Gwybodaeth Modiwlau

Module Identifier
TC20040
Module Title
Seiliau Ymarfer Cynhyrchu
Academic Year
2020/2021
Co-ordinator
Semester
Semester 1
Reading List
Other Staff

Course Delivery

 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment Asesu parhaus ymarferol  Gwaith cynhyrchu yn y Prosiect Cynhyrchu (mewn perfformiad 90-120 munud.)  40%
Semester Exam Cyflwyniad a dogfennaeth  Cyflwyniad grwp gydag elfen ysgrifenedig unigol i'w gyflwyno ar yr un dydd.  60%
Supplementary Assessment Traethawd  Adroddiad ysgrifenedig (2,500 o eiriau) yn lle'r elfen ymarferol.  40%
Supplementary Assessment Cyflwyniad  Cyflwyniad unigol.  60%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

1. Arddangos gallu i ddeall nodau ac amcanion celfyddydol a thechnegol cynhyrchiad theatraidd llawn.

2. Arddangos gallu i gymhwyso’r ddealltwriaeth honno wrth baratoi a chyflwyno gwaith ymarferol yn y Prosiect Cynhyrchu.

3. Arddangos meistrolaeth elfennol o ystod o sgiliau cynhyrchu, ac arbenigedd mewn un math o waith neilltuol (e.e. cyfarwyddo, actio, dylunio).

4. Arddangos gallu i gymhwyso ac ymestyn eu dealltwriaeth o natur y ddrama a gynhyrchir wrth baratoi a chreu Cyflwyniad Ymarferol mewn Grŵp.

Brief description


Fe fydd y modiwl hwn yn rhoi cyfle i'r myfyrwyr arsylwi ar y broses o greu cynhyrchiad theatraidd trwy gyfrwng trafodaethau gyda'r cyfarwyddwyr, y perfformwyr a'r tîm cynhyrchu. Fe fydd yn gofyn iddynt astudio'r ddrama a ddewiswyd ar gyfer y cynhyrchiad, a'i ddadansoddi'n fanwl o safbwynt gweledigaeth y dramodydd, hanes rai o'r cynyrchiadau llwyfan blaenorol a fu ohono, ac fel testun i'w gyflwyno'n fyw yn y presennol.


Fe fydd cyfle i'r myfyrwyr fynychu ymarferion a chyfarfodydd dylunio a llwyfannu ar gyfer y cynhyrchiad, gan sylwi ar yr amrediad eang o swyddogaethau sydd yn cydgyfrannu er mwyn greu cynhyrchiad llwyddiannus. Wrthi 'r modiwl fynd yn ei flaen, rhoddir mwy a mwy o gyfleon iddynt gyfrannu'n uniongyrchol i'r broses gynhyrchu trwy gymryd rôl is-gyfarwyddwr, aelod o'r tîm dylunio a rheoli llwyfan neu berfformiwr ar lwyfan.


Nod y cydweithio hwn fydd galluogi'r myfyrwyr i ddatblygu eu safbwynt beirniadol ac ymarferol eu hunain ar y ddrama ac ar y cynhyrchiad. Profir y datblygiad hwn trwy gyfrwng portffolio o ddarnau ysgrifenedig a fydd yn gofyn i'r myfyrwyr adrodd ar wahanol agweddau o'r broses gynhyrchu, ar weledigaeth y dramodydd, ar gyd-destun hanesyddol, neu gymdeithasol cyfoes, y ddrama a.y.b. Ar ôl cwblhau'r cynhyrchiad, rhoddir cyfle iddynt ymateb yn ymarferol (a gaiff ei sefyll fesul grŵp) a fydd yn galluogi i arddangos a chymhwyso'r sgiliau arbenigol a ddysgasant.

Content


Trefn arfaethedig y darlithoedd:


1. Cyflwyniad i’r Testun Gosod


2. Dadansoddi’r Testun


3. Bywgraffiad a Chyd-destun hanesyddol/cymdeithasol y Dramodydd


4. Enghreifftiau Eraill o waith y Dramodydd


5. Prif Nodweddion/Gweledigaeth Gelfyddydol y Cynhyrchiad


6. Y Llwyfaniad


7. Arddull y Cyfarwyddo


8. Y Broses Ymarfer


9. Y Cynhyrchiad a’r Gynulleidfa


10. Paratoi’r Cyflwyniad Ymarferol


Addasir trefn a chynnwys y darlithoedd yn unol â natur a datblygiad y prosiect.

Module Skills

Skills Type Skills details
Application of Number Nid yw’r modiwl yn uniongyrchol ddatblygu’r sgil penodol hwn. 
Communication O raid, fe fydd cyfrannu i gynhyrchiad theatraidd byw yn helpu i ddatblygu sgiliau cyfathrebu'r myfyrwyr, yr actorion, cyfarwyddwyr a dylunwyr. Mae'r broses o baratoi a chyflwyno cynhyrchiad yn gofyn am mynegiant a gwrando gofalus a phwrpasol iawn. Fe fydd y modiwl hwn yn rhoi pwyslais arbennig iawn hefyd ar waith cyd-destunol a chefndirol, ac fe fydd darllen a thrafod natur y ddrama a'r cynhyrchiad yn rhan allweddol bwysig o'r seminarau wyhtnosol. Fe fydd y modiwl hefyd yn cynnig mwy nag un math ar 'gynulleidfa' i'r myfyrwyr geisio cyfathrebu a hwy - cynulleidfa gyhoeddus yn achos y cynhyrchiad, cynulleidfa academaidd (tiwtor y modiwl ac arholwyr mewnol/allanol) yn achos y Cyflwyniad Ymarferol a'u cyd-fyfyrwyr wrth baratoi ac ymarfer y cynhyrchiad ei hun.
Improving own Learning and Performance Fe fydd y modiwl hwn yn cael ei gyflwyno trwy gyfrwng nifer o wahanol dulliau dysgu, ac fe fydd yr ystod hwn o brofiadau yn helpu i'r myfyrwyr ddod yn fwy ymwybodol o'u profiad dysgu a'u anghenion personol mewn perthynas a'u cryfder wrth ymateb i rai a'r rhwystrau a all godi mewn perthynas a rhai eraill. Gan fod tair elfen i'r broses asesu yn y modiwl, fe fydd yn gyfle da i'r myfyrwyr datblygu'r gallu i gynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig. Fe fydd y sesiynau Tiwtorial a gyflwynir i wahanol grwpiau gwaith(cyfarwyddwyr, perfformwyr, dylunwyr) yn rhoi cyfle i'r myfyrwyr ystyried ac arolygu eu cynydd unigol mewn perthynas a'r prosiect ymarferol a'r modiwl yn gyffredinol.
Information Technology Ni ddatblygir y sgiliau hyn yn uniongyrchol o ganlyniad i'r profiad dysgu, ond fe fydd yna sawl cyfle i'r myfyrwyr ymestyn eu gallu i ddefnyddio ffynonellau gwybodaeth electronig wrth wneud eu gwaith cefndirol ac ymchwil i'r gwaith ymarferol, wrth baratoi ar gyfer seminarau ac wrth gysylltu a'i gilydd yn ystod y broses gwaith.
Personal Development and Career planning Fe fydd y profiad o weithio ar gynhyrchiad ymarferol ac ymateb yn ymarferol i'r cynhyrchiad hwnnw yn rhoi cyfle i'r myfyrwyr ddatblygu sgiliau theatr ymarferol wrth drin testun dramataidd. Fe fydd hyn yn rhoi cyfle iddynt arbeigo mewm maes o'u dewis hwy (cyfarwyddo, perfformio neu ddylunio), i ddatblygu ymwybyddiaeth o'u medrau personol, ac o'r safbwyntiau a nodweddion personol hynny a all fod o ddefnydd iddynt wrth gynllunio gyrfa yn y theatr neu mewn gyrfaoedd creadigol cyffelyb.
Problem solving Fe fydd seminarau dysgu'r modiwl yn fodd o nodi nifer o broblemau sylfaenol y mae'n rhaid eu wynebu a cheisio'u goresgyn wrth gyflwyno cynhyrchiad theatraidd, yn enwedig y rheini sy'n codi wrth geisio trosglwyddo gwelwdigaeth dramodydd o'r dudalen i'r llwyfan cyfoes. Fe fyddant yn ffordd allweddol bwysig o helpu'r myfyrwyr i nodi ffactorau a allai effeithio ar y cynhyrchiad gorffenedig mewn gwahanol ffyrdd, ac o ddatblygu meddylfryd creadigol tuag at eu gwaith. Fe fydd yr aseiniadau - ysgrifenedig ac ymarferol- yn caniatau i'r myfyrwyr werthuso manteision ac anfanteision gwahanol ffyrdd o ymdrin ag elfennau'r cynhyrchiad ac i lunio gwahanol gynigion wrth ymateb i'r problemau creadigol sylfaenol.
Research skills Fe fydd yr aseiniadau ysgrifenedig yn y portffolio yn codi allan o waith a drafodir ac a gyflwynir yn y seminarau, a chan hynny yn gofyn datblygu sgiliau ymchwil er mwyn eu cwblhau. Fe fydd y seminarau hefyd yn trafod y gwaith ymchwil a fydd wedi'i gyflawni gan y cyfarwyddwr wrth ddod i ddeall natur y cynhyrchiad a'i ddehongliad sylfaenol o waith y dramodydd. Wrth ddod yn gyfarwydd a'r gwahanol roliau sy'n cael eu cyflawni wrth gyflwyno cynhyrchaid, fe fydd y myfyrwyr yn dysgu am yr ystod o ddulliau ymchwil sy'n angenrheidiol i waith e.e. cyfarwyddwyr, dylunwyr ac actorion. Fe fydd yr aseiniadau, yn eu tro, yn gofyn i'r myfyrwyr gynllunio a chyflawni ymchwil wrth gynhyrchu eu gwaith, ac yna i werthuso'r cynllun a'r dulliau gwethredu ymchwil wrth adfyfyrio ar y broses gynhyrchu yn ymarferol.
Subject Specific Skills Sgiliau perfformio; sgiliau cynhyrchu; gallu i fynegi cysyniadau creadigol a pherfformiadol ar lafar ac yn ysgrifenedig; gallu i gymathu damcaniaethau beirniadol ar gyfer creu, datblygu, ac adlewyrchu ar allbwn creadigol.
Team work Mae'r modiwl hwn wedi'i seilio ar ddau brofiad dwys o waith ymarferol mewn grwp, y naill yn y Prosiect Cynhyrchu Uwch, a'r llall yn Gyflwyniad Ymarferol mewn Grwp mewn ymateb i'r Prosiect. Rydd hyn gyfle i'r myfyrwyr ddeall neu ymestyn ystod eang iawn o sgiliau gwaith tim.

Notes

This module is at CQFW Level 5