Gwsberins Gogledd America- newyddion drwg i fio-amrywiaeth?

03 Ebrill 2006

Cafwyd llawer o bryder cyhoeddus am enynnau o gnydau sydd wedi eu haddasu yn enetaidd yn lledaenu i blanhigion gwyllt. Y casgliad yw fod y perygl yn isel iawn, ond ei bod yn anochel y bydd genynnau GM yn dianc i'r amgylchedd. Llawer anoddach fydd ateb y cwestiwn – ydy hyn o bwys?

Hyrwyddo Addysg Uwch Cymru ym Mrwsel

06 Ebrill 2006

Stephen Lawrence, Cyfarwyddwr Datblygu a Materion Allanol PCA yw cadeirydd newydd corff a grëwyd i hyrwyddo buddiannau Sefydliadau Addysg Uwch Cymru ofewn Ewrop.

Ymchwilwyr yn troi eu golygon at Gwener

11 Ebrill 2006

Mae Tim Ymchwil System Solar PCA yn agor pennod newydd yn ei hanes wrth i daith yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd, Venus Express, gylchdroi o amgylch Gwener.

Cyfarfod gwyddonwyr yr Haul yn PCA

10 Ebrill 2006

Mae prif wyddonwyr System Solar y DU yma yn Aberystwyth yr wythnos hon ar gyfer cynhadledd bwysig MIST (Magnetosphere, Ionosphere and Solar Terrestrial) / UKSP (UK Solar Physics).

Syr Jeremy Greenstock i ddarlithio yn PCA

13 Ebrill 2006

Traddodir Darlith Flynyddol Sefydliad Coffa David Davies eleni gan Syr Jeremy Greenstock, cyn-Lysgennad Prydain i'r Cenhedloedd Unedig. Pwnc ei ddarlith, sydd yn cael ei chynnal ar nos Lun 24 Ebrill am 7yh yn yr Hen Goleg, fydd 'Globalisation or Polarisation: Where is the World Heading?'.