Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
TC10620
Teitl y Modiwl
Gweithio yn y Diwydiannau Creadigol
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll 5 Awr   Cyflwyniad  40%
Asesiad Ailsefyll Portffolio  2000 Words  60%
Asesiad Semester Portffolio  2000 Words  60%
Asesiad Semester 5 Awr   Cyflwyniad  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Dealltwriaeth o’r swyddi, y strwythurau sy’n bodoli a’r disgwyliadau proffesiynol o fewn y Diwydiannau Creadigol.

Gallu adlewyrchu'n huawdl yn ysgrifenedig ac ar lafar ar y newidiadau sefydliadol sydd yn effeithio ar y Diwydiannau Creadigol cyfoes a sut maen nhw'n newid a pharhau i newid o dan amodau economaidd a hanesyddol amrywiol.

Medru cyflwyno dealltwriaeth o oblygiadau hynny ar waith creadigol unigol.

Disgrifiad cryno

Fe fyddwch yn archwilio’r Diwydiannau Creadigol cyfoes yng Nghymru, un o’r diwydiannau pwysicaf a mwyaf ffyniannus yng Cymru a thu hwnt. Yn ogystal ag edrych ar y maes yn ddamcaniaethol, rhydd y modiwl fewnwelediad i weithio yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru heddiw, a hynny drwy gyfres o sesiynau gyda arbenigwyr o’r meysydd dan sylw. Byddwch yn edrych ar brif ddadleuon a phynciau llosg y maes megis nawdd gyhoeddus, Brexit a Covid-19 ac yn ystyried y posibiliadau ar gyfer modd mae’r Diwydiannau Creadigol yn chwarae rôl flaenllaw yng Nghymru a thu hwnt yn economaidd, yn greadigol, yn wleidyddol ac yn rhyngwladol.

Cynnwys

Wythnos 1: Lleoli’r Diwydiannau Creadigol – Cyd-destun a damcaniaeth
Wythnos 2: Y cysyniad o Nawdd Gyhoeddus (Celfyddydau a Darlledu)
Wythnos 3: Y Cenedlaethol a’r Lleol
Wythnos 4: Y Cenedlaethol a’r Rhyngwladol
Wythnos 5: COVID-19 a’r goblygiadau
Wythnos 6: Cyflwyniadau Myfyrywr
Gwahoddir unigolion o’r diwydiannau creadigol i gyfrannu i 4 sesiwn olaf y modiwl.
Wythnos 7: Sesiwn Gwâdd
Wythnos 8: Sesiwn Gwâdd
Wythnos 9: Sesiwn Gwâdd
Wythnos 10: Sesiwn Gwâdd

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Addasrwydd a gwydnwch Bydd y modiwl yn cyflwyno amryw o bynciau ac aseiniadau, a bydd gofyn iddynt addasu i wybodaeth newydd a ffyrdd newydd o ymchwilio ar draws y modiwl.
Cydlynu ag erail Bydd y sesiynau dysgu yn rhoi’r cyfle i drafod ac ymchwilio pynciau fel grwp.
Cyfathrebu proffesiynol Cyfle i gwrdd a thrafod efo arbenigwyr o’r maes.
Datrys Problemau Creadigol Bydd myfyrwyr yn dysgu sgiliau ymchwil a phynciau academaidd er mwyn ymrwymo yn y sesiynau wythnosol.
Gallu digidol Bydd y modiwl yn defnyddio Blackboard i gyfleu prif wybodaeth y modiwl, a defnyddir Aspire, a system Turnitin. Defnyddir Powerpoint yn ystod y cyflwyniad.
Meddwl beirniadol a dadansoddol Bydd y myfyrwyr yn trin pynciau academaidd ac ymarferol drwyddi draw. Bydd disgwyl iddynt ymchwilio a myfyrio ar gasgliad o ffynonellau a phynciau yn y sesiynau dysgu a yn y broses o ffurfio’r aseiniadau
Myfyrdod Bydd sesiynau dysgu a’r aseiniadau yn galluogi myfyrwyr i adlewyrchu ar eu dealltwriaeth o’r pwnc, a’r proses o ymchwilio y Diwydiannau Creadigol.
Synnwyr byd go iawn Bydd y modiwl yn canolbwyntio ar drafodaethau a dealltwriaeth o’r cyd-destun proffesiynol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4