Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
ADM3720
Teitl y Modiwl
Arwain o Fewn ac Ar Draws Systemau Addysg
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Haf
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Asesiad ADM3720  Adroddiad a gwerthusiad beirniadol naill ai o newid system lefel macro (h.y. lefel sir) neu newid system lefel micro (h.y. lefel leol). 4000 Words  100%
Asesiad Semester Asesiad ADM3720  Adroddiad a gwerthusiad beirniadol naill ai o newid system lefel macro (h.y. lefel sir) neu newid system lefel micro (h.y. lefel leol). 4000 Words  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Gwerthuso’n feirniadol ymagweddau gwahanol at newid a gwella system.

2. Arfarnu’n feirniadol sut mae prosesau ac arferion arweinyddiaeth system yn cael eu rhoi ar waith.

3. Cymharu gwahanol systemau yn rhyngwladol i nodi a gwerthuso gwahanol rolau arweinyddiaeth system.

4. Asesu rolau a chyfrifoldebau penodol arweinwyr system unigol a deall y sgiliau arweinyddiaeth penodol sydd eu hangen.

5. Gwerthuso’n feirniadol gydweithrediad athrawon fel ysgogiad ar gyfer newid lefel system a’r rhwystrau a allai atal newid rhag digwydd.

Disgrifiad cryno

Mae arweinyddiaeth system o fewn ac ar draws sefydliadau addysgol yn fwyfwy pwysig er mwyn adeiladu’r cyfalaf proffesiynol a’r capasiti proffesiynol angenrheidiol ar gyfer gwella. Mae tystiolaeth ryngwladol fod arweinwyr/arweinyddiaeth system, pan y’i defnyddir yn gywir, yn gallu bod yn rym cadarnhaol ar gyfer newid
Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio ar rolau, swyddogaethau a chyfrifoldebau arweinyddiaeth y rheiny sy’n gweithredu’n arweinwyr system, ar wahanol lefelau. Mae’r dystiolaeth ryngwladol ynghylch arweinwyr/arweinyddiaeth system, fodd bynnag, yn pwyntio’n gyson at yr angen am eglurder ynghylch:
• Diffiniad, rôl a swyddogaethau arweinwyr system.
• Y meini prawf ar gyfer dewis a’r broses benodi.
• Cyfrifoldebau craidd a’r disgwyliadau a osodir ar arweinwyr system.
• Y strwythurau atebolrwydd a’r prosesau gwerthusol sy’n amgylchynu’u rôl fel arweinwyr system.
• Mesur effaith arweinwyr/arweinyddiaeth system trwy brosesau monitro a gwerthuso cytunedig.
Felly, bydd 4 llinyn craidd y modiwl hwn yn cwmpasu’r agweddau micro a macro ar arwain o fewn, ar draws a rhwng systemau.

Nod

Nod y modiwl yw galluogi myfyrwyr i gyflawni’r canlynol yn feirniadol:

• archwilio cysyniad arweinyddiaeth system a rôl arweinwyr system.
• arfarnu’r ffordd y mae polisi yn effeithio ar arwain newid a gwella system.
• myfyrio ar y ffyrdd y gall athrawon fod yn arweinwyr system a sut gall gwahanol fathau o gydweithredu proffesiynol adeiladu’r capasiti am newid ar lefel system.

Cynnwys

Rhennir y modiwl yn bedwar llinyn craidd, fel a ganlyn:

Maes Craidd 1 Dehongliadau lefel macro o arweinwyr/arweinyddiaeth system
Bydd y maes craidd yn cynnwys damcaniaethau meddwl systemau, newid system a dysgu system. Mae ffocws macro yn pwysleisio effaith gyfunol arweinwyr/arweinyddiaeth system i newid, gweddnewid neu wella’r system. Ar lefel macro, cyflwynir arweinwyr/arweinyddiaeth system ar ffurf cyfres eang o ddisgwyliadau ac arferion arweinyddiaeth sy’n canolbwyntio ar newid a gwelliant ar raddfa.
Maes Craidd 2 Archwilio newid o fewn systemau addysg, ac is-systemau yn rhyngwladol
Bydd y maes craidd hwn yn bwrw golwg ar newid lefel system a’r polisïau sydd wedi fframio gwelliant ysgol a system. Bydd yn bwrw golwg yn benodol ar brosesau newid addysgol a rolau arweinydd/arweinyddiaeth system.
Maes Craidd 3 Dehongliadau lefel micro o arweinwyr/arweinyddiaeth system. Bydd y maes craidd hwn yn canolbwyntio ar rolau, cyfrifoldebau a swyddogaethau penodol arweinwyr system unigol (gan gynnwys athrawon, arweinwyr ysgol ac arbenigwyr addysgol eraill) o fewn cyd-destun neu leoliad addysgol penodol. Mae’r rolau a’r cyfrifoldebau hyn yn cynnwys:
a) eiriolaeth
b) gweithredu
c) hwyluso
ch) bod yn asiant ar gyfer newid
d) porthgadw
dd) paratoi
e) gwella
f) datganoli

Llinyn Craidd 4 Athrawon yn Arwain Newid System – bydd y maes craidd hwn yn canolbwyntio ar y ffyrdd penodol y gall athrawon o fewn system gyfrannu at newid a gwella. Bydd y maes craidd hwn yn ystyried sut y gall y gwahanol fathau o gydweithredu gan athrawon greu’r capasiti i newid a gwella. Hefyd, bydd yn ystyried y rhwystrau rhag arweinyddiaeth system yn ymarferol.
Mae arwain er tegwch a rhagoriaeth yn ganolog i’r llwybr arweinyddiaeth arbenigol hwn, lle’r ystyrir mai tegwch yw’r sbardun polisi canolog sy’n cyd-osod ac yn clymu’r holl bolisïau addysg eraill yng Nghymru. Yn rhy aml o lawer, ystyrir mai mater ychwanegol yw tegwch, prosiect neu is-set o flaenoriaethau polisi sy’n delio ar wahân â hil, rhywedd, rhywioldeb ac ati. Mae cyd-osod polisïau yn hanfodol er mwyn i’r tegwch fod yn fwy na dyhead neu ôl-ystyriaeth. Fel y dengys systemau addysg uchel eu perfformiad, rhagflaenydd rhagoriaeth yw tegwch, nid ei sgil-gynnyrch. Felly, mae angen i’r holl arweinwyr o fewn, rhwng ac ar draws y system gyfuno’u harfer o gwmpas tegwch a rhagoriaeth a bydd y llwybr hwn yn canolbwyntio ar y sgiliau a’r galluoedd sydd eu hangen i weddnewid system.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Datrys Problemau Creadigol Caiff myfyrwyr gefnogaeth i feithrin sgiliau dadansoddi beirniadol a datblygu gwerthfawrogiad beirniadol o’r dystiolaeth y gwnaethant ymhél â hi er mwyn cysyniadoli a chymhwyso’r wybodaeth yn y pwnc hwn i’w harfer eu hunain, a datblygu’u damcaniaethau gweithredu’u hunain yn gysylltiedig â’r pwnc.
Meddwl beirniadol a dadansoddol Dealltwriaeth systematig o wybodaeth, ac ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau presennol a/neu gipolygon newydd, y mae llawer ohoni yn flaenllaw yn eu disgyblaeth academaidd, eu maes astudio neu’u maes arfer proffesiynol, neu’n cael ei lywio ganddynt. Bydd gwybodaeth myfyrwyr a’u hymwybyddiaeth feirniadol yn gysylltiedig â phwnc y modiwl yn cael ei asesu. Bydd disgwyl i bob myfyriwr gysylltu hyn â’u harfer eu hunain.
Sgiliau Pwnc-benodol Dealltwriaeth gynhwysfawr o dechnegau sy’n berthnasol i’w hymchwil neu’u hysgolheictod datblygedig eu hunain, a; Gwreiddioldeb wrth gymhwyso gwybodaeth, ynghyd â dealltwriaeth ymarferol o sut y caiff technegau ymchwil ac ymholi sefydledig eu defnyddio i greu a dehongli gwybodaeth yn y ddisgyblaeth.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7