Ystadegaeth

Cod y Modiwl
MT11310
Teitl y Modiwl
Ystadegaeth
Blwyddyn Academaidd
2027/2028
Semester
Semester 2
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Dr Jukka Kiukas
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Rhagofynion
MA10310 neu MT10310
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Mr Alan Jones
Dr Tudur Davies
Dr Jukka Kiukas

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Gwaith Cwrs: Marc yn seiliedig ar ymrwymiad, cyfranogiad ac aseiniadau a gyflwynir. 20%
Arholiad Semester Arholiad: 2 Awr Arholiad Ysgrifenedig 2 Awr 80%
Asesiad Ailsefyll Prawf Blackboard: 20%
Arholiad Ailsefyll Arholiad atodol: 2 Awr Arholiad Ysgrifenedig 2 Awr 80%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. Disgrifio'r syniad o gydamrywiant;
  2. Mesur cymedrau ac amrywiannau cyfuniadau llinellol o hapnewidion;
  3. Adnabod ffwythiannau tebygolrwydd addas ar gyfer sefyllfa benodol;
  4. Disgrifio modelu yn nhermau treialon Bernoulli a digwyddiadau hap;
  5. Defnyddio ffwythiannau i ddarganfod momentau a braslunio cromliniau;
  6. Asesu gwerth penodol mewn perthynas gyda gradd ffwythiant tebygolrwydd penodol;
  7. Mesur cymedrau a chyfranneddau o ddata;
  8. Esbonio'r defnydd o'r prawf ystadegol;
  9. Adeiladu a chynnal profion syml;
  10. Defnyddio tablau ystadegol perthnasol.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn yn anelu at ddatblygu modelau tebygolrwydd cyffredin sy'n gymwys ag amrywiaeth o sefyllfaoedd ynghyd ag egluro eu defnydd mewn cyd-destun ystadegol. Mae cyflwyniad i'r ddamcaniaeth o amcangyfrif hefyd yn cael ei gynnwys.

Nod

I gyflwyno Ystadegaeth i fyfyrwyr Mathemateg.

Cynnwys

Cynnwys:

1. Y BROBLEM O GASLIAD: Y gwahaniaeth rhwng tebygolrwydd a casgliad ystadegol. Asesu gwerthoedd 'nodweddiadol' o ddosraniad. Y syniad o ystadegyn. Amcangyfrif ac amcangyfrifynnau. Manwl gywirdeb. Tuedd, samplu, amrywiant a gwall sgwar cymedrig. Cymhariaeth o amcangyfrifynnau.
2. MODELU (STOCASTIG) WEDI'I SELIO AR DEBYGOLRWYDD (GAN GYNNWYS ENGHREIFFTIAU O GASGLIADAU): Treialon Bernoulli a dosraniadau wedi'i selio arnynt (Geometrig, Binomial). Polau opiniwn. Cydamrywiant a chydberthyniad.Amrywiantau cyfuniadau llinol o hapnewidynnau. Modelu hapddigwyddiadau. Y dosraniadau Poisson ac esbonyddol. Normalrwydd a'r Theorem Terfan Ganolog. Deddf Wan Rhifau Mawr.
3. CASGLIAD: Cymedr samplu, amrywiant samplu a gwyriad safonol cyfanswm y sampl a chyfartaledd y sampl. Profi ystadegol. Arwynebedd cynffon. Gwerthoedd p. Engreifftiau o brofion syml. Cyfyngau hyder.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Addasrwydd a gwydnwch Bydd cwblhau tasgau (aseiniadau) i'r terfynau amser a osodir yn cynorthwyo â datblygiad personol.
Cyfathrebu proffesiynol Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno datrysiadau i ymarferion gosodedig sydd wedi'u hysgrifennu yn glir.
Datrys Problemau Creadigol Bydd yr aseiniadau'n cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr i ddangos eu creadigrwydd er mwyn darganfod datrysiadau a datblygu eu sgiliau datrys problemau.
Gallu digidol Defnydd o Blackboard ac adnoddau rhyngrwyd.
Sgiliau pwnc penodol Mae’r modiwl yn datguddio myfyrwyr i bynciau mwy eang mewn mathemateg.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4