Cyfarfod gwyddonwyr yr Haul yn PCA

Llun o'r Haul a dynnwyd gan Arsyllfa'r Haul a'r Heliosffer

Llun o'r Haul a dynnwyd gan Arsyllfa'r Haul a'r Heliosffer

10 Ebrill 2006

Dydd Llun 10 Ebrill, 2006
Aberystwyth yn croesawu prif Ffisegwyr y Deurnas Unedig
Mae prif wyddonwyr y Deurnas Unedig sydd yn ymchwilio i Ffiseg y System Solar yn PCA yr wythnos hon (dydd Llun 10 tan ddydd Iau 13Ebrill) ar gyfer cynhadledd bwysig  MIST (Magnetosphere, Ionosphere and Solar Terrestrial) / UKSP (UK Solar Physics).

Canolbwynt y trafodaethau fydd yr Haul, y gwynt solar (sef atmosffer yr Haul sydd yn cyflymu'n gynt na swn), a sut mae'r gwynt solar yn rhyngweithio gyda’r planedau a’i effeithiau ar y Ddaear.

Canlyniad trawiadol wrth i'r gwynt solar daro maes magnetig y Ddaear yw Goleuni’r Gogledd, ond mae’r broses hefyd yn amharu ar gyfathrebu, mordwyiaeth ac hyd yn oed gwaith megis chwilio am olew. Felly, yn ogystal â gyrru ein adnabyddiaeth o’r maes ymchwil yma yn ei flaen mae yna agwedd llawer mwy ymarferol i'r ymchwil.

Dyma fydd cyfarfod cyntaf yr Athro Manuel Grande a ymunodd â’r Brifysgol fel Cyfarwyddwr Grwp Ffiseg y System Solar, Sefydliad y Gwyddorau Mathemategol a Ffisegol (IMAPS) ar y cyntaf o Ebrill. Dywedodd: “Mae’n bleser cael croesawu gwyddonwyr o bob rhan o’r DU i’r cyfarfod hwn o MIST/UKSP. Bydd y gynhadledd o fudd mawr i bawb sydd yn ymwneud â hi wrth iddynt drafod syniadau a darganfyddiadau.”

Dywedodd Dr Andy Breen, Cyfarwyddwr Ymchwil Gwyddoniaeth y Gofod yn IMAPS: “Mae ein Grwp Ymchwil i’r System Solar yn un cryf iawn. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr i rannu ein arbenigedd tra’n dysgu oddi wrth wyddonwyr eraill sydd yn gweithio yn y maes hwn.”

Mae gwyddonwyr wedi bod yn cynnal ymchwil Ffiseg yn y Brifysgol yn Aberystwyth ers ei sefydlu yn 1872. Mae Grwp Ymchwil y System Solar yn astudio’r Haul, y gwynt solar a sut mae’r gwynt yn rhyngweithio gyda’r planedau a’r Ddaear. Mae MIST, sydd yn cyfarfod bob 6 mis, yn canolbwyntio ar yr uwch atmosffer a meysydd magnetig y Ddaear a planedau eraill, tra fod UKSP, sydd yn cyfarfod yn flynyddol, yn dod â gwyddonwyr sydd yn astudio’r Haul a’i atmosffer ehagnach at eu gilydd. Mae 30 mlynedd wedi mynd ers i MIST ymweld ag Aberystwyth am y tro cyntaf, ond dyma ymweliad cyntaf UKSP.