Syr John Houghton

Sir John Houghton

Sir John Houghton

14 Gorffennaf 2006

Mae Syr John Houghton yn cael ei gydnabod yn fyd-eang am ei gyfraniad hanfodol i astudiaethau gwyddonol o'r newid yn hinsawdd y byd ac am ei waith sylweddol yn dwyn y mater i sylw llunwyr polisi a'r cyhoedd.

Ganed Syr John yn Nyserth yng ngogledd Cymru a chafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg y Rhyl. Graddiodd mewn Ffiseg o Goleg yr Iesu Rhydychen ac aeth ymlaen i gwblhau ei ddoethuriaeth yno. Dychwelodd i Rydychen mewn byr o dro fel darlithydd, a maes o law daeth yn Ddarllenydd ac yn Athro yno. Sefydlodd enw da rhyngwladol am astudio Ffiseg yr Atmosffer, ac fe’i gwnaed yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Labordy Rutherford Appleton cyn iddo gael ei benodi yn 1983 yn Brif Gyfarwyddwr y Swyddfa Dywydd, ac yna’n Brif Weithredwr arni. Yn 1990 sefydlodd Ganolfan Hadley ar gyfer Darogan ac Ymchwilio i’r Hinsawdd.

Mae’n byw bellach yn Aberdyfi, ac mae’n bleser gennym groesawu’r Fonesig Sheila i’r seremoni heddiw.

Y cymhelliad y tu ôl i waith gwyddonol Syr John oedd arsylwi ar newidiadau atmosfferig byd-eang a datblygu dealltwriaeth o’r mecanweithiau sy’n sail iddynt. Mewn amser, arweiniodd ei waith damcaniaethol ar belydriad atmosfferig at y gallu i olrhain dosbarthiad tymheredd, pwysedd a chyfansoddiad cemegol yn yr atmosffer ar sail arsylwadau lloeren o belydriad. Gyda’i gydweithwyr, datblygodd Syr John radiomedrau synhwyro o bell a oedd, ar gyfres o loerennau Nimbus yn y 1970au, yn galluogi creu mapiau tri dimensiwn byd-eang o dymheredd, gwasgedd ac, yn y pen draw, dwyseddau osôn, carbon deuocsid ac anwedd dŵr.

Defnyddiwyd y data a gasglwyd yn sail i’r ddealltwriaeth o ddynameg a chemeg yr atmosffer yn ei gyfanrwydd. Y persbectif byd-eang hwn oedd y datblygiad pwysig. O ganlyniad i’r gwaith arloesol hwn, daeth dihysbyddiad yr osôn a chynnydd mewn carbon deuocsid i’r amlwg ac yr oedd modd asesu’r canlyniadau. Daeth newid yn yr hinsawdd byd-eang yn ddisgyblaeth wyddonol ac yr oedd Syr John ar flaen y gad wrth sefydlu rhwydweithiau rhyngwladol ar gyfer arsylwi ar y ddaear o’r gofod a hybu ymchwil hinsoddol.

Ar yr un pryd yr oedd yn hanfodol tynnu sylw’r gwleidyddion at y materion hyn a chyfrannu at ddatblygu polisi. O ganlyniad i’r ymdrechion hyn sefydlwyd y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsoddol (yr IPCC) yn 1988 a gwahoddwyd Syr John i gadeirio un o’r tri gweithgor, sef yr un ar Asesiad Gwyddonol. Bu’n gadeirydd y gweithgor tan 2002 ac yn ystod y cyfnod hwnnw dadleuodd yn llwyddiannus bod gan wyddonwyr gyfrifoldeb tuag at faterion amgylcheddol, i’w dadansoddi yn drylwyr ac i gyflwyno eu casgliadau yn gyhoeddus ac, yn allweddol, i lunwyr polisi. Cynhyrchodd yr IPCC gyfres o adroddiadau asesu dylanwadol.

Mae Syr John wedi cyfrannu at bolisi cyhoeddus mewn sawl ffordd arall: fe gadeiriodd Bwyllgor Ymgynghorol Arsylwi ar y Ddaear Asiantaeth Ofod Ewrop a Chyd-bwyllgor Gwyddonol Rhaglen Ymchwil Hinsawdd y Byd; bu’n aelod o Banel Llywodraeth y DU ar Ddatblygiad Cynaliadwy ac yn gadeirydd y Comisiwn Brenhinol ar Lygredd Amgylcheddol; bu’n Is-Lywydd Sefydliad Meteorolegol y Byd ac yn Llywydd y Gymdeithas Feteorolegol Frenhinol. Dim ond rhai o’i swyddogaethau yw’r rhain, ac maent yn dangos yn eglur y parch mawr a geir tuag ato a’r galwadau sylweddol sydd ar ei amser.
I gydnabod yr hyn a gyflawnwyd ganddo, etholwyd Syr John yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol yn 1972, fe’i hanrhydeddwyd â CBE yn 1983 ac fe’i hurddwyd yn farchog yn 1991. 

Mae wedi derbyn casgliad disglair o anrhydeddau, gan dderbyn graddau er anrhydedd o sawl prifysgol a chael ei wahodd i draddodi nifer o ddarlithoedd nodedig, gan gynnwys darlith Bakerian yn y Gymdeithas Frenhinol a darlith Templeton yn Rhydychen. Mae’n awdur nifer o lyfrau ac erthyglau sy’n tynnu sylw’r cyhoedd at realiti a chanlyniadau newid yn yr hinsawdd.  

Eleni dyfarnwyd Gwobr Siapan iddo: mae hon yn fraint arbennig ac yn brawf o enw da rhyngwladol Syr John. Derbyniodd y wobr gan yr Ymerawdwr a’r Ymerodres yn ystod dathliad wythnos o hyd diddorol iawn yn Tokyo ym mis Ebrill.

Mae’r crynodeb hwn yn arwydd rhyfeddol o’r parch mawr a geir tuag at Syr John. Ond, yn bwysicach, mae’n ŵr dyngarol sydd yn gwbl ymroddedig. Mae gan newid yn yr hinsawdd – a achosir gan ddyn – ganlyniadau hirdymor difrifol iawn; dylai fod yn un o brif bryderon ein hoes. Mae Syr John yn cyfuno ei ddealltwriaeth wyddonol â ffydd Gristnogol gadarn a’r gred ddiysgog mai ein cyfrifoldeb ni yn ystod ein cyfnod ar y ddaear yw gwarchod y cread yn gyfrifol ac addasu ein gweithgareddau fel y bo angen. Mae’n benderfynol o wneud gwahaniaeth – ac er gwaethaf rhwystredigaeth ar brydiau, mae’n parhau i geisio dylanwadu ar wleidyddion i ymateb yn rhesymegol i’r ffeithiau.

Mae Syr John wastad yn barod i roi o’i amser. Yr ydym yn rhoi gwerth mawr ar ei gysylltiad â’r brifysgol – mae ganddo eisoes gysylltiad â Sefydliad y Gwyddorau Mathemategol a Ffisegol – ac edrychwn ymlaen at berthynas agosach ag ef yn y dyfodol.

Barchus Lywydd, pleser a braint arbennig yw cyflwyno Syr John Houghton yn gymrawd o Brifysgol Cymru Aberystwyth.