Penodi cyfarwyddwr i Ganolfan Iaith Ranbarthol Canolbarth Cymru

31 Awst 2006

Penodwyd Siôn Meredith, Rheolwr Tearfund yng Nghymru ers 1993, yn Gyfarwyddwr ar Ganolfan Iaith Ranbarthol Canolbarth Cymru sydd i'w lleoli yn PCA. Dyfarnwyd y cytundeb i redeg y Ganolfan i'r Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes gan Lywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol.

Robot taflu welingtons cyntaf y byd

21 Awst 2006

Mae gwyboddonwyr cyfrifiadurol o Aber wedi datblygu y robot taflu welingtons cyntaf ar gyfer y rhaglen Scrapheap Challenge ar Channel 4.

Paratoi am wrthdrawiad gyda'r Lleuad

23 Awst 2006

Ddydd Sul y 3ydd o Fedi bydd y llong ofod SMART-1 yn taro i mewn i wyneb y lleuad. Yr Athro Manuel Grande o Sefydliad y Gwyddorau Mathemategol a Ffisegol yw un o brif wyddonwyr ymchwil y daith.

Pump uchaf am foddhad myfyrwyr

24 Awst 2006

Gyda bodlonrwydd o 90% mae Aberystwyth wedi dringo i'r 5ed safle yn arolwg Cenedlaethol Bodlonrwydd Myfyrwyr Prydain, ar gorau yng Nghymru o bell.