Pump uchaf am foddhad myfyrwyr

Yr Hen Goleg

Yr Hen Goleg

24 Awst 2006

Mae bodlonrwydd myfyrwyr â Phrifysgol Cymru, Aberystwyth yn uwch nag y bu o'r blaen yn ôl canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr gafodd eu cyhoeddi ddydd Mercher 23 Awst, 2006.

Ar draws Prydain mae Aberystwyth yn bumed gyda chymhareb bodlonrwydd o 90%, cynnydd o 3 pwynt canradd ers 2005, a’r gorau yng Nghymru. Y cyfartaledd ar gyfer y Sector Addysg uwch yw 80%.

10 uchaf am fodlonrwydd myfyrwyr sgôr % 2005 / 2006
1 Y Brifysgol Agored 95 / 95
2 Buckingham n/a / 94
3 St Andrews n/a / 92
4 Coleg Birkbeck 90 / 91
5 Aberystwyth 87 / 90
6 Bishop Grosseteste Col, Lincon 88 / 89
7 Durham 87 / 89
8 East Anglia 88 / 89
9 Caerlyr 89 / 89
10 St Mary’s Col 83 / 89

Ffynhonnell: http://news.bbc.co.uk/1/hi/education/5277938.stm

Dywedodd yr Athro Aled Jones, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Cymru, Aberystwyth:
“Mae’r Brifysgol yn falch iawn fod pleidleisiau ein myfyrwyr wedi ein gosod yr uchaf yng Nghymru o safbwynt bodlonrwydd myfyrwyr, ac un o’r gorau ym Mhrydain.

“Mae’r canlyniad gwych hwn yn dweud cyfrolau am ymroddiad, proffesiynoldeb a gofal staff dysgu a chynorthwyol tuag at ein myfyrwyr yma yn Aberystwyth. Mae e hefyd yn dangos mor gryf yw’r ymdeimlad ymhlith ein myfyrwyr eu bod yn rhan o’r brifysgol a’u hymroddiad i’w hastudiaethau.

“Mae Aberystwyth yn lle arbennig i astudio, ac rydym yn hollol ymroddedig i gynnal a gwella safon y dysgu a’r ystod eang o wasanaethau cymorth eraill yr ydym wedi eu cynnig i’r myfyrwyr yn draddodiadol,” ychwanegodd.

Mae Aberystwyth hefyd wedi ymddangos yn 7ed—a’r gorau yng Nghymru—yn nhabl bodlonrwydd y Times Higher Education Supplement a gyhoeddwyd heddiw (Dydd Iau 24 Awst). Seiliwyd y tabl hwn ar yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol ac mae sgôr Aberystwyth wedi codi o 3.90 yn 2005 i 4.05 eleni.

Ymatebodd dros 157,000 o fyfyrwyr yn eu blwyddyn olaf i’r arolwg a oedd yn cynnwys 22 o gwestiynau mewn pump prif faes yn ymwneud â dysgu ac astudio. Mae’r Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol yn rhan o wefan ‘Teaching Quality Information’ gafodd ei lansio ym mis Medi 2005.