Cyfrifeg Aberystwyth yn 20 uchaf Ewrop

10 Gorffennaf 2006

Mae'r gyfrol ddiweddaraf o'r cyfnodolyn Accounting and Business Research wedi cyhoeddi canlyniadau dadansoddiad o gynnwys pedwar ar bymtheg o'r cynodolion cyfrifeg mwyaf blaengar sy'n cael eu cydnabod yn ryngwladol.

Ymchwil i'r Bwrdd Categoreiddio Ffilmiau Prydeinig ar drais rhywiol

10 Gorffennaf 2006

Mae ymchwilwyr ym MhCA yn mynd i'r afael â chyfres o gwestiynnau pwysig a dadleuol ar gais y Bwrdd Categoreiddio Ffilmiau Prydeinig (BCFfP).

Y Radd Allanol yn dathlu ugain mlynedd o raddedigion

11 Gorffennaf 2006

Roedd y gyntaf o'r seremoniau graddio eleni yn garreg filltir bwysig i'r Radd Allanol trwy gyfrwng y Gymraeg eleni wrth iddi ddathlu ugain mlynedd o raddedigion.

Urddo'r Cymrawd Cyntaf

11 Gorffennaf 2006

Y delynores ryngwladol Catrin Finch oedd y gyntaf o'r Cymrodyr i gael ei chyflwyno yn y seremoniau graddio eleni. Cafodd Catrin ei chyflwyno brynhawn Mawrth gan Gofrestrydd ac Ysgrifennydd y Brifysgol, Dr Catrin Hughes.

Urddo Cyn-Lywodraethwr Ynysoedd y Cayman <br />

12 Gorffennaf 2006

Yr ail Gymrawd i'w urddo yn ystod dathliadau graddio'r Brifysgol yr wythnos hon yw John Wynne Owen, cyn was sifil gyda'r Gwasanaeth Llysgenhadol a fu, ymysg nifer o benodiadau eraill, yn Lywodraethwr Ynysoedd y Cayman. Cafodd ei gyflwyno gan yr Athro Colin McInnes, Pennaeth Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol.

Cyn actor ar 'Corrie' yn graddio

12 Gorffennaf 2006

Derbyniodd Nigel Pivaro, yr actor fu'n chwarae'r rhan Terry Duckworth am bron i ugain mlynedd ar yr opera sebon Coronation Street, radd MSc Econ mewn Terfysgaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn ystod seremoni raddio fore Mercher.

Urddo cyn fyfyriwr

17 Gorffennaf 2006

Fore Gwener urddwyd yr Athro Vernon Morgan, cyn fyfyriwr ac “un o beirianwyr elecronaidd mwyaf blaenllaw Cymru”, yn Gymrawd PCA. Cafodd ei gyflwyno gan yr Athro Neville Greaves.

Gwybodaeth treth o fewn cwmnïau: cyllido ymchwil newydd

04 Gorffennaf 2006

Mae'r Athro Kevin Holland o Ysgol Rheolaeth a Busnes Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn arwain astudiaeth o'r modd mae cwmnïoedd yn datblygu ac yn defnyddio gwybodaeth am dreth. Cyllidwyd y gwaith gan Gymdeithas Y Cyfrifyddion Ardystiedig Siartredig (Association of Chartered Certified Accountants (ACCA)).

Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol gyntaf y Byd yn dathlu agor adeilad newydd

01 Gorffennaf 2006

Agorwyd cartref newydd Adran Wleidyddiaeth Rhyngwladol gyntaf y byd ddydd Mawrth 25ain o Orffennaf gan Brifweinidog y Cynulliad Cenedlaethol, y Gwir Anrhydeddus Rhodri Morgan AC a Chynrychiolydd Parhaol y Deyrnas Unedig i'r Cenhedloedd Unedig, Sir Emyr Jones Parry.

Pa mor wyrdd yw dy ffon?

20 Gorffennaf 2006

Mae'r deng mlynedd diwethaf wedi bod yn dyst i ffrwydriad ffonau symudol ac yn 2004 (Eurosource Europe) amcangyfrwyd fod y farchnad fyd-eang yn 1.25 biliwn o setiau llaw. Ond mae poblogrwydd ffonau symudol wedi arwain at her newydd mewn rheolaeth gwastraff.

Syr John Houghton

14 Gorffennaf 2006

Ar ddydd Gwener urddwyd Syr John Houghton, dyn s'yn cael ei gydnabod yn fyd-eang am ei gyfraniad hanfodol i astudiaethau gwyddonol o'r newid yn hinsawdd y byd, fel cymrawd o BCA