Gwybodaeth Modiwlau
Cod y Modiwl
FG12910
Teitl y Modiwl
Cynllunio Gyrfa a Datblygu Sgiliau Ffiseg
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Pre-Requisite
Gofynion mynediad ar gyfer gradd anrhydedd Ffiseg
Exclusive (Any Acad Year)
Exclusive (Any Acad Year)
Exclusive (Any Acad Year)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Cyflwyniad Unigol | 20% |
Asesiad Ailsefyll | Taenlen | 25% |
Asesiad Ailsefyll | Rhaglennu Gweithdrefnol | 25% |
Asesiad Ailsefyll | Poster Grŵp | 15% |
Asesiad Ailsefyll | Rhaglen Ymwybyddiaeth Sgiliau. Disgwylir i fyfyrwyr wneud 4 ymarfer: 1) Cwblhau modiwl dysgu LinkedIn ar greu proffil ar-lein cryf. 2) Creu proffil LinkedIn. 3) Ysgrifennu llythyr eglurhaol ar gyfer cais swydd o’u dewis. 4) Cyfrannu at drafodaeth grŵp gyda chynghorydd gyrfaoedd. | 15% |
Asesiad Semester | Rhaglen Ymwybyddiaeth Sgiliau. Disgwylir i fyfyrwyr wneud 4 ymarfer: 1) Cwblhau modiwl dysgu LinkedIn ar greu proffil ar-lein cryf. 2) Creu proffil LinkedIn. 3) Ysgrifennu llythyr eglurhaol ar gyfer cais swydd o’u dewis. 4) Cyfrannu at drafodaeth grŵp gyda chynghorydd gyrfaoedd. | 15% |
Asesiad Semester | Taenlen | 25% |
Asesiad Semester | Rhaglennu Gweithdrefnol | 25% |
Asesiad Semester | Poster Grŵp | 15% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad Unigol | 20% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Dadansoddi data gan ddefnyddio taenlen i wneud cyfrifiadau.
Llunio crynodebau a siartiau o'r data yn y dadansoddiad taenlen.
Ysgrifennu rhaglen mewn iaith gyfrifiadurol weithdrefnol.
Cymhwyso pecynnau meddalwedd i baratoi dogfennau i'w cyflwyno i gynulleidfaoedd eang.
Adnabod gyrfaoedd i Ffisegwyr a sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol.
Egluro testun mewn Ffiseg drwy gyflwyniad llafar.
Cydnabod amrywiaeth, moeseg a chynaliadwyedd yn y gwyddorau ffisegol.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno'r myfyrwyr i amrywiaeth o becynnau meddalwedd: meddalwedd prosesu geiriau, meddalwedd cyflwyno, taenlenni a rhaglennu gweithdrefnol. Mae'n defnyddio syniadau mewn mathemateg a ffiseg i ddangos defnydd o'r meddalwedd a sgiliau yn y gweithle.
Yn y modiwl mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd yn darparu rhaglen ymwybyddiaeth o sgiliau fel canllaw ar gyfer paratoi ceisiadau am swyddi. Mae'r myfyrwyr yn gweithio mewn timau i ymchwilio gyrfaoedd sydd ar gael i raddedigion Ffiseg (rhoddir enghreifftiau o yrfaoedd gwyddonwyr o gefndiroedd amrywiol) a defnyddio'r meddalwedd a gyflwynwyd i baratoi poster ar eu canfyddiadau. Mae myfyrwyr hefyd yn paratoi ac yn rhoi cyflwyniad unigol byr ar destun mewn Ffiseg.

Cynnwys
Pecynnau prosesu geiriau (fel Word, Latex): cyflwyniad, dogfennau, fformatio, mynegiadau mathemategol, a chyfeiriadau llyfryddol.
Taenlenni (fel Excel): trosolwg, mewnbynnu a fformatio gwybodaeth, fformiwlâu a ffwythiannau, trin, delweddu set ddata (mawr).
Rhaglennu gweithdrefnol.
Pecynnau cyflwyno (megis Powerpoint): ar gyfer posteri ac ar gyfer cyflwyniadau llafar unigol.
Rhaglen ymwybyddiaeth sgiliau gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd yn dangos sut i baratoi dogfennau megis llythyr cyflwyno.
Poster grŵp i dynnu sylw at yrfaoedd sydd ar gael i raddedigion Ffiseg (rhoddir enghreifftiau o yrfaoedd gwyddonwyr o gefndiroedd amrywiol) a'r sgiliau a ddatblygir ar gyfer y rhain.
Cyflwyniad unigol ar destun mewn Ffiseg.

Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Cyfathrebu ysgrifenedig yn yr aseiniadau. Cyfathrebu llafar yn y cyflwyniadau. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Mae'r modiwl yn dangos pwysigrwydd datblygiad personol a cynllunio gyrfa ac mae'n cynnwys ymarferion ymwybyddiaeth sgiliau. |
Datrys Problemau | Caiff sgiliau datrys problemau eu cymhwyso yn yr aseiniadau taenlen a rhaglennu gweithdrefnol ac yn y cyflwyniad ar destun mewn Ffiseg. |
Gwaith Tim | Mae'r aseiniad poster yn weithgaredd grŵp. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Caiff ei annog drwy gydol y modiwl yma sy'n datblygu sgiliau. |
Myfyrdod | Moeseg. Arferion da mewn: Gwyddoniaeth, Addysg a'r Gweithle. |
Rhifedd | Defnyddir cysyniadau a thechnegau rhifyddol gyda thaenlen. |
Sgiliau pwnc penodol | Rhaglennu gweithdrefnol. Datrys problemau mewn ffiseg ar gyfer y cyflwyniad unigol. |
Sgiliau ymchwil | Caiff sgiliau ymchwil eu defnyddio i ymchwilio testun mewn Ffiseg a gyrfaoedd mewn Ffiseg. |
Technoleg Gwybodaeth | Mae amrywiaeth o becynnau cyfrifiadurol yn cael eu defnyddio yn y modiwl. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4