Adroddiad Blynyddol a Cyfrifon 2004/5

Llandiam campws.

Llandiam campws.

20 Rhagfyr 2005

Mabwysiadwyd Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Prifysgol Cymru, Aberystwyth am y flwyddyn 2004/5 gan Lys y Brifysgol yng nghyfarfod blynyddol y Llys ar yr 20ed o Rhagfyr 2005.

Mae copiau o'r Adroddiad Blynyddol ar gael gan John Pearson o Swyddfa Bost y coleg ar 2052 / jap@aber.ac.uk , a'r Cyfrifon o’r Swyddfa Gyllid ar 2026

Yn ei ragair i’r Adroddiad Blynyddol mae’r Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor a Phrifathro’r Brifysgol yn edrych nol dros rhai o lwyddiannau’r flwyddyn ac yn nodi rhai o’r cyfleoedd a’r sialensau sydd yn gwynebu’r Brifysgol a’r sector Addysg Uwch.

“Y mae i’r prifysgolion a’r sefydliadau eraill Addysg Uwch swyddogaeth hanfodol yn y gymdeithas fodern. Hwy sy’n gyrru newidiadau deallusol a thechnolegol yn eu blaen, a chydanbyddir eu bod yn hanfodol i ddatblygiad economiau modern a seiliwyd, fel y maent, ar fenter, gwybodaeth a sgiliau’r gweithlu. Wrth i’r sector Addysg Uwch geisio creu amgylchedd sy’n caniatau iddo’i hun ganolbwyntio ei sylw ar ansawdd y gweithgaredd craidd o ddysgu ac ymchwilio ac i greu cysylltiadau busnes a chymunedol newydd, y mae’n hanfodol i Aberystwyth barhau i allu cystadlu o fewn i’r DU ac yn rhyngwladol.”

Mae’r Artho Noel Lloyd yn cyffwrdd ar saith prif thema;
i. Cais Prifysgol Cymru, Aberystwyth am Bwerau Dyfarnu Graddau;
ii. Ymchwil ar gwaith sydd yn cael ei wneud ar y Bartneriaeth Ymchwil a Menter gyda Prifysgol Cymru, Bangor;
iii. Ymrwymiad y Brifysgol i ddatblygiad darpariaeth cyfrwng Cymraeg;
iv. Llwyddiant ymgyrch recriwtio 2005 ar angen i barhau i ddatblygu ystod y cyrsiau a gynnigir;
v. Ffioedd dysgu a’r ystod newydd o ‘Fwrsariaethau Rhagoriaeth’ mewn meysydd academaidd allweddol a lansiwyd ar gyfer 2006’;
vi. Prosiectau adeiladu mawr megis cartref newydd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, yr estyniad i adeilad Adran Theatre, Ffilm a Theledu a’r Ganolfan Ddelweddu newydd arfaethedig;
vii. Sefyllfa ariannol y Brifysgol â ddisgrifiwyd yn ‘un gadarn….. ac mae’r arwyddion yn para’n dda’.

Wrth gloi, dywed yr Athro Lloyd:
”Edrychaf ymlaen at ddatblygiadau cyffrous y flwyddyn i ddod, ac at barhau i atgyfnerthu sefyllfa’r Brifysgol ac i gyfoethogi ein darpariaeth i fyfyrwyr.”