Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
CC38220
Teitl y Modiwl
Materion Proffesiynol yn y Diwydiant Cyfrifiadura
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Exclusive (Any Acad Year)
Rhestr Ddarllen

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Exam  70%
Arholiad Semester 2 Awr   Exam  70%
Asesiad Ailsefyll Cais am swydd  Sylwer - Rhaid i fyfyrwyr ailsefyll arholiad a fethwyd a/neu ailgyflwyno cydrannau gwaith cwrs a fethwyd/heb eu cyflwyno neu rai o werth cyfatebol 2000 o eiriau  30%
Asesiad Semester Cais am swydd  2000 o eiriau  30%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Asesu yn feirniadol berfformiad economaidd a chynlluniau cwmni cyfrifiadurol bach, a photensial economaidd syniad cychwynnol.

Cymhwyso deddfwriaeth berthnasol sy'n ymwneud â chyfrifiadura a chodau ymddygiad proffesiynol i sefyllfaoedd ddydd i ddydd sy'n codi mewn busnes, a gwerthuso risgiau sy'n gysylltiedig â'r sefyllfaoedd hynny.

Egluro eu cynllun gyrfa pum mlynedd a gwybod pa gamau sydd angen eu cymryd i'w gyflawni.

Asesu'r math o waith a wneir gan gwmni cyfrifiadurol ac i resymu mathau o gyfleoedd a heriau gyrfa sydd ar gael o fewn y cwmni hwnnw.

Gwerthuso'r goblygiadau rheoli i gwmni o ran materion amrywiaeth a chydraddoldeb, iechyd a diogelwch, TG gwyrdd, rheoli diogelwch ac adnoddau dynol.

Disgrifiad cryno

Mae’r modiwl hwn yn mynd i’r afael â llawer o’r materion annhechnegol sy’n hanfodol i fyfyrwyr sy’n bwriadu dilyn gyrfa broffesiynol yn y diwydiant meddalwedd. Bydd y pynciau a drafodir yn y modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i ddeall llawer o'r materion a fydd yn codi wrth iddynt ddilyn gyrfa mewn cyfrifiadureg. Yn benodol, mae ein graddau wedi'u hachredu gan y BCS, ac mae'r BCS yn ystyried y mathau o bynciau sy'n cael sylw yn y modiwl hwn fel rhan angenrheidiol o addysg unrhyw weithiwr TG proffesiynol siartredig.

Nod

Pwrpas y modiwl hwn yw cyflwyno deunydd ym meysydd allweddol proffesiynoldeb a gyrfaoedd, cyllid, iechyd a diogelwch, pryderon amgylcheddol, y gyfraith ac eiddo deallusol mewn modd unedig, yng nghyd-destun y diwydiant meddalwedd. Dysgir peth deunydd rhagarweiniol o'r math hwn ar adegau priodol mewn modiwlau eraill ar lefelau is. Mae'r modiwl hwn yn dod â'r holl ddeunydd hwnnw ynghyd ar lefel briodol ar gyfer myfyriwr graddedig sy'n ymuno â'r diwydiant meddalwedd.

Cynnwys

Cyflwyniad i'r cwrs [1]

Materion cyfreithiol: Troseddol v cyfraith sifil. Camddefnyddio Cyfrifiaduron, RIPA, Diogelu data a phreifatrwydd data. IPR. Contractau meddalwedd a thrwyddedu. [5]

Materion rheoli: Strwythur sefydliadau, Rheoli Diogelwch, Rheoli Cynaliadwyedd, Rheoli risg, Adnoddau Dynol, rheolaeth 360 gradd, proffesiynoldeb, y BCS, Cydraddoldeb ac amrywiaeth. [8]

Busnes: Busnesau Newydd. Cynllunio. Costio a phrisio. Elw a cholled. Marchnata. [6]

Gyrfaoedd: Penderfynu ar yrfa. Dod o hyd i'r swydd iawn ar gyfer eich gyrfa. Paru eich sgiliau â hysbysebion swyddi. Cyfweliadau - beth i'w ddisgwyl, sut i ateb cwestiynau anodd, beth i'w ofyn. Sgyrsiau gan gwmnïau cynrychioliadol yn y diwydiant meddalwedd. [9]

Crynodeb o'r modiwl [1]

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Addasrwydd a gwydnwch Dealltwriaeth o sefydliadau sy'n bwysig ar gyfer gyrfa; Datblygu sgiliau ymgeisio am swydd
Cydlynu ag erail Amherthnasol
Cyfathrebu proffesiynol Ym mhob aseiniad ymarferol
Datrys Problemau Creadigol Ym mhob aseiniad ymarferol
Gallu digidol Yn gynhenid i'r pwnc.
Meddwl beirniadol a dadansoddol Trwy ddeunydd ariannol, a asesir yn yr arholiad
Myfyrdod Yn yr aseiniad cais am swydd
Sgiliau Pwnc-benodol Amherthnasol
Synnwyr byd go iawn Yn yr aseiniad cais am swydd

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6