Gwybodaeth Modiwlau

Module Identifier
CT13120
Module Title
Sgiliau Hanfodol ar Gyfer Troseddegwyr
Academic Year
2024/2025
Co-ordinator
Semester
Semester 1
Pre-Requisite
Exclusive (Any Acad Year)
Reading List
Other Staff

Course Delivery

 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment Aseiniad 1  Bydd yr aseiniad hwn yn gofyn i fyfyrwyr gynnal dadansoddiad thematig 1500 o eiriau  50%
Semester Assessment Aseiniad 2  Bydd yr aseiniad hwn yn gofyn i fyfyrwyr ddylunio prosiect ymchwil ansoddol 1500 o eiriau  50%
Supplementary Assessment Aseiniad 1  Bydd yr aseiniad hwn yn gofyn i fyfyrwyr gynnal dadansoddiad thematig, gan ddefnyddio darn arall o ddata ansoddol. 1500 o eiriau  50%
Supplementary Assessment Aseiniad 2  Bydd yr aseiniad hwn yn gofyn i fyfyrwyr ddylunio prosiect ymchwil ansoddol, gan ddefnyddio senario Troseddegol amgen. 1500 o eiriau  50%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

Defnyddio sgiliau academaidd trosglwyddadwy, megis deall sut i ysgrifennu a chyfeirio mewn ffordd sy'n gadarn yn academaidd

Deall hanfodion datblygu a dylunio ymchwil.

Deall sut i gynnal dadansoddiad thematig

Meddu ar ddealltwriaeth ddatblygol fanteision a chyfyngiadau dyluniadau dulliau ymchwil ansoddol.

Meddu ar ddealltwriaeth ddatblygol o sut i asesu astudiaethau ymchwil troseddegol empirig yn feirniadol.

Brief description

Mae cyfleoedd i fyfyrwyr gymryd rhan weithredol yn y broses ymchwil, datblygu sgiliau arsylwi a chynnal cyfweld ac arolygu un i un.

Content

Bydd y pynciau dan sylw yn cynnwys:

Sgiliau academaidd trosglwyddadwy, gan gynnwys ysgrifennu a chyfeirio academaidd
Dylunio ymchwil ansoddol a methodoleg
Elfennau o ymchwil ansoddol
Deall a chymhwyso math sylfaenol o ddadansoddiad ansoddol

Module Skills

Skills Type Skills details
Communication Bydd myfyrwyr yn cael eu dysgu sut i ysgrifennu i safon academaidd uchel, a sut i gymhwyso cyfeiriadau Harvard i'w gwaith, a fydd yn eu galluogi i ddatblygu sgiliau sydd eu hangen i gynhyrchu cyhoeddiadau ysgrifenedig.
Improving own Learning and Performance Mae'n ofynnol i fyfyrwyr fyfyrio ar eu dyluniadau eu hunain o gyfweliad ac arolwg, sy'n gofyn am lefel dda o fyfyrio personol ar eu datblygiad a'u dysgu eu hunain.
Information Technology Bydd gofyn i fyfyrwyr gyrchu deunyddiau ar Blackboard, ond hefyd i ddefnyddio rhaglen arolwg ar-lein i gwblhau eu hail aseiniad.
Personal Development and Career planning Mae'r modiwl hwn wedi'i wreiddio'n fawr yn y byd go iawn, a sut y gellir cynnal ymchwil gyda phobl go iawn. Bydd y ddau aseiniad yn gofyn iddynt redeg gweithgaredd ymchwil gyda rhywun y tu allan i'r cwrs, a myfyrio ar ba mor dda y gweithiodd yr offer gyda phobl go iawn mewn cymdeithas.
Problem solving Mae ethos cyfan y modiwl yn troi o gwmpas datrys problemau. Dyma hanfod ymchwil gwyddorau cymdeithasol ac felly bydd y modiwl yn ymwneud yn helaeth ag annog a meithrin y sgil hon.
Research skills Mae gofyn i fyfyrwyr wneud y gwaith o ddylunio a chyflwyno cyfweliad lled-strwythuredig gyda phartner. O'r herwydd, bydd gofyn iddynt ddeall a chymhwyso elfennau cymhleth dylunio ymchwil ansoddol
Subject Specific Skills Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau a fydd yn eu helpu i ddylunio a chynnal prosiect ymchwil, pe byddent yn penderfynu ymgymryd a thraethawd hir empirig yn eu trydedd flwyddyn.
Team work Bydd y ddau aseiniad yn ei gwneud yn ofynnol i'r myfyrwyr weithio gydag un arall i gynhyrchu a) amserlen gyfweld a b) holiadur arolwg (er y bydd yr aseiniadau'n cael eu hysgrifennu'n unigol). Bydd y seminarau a'r gweithdai hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr weithio gyda'i gilydd drwyddi draw mewn ffordd ymarferol iawn.

Notes

This module is at CQFW Level 4