Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
TC30620
Teitl y Modiwl
Theatr a Ffilm Gyfoes: Cymru a'r Byd
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Exclusive (Any Acad Year)
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll .1 Awr   Cyflwyniad  .1 Awr  50%
Asesiad Ailsefyll Traethawd  2000 o eiriau  50%
Asesiad Semester .1 Awr   Cyflwyniad  .1 Awr  50%
Asesiad Semester Traethawd  2000 o eiriau  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Defnyddio a chymhwyso cysyniadau sy'n canoli ar genedl a hunaniaeth wrth drafod ffilm a theatr gyfoes.

Dadansoddi a chymhwyso'n gritigol agweddau ar hunaniaeth genedlaethol a diwylliannol mewn ffilm a theatr gyfoes.

Caffael a mynegi dealltwriaeth o'r testunau a astudir mewn perthynas â'u cyd-destunau diwylliannol a gwleidyddol rhwng 1997- heddiw i lefel sy'n briodol ar derfyn gradd israddedig.

Arddangos gallu i ymchwilio a chyflwyno dadl soffistigedig sydd wedi ei chefnogi'n llawn gan ystod o ffynonellau critigol.

Disgrifiad cryno

Fe fydd y modiwl hwn yn edrych ar Theatr a Ffilm yng Nghymru yn y cyfnod ôl-ddatganoledig (1997-heddiw). Ystyrir damcaniaethau sy’n canoli ar hunaniaeth ddiwylliannol a chenedlaethol, a dadansoddir testunau ffilmig a theatraidd trwy lens nifer o ddamcaniaethau cyfoes.

Nod

Fe fydd y modiwl hwn yn edrych ar Theatr a Ffilm yng Nghymru yn y cyfnod ôl-ddatganoledig (1997-heddiw). Ystyrir damcaniaethau sy’n canoli ar hunaniaeth ddiwylliannol a chenedlaethol, a dadansoddir testunau ffilmig a theatraidd trwy lens nifer o ddamcaniaethau cyfoes.

Cynnwys

1.Cyflwyniad: Ffilm, Theatr, a’r Cenedlaethol a’r Rhyngwladol
2.'Hen Gymru'
3.Y ‘Gymru Newydd'
4. Iaith
5. Amlddiwylliannedd
6. Trawsgenedlaetholdeb
7. #MeToo
8. Newid Hinsawdd
9. Gofod a Lleoliad
10. Cymru a’r Byd

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Addasrwydd a gwydnwch Bydd y modiwl yn cyflwyno amryw o bynciau ac aseiniadau, a bydd gofyn iddynt addasu i wybodaeth newydd a ffyrdd newydd o ymchwilio ar draws y modiwl.
Cyfathrebu proffesiynol Mae’r aseiniadau ysgrifenedig ac ar lafar yn datblygu sgiliau cyfathrebu proffesiynol.
Datrys Problemau Creadigol Bydd myfyrwyr yn dysgu sgiliau ymchwil a phynciau academaidd er mwyn ymrwymo yn y sesiynau wythnosol.
Gallu digidol Bydd y modiwl yn cyflwyno amryw o bynciau ac aseiniadau, a bydd gofyn iddynt addasu i wybodaeth newydd a ffyrdd newydd o ymchwilio ar draws y modiwl
Meddwl beirniadol a dadansoddol Bydd y myfyrwyr yn trin pynciau academaidd ac ymarferol drwyddi draw. Bydd disgwyl iddynt ymchwilio a myfyrio ar gasgliad o ffynonellau a phynciau yn y sesiynau dysgu a yn y broses o ffurfio’r aseiniadau.
Myfyrdod Bydd sesiynau dysgu a’r aseiniadau yn galluogi myfyrwyr i adlewyrchu ar eu dealltwriaeth o’r pwnc
Synnwyr byd go iawn Bydd y modiwl yn canolbwyntio ar drafodaethau a dealltwriaeth o’r brif ddamcaniaethau sy’n effeithio’r byd heddiw.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6