Enwi ardal o'r Antarctig ar ol Athro o Aberystwyth

Clogwyni Hambrey

Clogwyni Hambrey

14 Rhagfyr 2006

Enwi ardal o'r Antarctig ar ol Athro o Aberystwyth
Dydd Iau 14 Rhagfyr 2006

Mae clogwyn yn yr Antarctig wedi cael ei henwi ar ôl rhewlifegydd o Brifysgol Cymru, Aberystwyth (PCA) mewn cydnabyddiaeth am flynyddoedd maith o ymchwil daearegol a rhewlifeg yn yr Antarctig a'r Arctic.

Enwyd Clogwyni Hambrey, sydd ar Ynys James Ross yn yr Antarctig, ar ôl Mike Hambrey, Athro Rhewlifeg yn Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Mae'r ynys o ddeutu 40 milltir ar draws, ac yn gorchuddio ardal ddwywaith maint Ceredigion, er bod ¾ ohoni o dan orchydd o rew.

Mae Pwyllgor Enwau Llefydd yr Antarctig yn ystyried awgrymiadau gan y gymuned wyddonol am enwau daearyddol. Mae Mike Hambrey wedi treulio dau dymor yn gweithio ar Ynys James Ross.

Dywedodd:
“Dwi wrth fy modd ac wedi fy anrhydeddu! Byddai fy niweddar dad, oedd â diddordeb mawr yn hanes yr Antarctig, wedi bod yn hynod o falch. A dweud y gwir, dyma lle (yn 2002) ildiodd y llethr sgri yr oeddwn i’n ei groesi oddi tanaf, ac fe gwympais yn drwsgl gan ddatgymalu fy ysgwydd.”

Mae gan y Ganolfan Rhewlifeg yn Aber gyswllt ffurfiol gyda Arolwg Antarctig Prydeinig trwy’r uwch-fylcanolegydd yr Athro John Smellie, sydd hefyd yn Gymrawd Ymchwil Ymweld â’r sefyldiad yma.  Mae wedi trefnu ac arwain dau dymor o waith ar Ynys James Ross, yn ogystal â nifer o rannau eraill o’r cyfandir.  Cydnabyddir ef hefyd gyda enw daearyddol, Smellie Peak, mynydd folcanig yng nghanol yr ynys.

“Rydw i a John wedi bod yn gweithio gyda’n gilydd ar y rhyngweithiad rhwng y rhewlifau a’r mynyddoedd folcanig ar Ynys James Ross.  Mae’r gwaith yn rhan o fy ymchwil sy’n parhau, ac sydd wedi ei wasgaru dros naw tymor, i ddod o hyd i hanes rhewlifol yr Antarctig, ers i’r haenen gyntaf o rew ddatblygu yno tua 34 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Wrth edrych ar gofnod o’r gorffennol, gallwn ni ddechrau rhagweld sut fydd yr Antarctig yn ymateb i gynhesu yr hinsawdd yn y dyfodol.”