Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
AD34420
Teitl y Modiwl
Lleoliad Gwaith C Blwyddyn 3
Blwyddyn Academaidd
2020/2021
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Prosiect ymchwil  (2,500 gair)  50%
Asesiad Semester Portffolio  (2,500 gair)  50%
Asesiad Ailsefyll Prosiect ymchwil  (2,500 gair)  50%
Asesiad Ailsefyll Portffolio  (2,500 gair)  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Integreiddio persbectifau damcaniaethol yn feirniadol wrth ddarparu ymarfer proffesiynol

2. Bodloni’r safonau galwedigaethol cenedlaethol ar gyfer ymarferwyr blynyddoedd cynnar sy’n cael sylw yn y modiwl hwn, a dangos tystiolaeth eu bod yn eu bodloni

3. Bodloni’r safonau galwedigaethol cenedlaethol ar gyfer ymarferwyr blynyddoedd cynnar sy’n cael sylw yn y modiwl hwn, a dangos tystiolaeth eu bod yn eu bodloni

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl yn annog myfyrwyr i gymryd cyfrifoldeb am eu datblygiad personol, proffesiynol ac academaidd eu hunain a defnyddio hyn i wella eu hymarfer. Bydd myfyrio’n feirniadol ynglŷn ag arferion presennol a rolau proffesiynol yn rhan hanfodol o’r portffolio. Anogir myfyrwyr i gloriannu canfyddiadau ymchwil cyfredol ac i archwilio’r posibiliadau a’r goblygiadau ar gyfer datblygu yn y dyfodol, yn bersonol ac o fewn y proffesiwn. Neilltuir goruchwyliwr prifysgol a mentor lleoliad gwaith i bob myfyriwr. Bydd y modiwl lleoliad gwaith hwn yn rhoi sylw i’r materion canlynol:

-Rheoli darpariaeth gwasanaethau gofal sy’n ymdrin yn effeithiol â chyfnodau o newid a digwyddiadau pwysig mewn bywyd SCDCCLD 0432

-Cynnal systemau ac arferion cyfathrebu effeithiol SCDCCLD 0401

-Cynorthwyo teuluoedd i gymryd rhan mewn grwpiau o fewn y lleoliad gofal plant SCDCCLD 0332

-Cymryd cyfrifoldeb am eich datblygiad proffesiynol parhaus eich hun a phobl eraill SCDHSC 0043

-Datblygu eich ymarfer trwy fyfyrio a dysgu SCDHSC 0033

-Datblygu eich gwybodaeth a’ch ymarfer eich hun SCDHSC 0023

-Ymgymryd â phrosiect ymchwil SCDCCLD 0420

-Arwain gwaith i adolygu polisïau, gweithdrefnau ac arferion ar gyfer plant ag anghenion cymorth ychwanegol CCLD 414

-Hyrwyddo gofal, dysgu a datblygiad plant ag anghenion cymorth ychwanegol mewn lleoliadau addysg gynnar CCLD 339


-Cynorthwyo unigolion, teuluoedd a chymunedau i gomisiynu eu gwasanaethau eu hunain CPC 309

-Grymuso teuluoedd trwy ddatblygu sgiliau magu plant SCDCCLD 0322

-Arwain darpariaeth i fabanod a phlant mewn partneriaeth â rhieni a gofalwyr SCDCCLD 0405

-Cynnal gwasanaeth i blant a theuluoedd SCDCCLD 0330

-Cyfrannu at effeithiolrwydd timau SCDCHSC 0241

-Gweithio gyda phwyllgor rheoli SCDCCLD 0329

-Arwain darparwyr gwasanaethau o ran cael gafael ar wybodaeth i gefnogi gofal, dysgu a datblygiad plant SCDCCLD 0417

-Arwain trefniadau gweithio aml-asiantaethol SCDCCLD 0423

Cynnwys

Bydd myfyrwyr yn ymgymryd â 15 diwrnod mewn lleoliad blynyddoedd cynnar i ddatblygu eu sgiliau i ddod yn ymarferydd blynyddoedd cynnar. Bydd myfyrwyr yn canolbwyntio ar y cymwyseddau a amlinellir uchod. Yn ystod eu lleoliad gwaith, bydd myfyrwyr yn derbyn cymorth ar-lein ar y pynciau canlynol:

Y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol a datblygiad proffesiynol (darlith 2 awr)

Yn ogystal â hyn, byd gan bob myfyriwr oruchwyliwr dynodedig a mentor lleoliad gwaith a fydd yn monitro cynnydd y myfyriwr.

Bydd myfyrwyr wedi cwblhau lleoliadau gwaith yn semester 2, blwyddyn 2.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6