweledol (Appia, Craig, Wilson)
Ymarfer lleisiol (Monk, Armstrong, Anderson)
Ymarfer safle-benodol (Brith Gof)

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd disgwyl i fyfyrwyr drafod ar archwilio deunydd yn llafar yn y gweithdai/seminarau. Mae'r aseiniadau yn meithrin sgiliau cyfathrebu; yn ysgrifenedig yn gyntaf, cyn iddynt gael cyfle i fynegi eu sgiliau dadansoddol a'u gallu i ymresymu yn academaidd, yn eiriol, yn gorfforol, ac yn greadigol trwy gyfrwng y cyflwyniad.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Ni fydd yr ystyriaeth hon yn greiddiol i'r sgiliau a ddatblygir ar y modiwl. Fodd bynnag, bydd y gwaith yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu dealltwriaeth o'u sgiliau a'u dawn greadigol mewn perthynas â theatr a pherfformio, ac o bosib sut gellir eu mireinio yn y dyfodol gyda'r potensial o'u defnyddio ar gyfer cyfleoedd ymchwil a gyrfaol eraill yn y dyfodol.
Datrys Problemau Bydd angen i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau dadansoddi wrth drafod gwaith yr ymarferwyr ar y modiwl. Mae natur gwaith pob un o'r ymarferwyr yn wahanol, ac felly nid yn unig bydd angen i'r myfyrwyr ddatblygu ymateb penodol ar gyfer pob ymarferwr ac ymarferiad, bydd angen iddynt hefyd ddeall sut mae'r gweithiau a'r ymarferiadau yn dylanwadu ac yn ehangu eu dealltwriaeth o theatr a pherfformio yn gyffredinol. Bydd y portffolio creadigol a’r cyflwyniad yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ymateb yn greadigol ac yn ddadansoddol i’r problemau sylfaenol hyn; mae trefn yr aseiniadau yn rhoi cyfle iddynt adlewyrchu ar briodoldeb eu hymatebion mewn perthynas â'r gwaith astudir.
Gwaith Tim Bydd y cyflwyniad grwp yn mynnu bod myfyrwyr yn cyfrannu fel aelod o dîm, yn gosod targedau ar gyfer eu hunain ac ar gyfer eraill; i gydnabod a datblygu diddordebau personol fydd o berthnasedd i amcanion gweddill y tîm. Bydd creu'r defnydd ar gyfer y modiwl yn rhoi cyfle iddynt werthuso llwyddiant eu gwaith, fel unigolion ac fel grwp.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Gan ganolbwyntio ar nifer o ymarferwyr gwahanol, bydd y modiwl yn annog myfyrwyr i ddatblygu nifer o sgiliau addysgu. Mae'r modd cymysg dysgir y modiwl yn gymorth i’r myfyrwyr adlewyrchu ac i ymateb i wahanol ffurf o theatr ac i ddatblygu ymwybyddiaeth o'u cryfderau a'u gwendidau mewn amryw o sefyllfaoedd addysgol. Anogir datblygu strategaethau addysgol a rheoli personol trwy gyfrwng yr aseiniadau. At hynny, mae'r modiwl yn annog myfyrwyr i ddatblygu sgiliau cynllunio personol; i osod targedau personol, ac yn rhoi cyfle iddynt adolygu eu datblygiad ar draws y semester.
Rhifedd Ni ragwelir y bydd y modiwl hwn yn datblygu sgiliau defnyddio gwybodaeth rifyddol.
Sgiliau pwnc penodol Mae sgiliau penodol i'r pwnc a ddatblygir gan y modiwl hwn yn cynnwys dadansoddi dramatwrgiaethol, semioteg gweledol, dadansoddi symud a dealltwriaeth o'r berthynas estheteg ac ymarferiadau deallusol.
Sgiliau ymchwil Bydd cyfleoedd cynyddol ar draws y modiwl i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau ymchwil. Bydd trafodaeth yn y seminar yn seiliedig ar ddarlleniadau fydd ar gael trwy Blackboard, gan gynnig model o ddeunydd ymchwil priodol i’r myfyrwyr. Bydd yr aseiniadau yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gymathu'r deunydd sydd eisoes wedi'i roi iddynt, ynghyd a'u ddatblygu ymhellach trwy gyfrwng ymchwil annibynnol ar gyfer yr aseiniadau ysgrifenedig, ac o fewn cyd-destun grwp ar gyfer y cyflwyniad.
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio sgiliau sylfaenol technoleg gwybodaeth ar gyfer y modiwl hwn, gan gynnwys defnyddion Blackboard ac adnoddau ar-lein.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4