Enillydd Erasmus

Christopher Lee yn rhoi ei gyflwyniad

Christopher Lee yn rhoi ei gyflwyniad

06 Rhagfyr 2006

Dydd Gwener 8 Rhagfyr 2006
Enillydd Erasmus
Christopher Lee, a raddiodd mewn Ffiseg a Ffiseg yr Atmosffer yn 2006, yw enillydd cystadleuaeth traethawd myfyrwyr Erasmus y Deurnas Unedig. Derbyniodd y wobr gyntaf o £1000 wedi iddo roi cyflwyniad am ei amser ar y Rhaglen Erasmus i gynulleidfa ddethol yn Llundain ddydd Mercher 6 Rhagfyr 2006.

Treuliodd Christopher, a dderbyniodd enwebiad hefyd ar gyfer y gystadleuaeth ffotograffiaeth, chwe mis (Ionawr – Mehefin 2006) yng Nghanolfan y Brifysgol yn Svlabard yn yr Uwch Arctig, sefydliad addysg uwch mwyaf gogleddol y Byd.

Rhoddwyd y dasg anodd o ddewis yr enillwyr i banel o feirniaid o fyd y cyfryngau, diwydiant a'r byd academaidd. Y gwobrau ar gyfer cystadleuaeth y traethawd oedd £1000, £500, £250, a'r gystadleuaeth ffotograffiaeth £650, £300 a £150.  Cafodd y sieciau eu cyflwyno gan Richard Reid o NatWest Bank, noddwyr y gwobrau.

Agorwyd y noson gan Bill Rammell, Gweinidog Dysgu Gydol Oes ac Addysg Uwch a Phellach. Traddododd araith ysbrydoledig ar yr angen i fwy o fyfyrwyr gymryd rhan yn rhaglen Erasmus. “Mae angen i ni sicrhau fod mwy o fyfyrwyr yn gallu manteisio’n llawn ar y cyfloeoedd i astudio dramor. Drwy gyfrwng eu geiriau a’u lluniau mae’r myfyrwyr sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn dangos y gwahaniaeth cadarnhaol mae rhaglen Erasmus wedi ei wneud i’w datblygiad personol ac academaidd.”

Y chwech a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn y gystadleuaeth ffotograffiaeth:
Gwobr 1af:David Tett , Coleg Prifysgol Llundain, Ffrangeg
2il Wobr: Stuart Coleman, Prifysgol Strathclyde, Peirianneg Mecanyddol
3edd Wobr: Alistair Auffret, Prifysgol Dwyrain Anglia, Gwyddoniaeth Amgylcheddol
Simon Curran, Prifysgol Caint, Cyfraith Lloegr a’r Almaen
Bo Kay Fung, Prifysgol Caerlyr, Y Gyfraith, Cyfraith Ffrengig a Ieithoedd
Christopher Lee, Prifysgol Cymru, Aberystwyth, FFiseg a Ffiseg yr Atmosffer                                                   
 
Y deg a gyrhaeddodd y rownd derfynol yng nghystadleuaeth y Traethawd:
Gwobr 1af: Christopher Lee, Prifysgol Cymru, Aberystwyth, Ffiseg a Ffiseg yr Atmosffer
2il Wobr: Oliver Bayliss, Prifysgol Metropolitan Llundain, Pensaerniaeth
3edd Wobr: Lindsay Sunley, Coleg Celf a Dylunio Cleveland, Celfyddyd Gain
Gwobr y Gyfraith Furley Page: Christopher Greenwood, Prifysgol Warwick, Y Gyfraith
Elizabeth Howell, Prifysgol Aberystwyth, Ffiseg
Abla Kandalaft, Coleg Prifysgol Llundain, Hanes
Joanna Esteves Mills, Prifysgol Manceinion, Hanes a Ffrangeg
Noélie Verdier, Coleg Celf Wimbledon, Dylunio Gwisg
Elizabeth Chapman, Prifysgol Caeredin, Llenyddiaeth Saesneg a Ffrangeg
Amy Elizabeth Grant, Prifysgol Nottingham, Astudiaeth Hispanaidd 

Cyfleoedd cyfnewid yn Aberystwyth
Mae Aberystwyth yn cynnig cyfleoedd cyfnewid gyda 50 o sefydliadau ym mhob gwlad Ewropeaidd heblaw Hwngari a Gweriniaeth Slofacia.  Ar hyn o bryd mae dros 50 o fyfyrwyr Aberystwyth mewn sefydliadau cymar fel rhan o’r rhaglen Erasmus a dros 100 o fyfyrwyr o sefydliadau Ewropeaidd eraill yn Aberystwyth.  Mae’r Brifysgol hefyd yn cynnig cyfleoedd cyfnewid myfyrwyr gyda cymar brifysgolion yn yr UDA.