Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
TC20040
Teitl y Modiwl
Ymarfer Cynhyrchu 1
Blwyddyn Academaidd
2020/2021
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Asesu parhaus ymarferol  Gwaith cynhyrchu yn y Prosiect Cynhyrchu (mewn perfformiad 90-120 munud.)  40%
Arholiad Semester Cyflwyniad a dogfennaeth  Cyflwyniad grwp gydag elfen ysgrifenedig unigol i'w gyflwyno ar yr un dydd.  60%
Asesiad Ailsefyll Traethawd  Adroddiad ysgrifenedig (2,500 o eiriau) yn lle'r elfen ymarferol.  40%
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniad  Cyflwyniad unigol.  60%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Arddangos gallu yn ystod y broses ddyfeisio i ddeall nodau ac amcanion celfyddydol a thechnegol y cynhyrchiad.

2. Arddangos gallu i gymhwyso’r ddealltwriaeth honno wrth baratoi deunydd a chyflwyno’r gwaith terfynol.

3. Arddangos meistrolaeth elfennol o ystod o sgiliau cynhyrchu a pherfformio.

4. Arddangos gallu i gymhwyso ac adfyfyrio ar eu dealltwriaeth o natur y perfformiad a gynhyrchir, yn ysgrifenedig ac ar lafar.

Disgrifiad cryno

Fe fydd y modiwl hwn yn rhoi cyfle i'r myfyrwyr fod yn rhan o broses o greu cynhyrchiad theatraidd llawn. Fe fydd yn gofyn iddynt astudio'r testun a ddewiswyd ar gyfer y cynhyrchiad, a'i ddadansoddi'n fanwl o safbwynt gweledigaeth yr awdur, ymchwilio i gynyrchiadau blaenorol, ac ystyried sut gellir ei gyflwyno’n fyw yn y presennol.

Bwriad y modiwl yw cyflwyno myfyrwyr i hanfodion proses gynhyrchu. Cyd-ddysgir y modiwl gyda TC31440 Ymarfer Cynhyrchu 2, a bydd disgwyl i’r myfyrwyr ar y ddau fodiwl gyd-weithio a rhannu gwahanol gyfrifoldebau. Er y bydd myfyrwyr y modiwl yn cael eu hannog i gymryd rhan lawn yn y broses ac yn y cynhyrchiad, bydd hefyd lle i ddysgu sgiliau newydd, gyda’r bwriad y byddent yna’n cael eu datblygu ymhellach yn ystod gweddill eu cynllun gradd.

Nod y cydweithio hwn yw galluogi'r myfyrwyr i ddatblygu eu safbwynt beirniadol ac ymarferol eu hunain. Profir y datblygiad hwn trwy gyfrwng portffolio o ddarnau ysgrifenedig a fydd yn gofyn i'r myfyrwyr adrodd ar wahanol agweddau o'r broses gynhyrchu, ar weledigaeth yr awdur, ar gyd-destun hanesyddol, neu gymdeithasol cyfoes, y testun a.y.b. Ar ôl cwblhau'r cynhyrchiad, rhoddir cyfle iddynt ymateb yn ymarferol trwy gyfrwng cyflwyniad grŵp.

Cynnwys

Sesiynau Dysgu:

Gweithdai: 8 awr x dau ddiwrnod yr wythnos

Darlith: 1 awr x unwaith yr wythnos (Cynhelir y ddarlith o fewn oriau’r gweithdai. Addasir trefn a chynnwys y darlithoedd yn flynyddol, yn unol â natur ac anghenion penodol y testun a’r cynhyrchiad.)

Trefn arfaethedig y darlithoedd:

1. Cyflwyniad i’r Testun Gosod

2. Dadansoddi’r Testun

3. Bywgraffiad a Chyd-destun hanesyddol/cymdeithasol yr awdur

4. Enghreifftiau eraill o waith yr awdur

5. Prif Nodweddion/Gweledigaeth Gelfyddydol y Cynhyrchiad

6. Y Llwyfaniad

7. Arddull y Cyfarwyddo

8. Y Broses Ymarfer

9. Y Cynhyrchiad a’r Gynulleidfa

10. Paratoi’r Cyflwyniad Ymarferol

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu O raid, fe fydd cyfrannu i gynhyrchiad theatraidd byw yn helpu i ddatblygu sgiliau cyfathrebu'r myfyrwyr, yr actorion, cyfarwyddwyr a dylunwyr. Mae'r broses o baratoi a chyflwyno cynhyrchiad yn gofyn am mynegiant a gwrando gofalus a phwrpasol iawn. Fe fydd y modiwl hwn yn rhoi pwyslais arbennig iawn hefyd ar waith cyd-destunol a chefndirol, ac fe fydd darllen a thrafod natur y ddrama a'r cynhyrchiad yn rhan allweddol bwysig o'r seminarau wyhtnosol. Fe fydd y modiwl hefyd yn cynnig mwy nag un math ar 'gynulleidfa' i'r myfyrwyr geisio cyfathrebu a hwy - cynulleidfa gyhoeddus yn achos y cynhyrchiad, cynulleidfa academaidd (tiwtor y modiwl ac arholwyr mewnol/allanol) yn achos y Cyflwyniad Ymarferol a'u cyd-fyfyrwyr wrth baratoi ac ymarfer y cynhyrchiad ei hun.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Fe fydd y profiad o weithio ar gynhyrchiad ymarferol ac ymateb yn ymarferol i'r cynhyrchiad hwnnw yn rhoi cyfle i'r myfyrwyr ddatblygu sgiliau theatr ymarferol wrth drin testun dramataidd. Fe fydd hyn yn rhoi cyfle iddynt arbeigo mewm maes o'u dewis hwy (cyfarwyddo, perfformio neu ddylunio), i ddatblygu ymwybyddiaeth o'u medrau personol, ac o'r safbwyntiau a nodweddion personol hynny a all fod o ddefnydd iddynt wrth gynllunio gyrfa yn y theatr neu mewn gyrfaoedd creadigol cyffelyb.
Datrys Problemau Fe fydd seminarau dysgu'r modiwl yn fodd o nodi nifer o broblemau sylfaenol y mae'n rhaid eu wynebu a cheisio'u goresgyn wrth gyflwyno cynhyrchiad theatraidd, yn enwedig y rheini sy'n codi wrth geisio trosglwyddo gwelwdigaeth dramodydd o'r dudalen i'r llwyfan cyfoes. Fe fyddant yn ffordd allweddol bwysig o helpu'r myfyrwyr i nodi ffactorau a allai effeithio ar y cynhyrchiad gorffenedig mewn gwahanol ffyrdd, ac o ddatblygu meddylfryd creadigol tuag at eu gwaith. Fe fydd yr aseiniadau - ysgrifenedig ac ymarferol- yn caniatau i'r myfyrwyr werthuso manteision ac anfanteision gwahanol ffyrdd o ymdrin ag elfennau'r cynhyrchiad ac i lunio gwahanol gynigion wrth ymateb i'r problemau creadigol sylfaenol.
Gwaith Tim Mae'r modiwl hwn wedi'i seilio ar ddau brofiad dwys o waith ymarferol mewn grwp, y naill yn y Prosiect Cynhyrchu Uwch, a'r llall yn Gyflwyniad Ymarferol mewn Grwp mewn ymateb i'r Prosiect. Rydd hyn gyfle i'r myfyrwyr ddeall neu ymestyn ystod eang iawn o sgiliau gwaith tim.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Fe fydd y modiwl hwn yn cael ei gyflwyno trwy gyfrwng nifer o wahanol dulliau dysgu, ac fe fydd yr ystod hwn o brofiadau yn helpu i'r myfyrwyr ddod yn fwy ymwybodol o'u profiad dysgu a'u anghenion personol mewn perthynas a'u cryfder wrth ymateb i rai a'r rhwystrau a all godi mewn perthynas a rhai eraill. Gan fod tair elfen i'r broses asesu yn y modiwl, fe fydd yn gyfle da i'r myfyrwyr datblygu'r gallu i gynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig. Fe fydd y sesiynau Tiwtorial a gyflwynir i wahanol grwpiau gwaith(cyfarwyddwyr, perfformwyr, dylunwyr) yn rhoi cyfle i'r myfyrwyr ystyried ac arolygu eu cynydd unigol mewn perthynas a'r prosiect ymarferol a'r modiwl yn gyffredinol.
Rhifedd Nid yw’r modiwl yn uniongyrchol ddatblygu’r sgil penodol hwn. 
Sgiliau pwnc penodol Sgiliau perfformio; sgiliau cynhyrchu; gallu i fynegi cysyniadau creadigol a pherfformiadol ar lafar ac yn ysgrifenedig; gallu i gymathu damcaniaethau beirniadol ar gyfer creu, datblygu, ac adlewyrchu ar allbwn creadigol.
Sgiliau ymchwil Fe fydd yr aseiniadau ysgrifenedig yn y portffolio yn codi allan o waith a drafodir ac a gyflwynir yn y seminarau, a chan hynny yn gofyn datblygu sgiliau ymchwil er mwyn eu cwblhau. Fe fydd y seminarau hefyd yn trafod y gwaith ymchwil a fydd wedi'i gyflawni gan y cyfarwyddwr wrth ddod i ddeall natur y cynhyrchiad a'i ddehongliad sylfaenol o waith y dramodydd. Wrth ddod yn gyfarwydd a'r gwahanol roliau sy'n cael eu cyflawni wrth gyflwyno cynhyrchaid, fe fydd y myfyrwyr yn dysgu am yr ystod o ddulliau ymchwil sy'n angenrheidiol i waith e.e. cyfarwyddwyr, dylunwyr ac actorion. Fe fydd yr aseiniadau, yn eu tro, yn gofyn i'r myfyrwyr gynllunio a chyflawni ymchwil wrth gynhyrchu eu gwaith, ac yna i werthuso'r cynllun a'r dulliau gwethredu ymchwil wrth adfyfyrio ar y broses gynhyrchu yn ymarferol.
Technoleg Gwybodaeth Ni ddatblygir y sgiliau hyn yn uniongyrchol o ganlyniad i'r profiad dysgu, ond fe fydd yna sawl cyfle i'r myfyrwyr ymestyn eu gallu i ddefnyddio ffynonellau gwybodaeth electronig wrth wneud eu gwaith cefndirol ac ymchwil i'r gwaith ymarferol, wrth baratoi ar gyfer seminarau ac wrth gysylltu a'i gilydd yn ystod y broses gwaith.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5