Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
TC21020
Teitl y Modiwl
Ymarfer Cynhyrchu 1: Perfformio
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Exclusive (Any Acad Year)
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll 1 Awr   Cyflwyniad Ymarferol  Cyflwyniad ymarferol unigol 30 munud yn seiliedig ar thema roddedig 1 Awr  60%
Asesiad Ailsefyll Portffolio Beirniadol a Dogfennol  Portffolio Beirniadol a Dogfennol cyfwerth â 1500 o eiriau/ 3 munud o fideo wedi’i olygu  40%
Asesiad Semester 80 Awr   Asesu Parhaus Ymarferol  Ymarfer a pharatoi gogyfer cynhyrchiad amlgyfrwng  60%
Asesiad Semester Portffolio Beirniadol a Dogfennol  Portffolio Beirniadol a Dogfennol cyfwerth â 1500 o eiriau/ 3 munud o fideo wedi’i olygu  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Arddangos gallu i ddeall nodau ac amcanion celfyddydol a thechnegol y cynhyrchiad yn ystod y broses ddyfeisio.

Arddangos gallu i gymhwyso’r ddealltwriaeth honno wrth baratoi deunydd ymarferol tuag at y cynhyrchiad amlgyfrwng.

Arddangos meistrolaeth elfennol o ystod o sgiliau cynhyrchu a pherfformio.

Arddangos gallu i gymhwyso ac adfyfyrio ar eu dealltwriaeth o natur y perfformiad a gynhyrchir, yn ysgrifenedig ac ar lafar.

Disgrifiad cryno

Fe fydd y modiwl hwn yn rhoi cyfle i'r myfyrwyr fod yn rhan o broses o greu ac ymarfer cynhyrchiad amlgyfrwng byw. Fe fydd briff sylfaenol y cynhyrchiad yn cael ei gyflwyno i’r myfyrwyr gan aelod o staff yr Adran, ac fe fydd modd i’r myfyrwyr gyfrannu i’r broses trwy weithio fel perfformiwr a/neu gyfarwyddwr dan ofalaeth yr aelod staff hwnnw. Fe fydd gofyn iddynt astudio'r testun a ddewiswyd ar gyfer y prosiect, a'i ddadansoddi'n fanwl o safbwynt gweledigaeth yr awdur, ymchwilio i gynyrchiadau blaenorol, ac ystyried sut gellir ei gyflwyno’n fyw yn y presennol.

Yn sgil y gwaith cychwynnol hwn, fe archwilir sut i greu cynllun ymarfer effeithiol a thrylwyr ar gyfer y cynhyrchiad, ac fe eir ati i roi prawf ar y cynllun hwnnw trwy gyfrwng arbrofion ac ymarferion dramatwrgaidd. Yn ystod y cyfnod hwn, dosrennir tasgau penodol i’r myfyrwyr o safbwynt cyflwyno unigol, golygfeydd a gweithgareddau grŵp, addasu testunol, cymeriadu a choreograffi. Daw’r gwaith ar gyfer y modiwl hwn i ben wrth i’r cynhyrchiad gael ei lunio a’i ffurfio’n barod ar gyfer ei ddangos i gynulleidfa fyw.

Wrth ymroi i’r broses hon o arbrofi, archwilio, adeiladu ac ymarfer, fe fydd y myfyrwyr yn cydweithio gyda myfyrwyr ar nifer o fodiwlau eraill: sef TC2**20 Ymarfer Cynhyrchu 1: Cyfryngau, TC3**20 Ymarfer Cynhyrchu 2: Perfformio, a TC3**20 Ymarfer Cynhyrchu 2: Cyfryngau. Bydd disgwyl i’r myfyrwyr ar y modiwlau hyn ganfod a diffinio ffyrdd o gyd-weithio a rhannu gwahanol gyfrifoldebau creadigol ac ymarferol tuag at nod cyffredin.

Rhydd y cydweithio hwn gyfle i’r myfyrwyr ddatblygu a chymhwyso sgiliau ymarferol arbenigol; ond fe fydd hefyd yn gofyn iddynt adolygu eu cynnydd hwy eu hunain a gosod eu cyfraniad i’r gwaith dyfeisio, creu ac ymarfer yn ei gyd-destun (o ran gwaith ymchwil, a’r cyd-destun ymarferol ac artistig); gwneir hyn trwy gyflwyno Portffolio Beirniadol a Dogfennol. Fe gyflwynir 5 seminar 1 awr i’r grwpiau sy’n gysylltiedig â’r prosiect er mwyn trafod a chynnig cyngor ar baratoadau tuag at yr aseiniad hwn.

Cynnwys

Rhestr o weithgareddau nodweddiadol i’w cyflwyno yn y sesiynau ymarferol a’u trafod yn y seminarau:
Darllen y Ddrama
Byr-fyfyrio gyda’r testun
Asio’r deunydd sgrin a’r perfformio byw
Arbrofi gyda’r berthynas rhwng y perfformio a’r gwaith sgrin
Creu gosodiad llwyfan ar gyfer llwyfannu’r cynhyrchiad byw
Ymarfer y digwyddiadau byw
Gweithio ar gymeriadaeth a choreograffi
Diffinio sut i gyfathrebu/cysylltu â’r gynulleidfa

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cydlynu ag erail Mae'r modiwl hwn wedi'i seilio ar brofiad dwys o waith ymarferol mewn grŵp yn y Prosiect Cynhyrchu amlgyfrwng. Fe fydd hefyd yn gofyn i’r myfyrwyr gydweithio’n agos gyda’u cyd-fyfyrwyr ym maes y cyfryngau; a rhydd y pethau hyn .gyfle i'r myfyrwyr ddeall ac ymestyn ystod eang iawn o sgiliau gwaith tîm.
Cyfathrebu proffesiynol O raid, fe fydd cyfrannu i gynhyrchiad theatraidd byw yn helpu i ddatblygu sgiliau cyfathrebu'r myfyrwyr, yn actorion, cyfarwyddwyr a dylunwyr. Mae'r broses o baratoi a chyflwyno cynhyrchiad yn gofyn am mynegiant a gwrando gofalus a phwrpasol iawn. Fe fydd y modiwl hwn yn rhoi pwyslais arbennig iawn hefyd ar waith cyd-destunol a chefndirol, ac fe fydd darllen a thrafod natur y ddrama a'r cynhyrchiad yn rhan allweddol bwysig o'r seminarau wythnosol.
Datrys Problemau Creadigol Fe fydd seminarau dysgu'r modiwl yn fodd o nodi nifer o broblemau sylfaenol y mae'n rhaid eu wynebu a cheisio'u goresgyn wrth gyflwyno cynhyrchiad theatraidd, yn enwedig y rheini sy'n codi wrth geisio trosglwyddo gweledigaeth dramodydd o'r dudalen i'r llwyfan cyfoes. Fe fyddant yn ffordd allweddol bwysig o helpu'r myfyrwyr i nodi ffactorau a allai effeithio ar y cynhyrchiad gorffenedig mewn gwahanol ffyrdd, ac o ddatblygu meddylfryd creadigol tuag at eu gwaith.
Gallu digidol Ni ddatblygir y sgiliau hyn yn uniongyrchol o ganlyniad i'r profiad dysgu, ond fe fydd yna sawl cyfle i'r myfyrwyr ymestyn eu gallu i ddeall a defnyddio offer technegol digidol wrth wneud baratoi eu gwaith ymarferol, ac wrth gysylltu a'i gilydd yn ystod y broses gwaith.
Meddwl beirniadol a dadansoddol Fe fydd yr aseiniadau ysgrifenedig yn y portffolio yn codi allan o waith a drafodir ac a gyflwynir yn y seminarau, a chan hynny yn gofyn datblygu sgiliau dadansoddiadol er mwyn eu cwblhau. Fe fydd y seminarau hefyd yn trafod y gwaith a fydd wedi'i gyflawni gan y cyfarwyddwr ac yn gosod y gwaith hwnnw mewn cyd-destun ehangach yn seiliedig ar ddehongliad sylfaenol o waith y dramodydd.
Myfyrdod Fe fydd y modiwl hwn yn cael ei gyflwyno trwy gyfrwng nifer o wahanol dulliau dysgu, ac fe fydd yr ystod hwn o brofiadau yn helpu i'r myfyrwyr ddod yn fwy ymwybodol o'u profiad dysgu a'u anghenion personol mewn perthynas a'u cryfder wrth ymateb i rai a'r rhwystrau a all godi mewn perthynas â rhai eraill.
Synnwyr byd go iawn Fe fydd y profiad o weithio ar gynhyrchiad ymarferol ac ymateb yn ymarferol i'r cynhyrchiad hwnnw yn rhoi cyfle i'r myfyrwyr ddatblygu sgiliau theatr ymarferol wrth drin testun dramataidd. Fe fydd hyn yn rhoi cyfle iddynt arbenigo mewn maes o'u dewis hwy (cyfarwyddo, perfformio neu ddylunio), i ddatblygu ymwybyddiaeth o'u medrau personol, ac o'r safbwyntiau a nodweddion personol hynny a all fod o ddefnydd iddynt wrth gynllunio gyrfa yn y theatr neu mewn gyrfaoedd creadigol cyffelyb.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5