Le Tour De France yn ymweld ag Aberystwyth

Y Ganolfan Chwaraeon

Y Ganolfan Chwaraeon

30 Mehefin 2006

Mae'r Tour De France, un o gystadlaethau caletaf y calendr chwaraeon, yn dod i Brifysgol Cymru, Aberystwyth am 10 diwrnod yn ystod mis Gorffennaf ac mae staff Canolfan Chwaraeon y Brifysgol yn gwahodd pobl i gymryd rhan.

Gyda 22 tim o 9 beiciwr, 21 cymal a mwy na 3,600 cilomedr o rasio yn ystod tair wythnos gyntaf Gorffennaf, mae'r ras ei hun yn ymweld â phob cornel o Ffrainc, dringo dros rai o ffyrdd uchaf yr Alpau a’r Pyrenees cyn gorffen ar y Champs-Elysees ym Mharis. Cynhelir y cymal cyntaf, ras unigol yn erbyn y cloc, yn Strasbourg ar y cyntaf o Orffennaf.

Mae un o Swyddogion Hamdden y Brifysgol, Darren Hathaway, wedi creu Tour De France bychan, sydd yn cynnwys 10 o gymalau’r ras eleni, drwy raglennu pellter a maint yr ymdrech ar bob un i feiciau sydd yn rhan o system cadw’n heini y Brifysgol. Mae pob cymal a raglenwyd yn adlewyrchu cymal y diwrnod a bydd maint yr ymdrech ym amrywio yn ôl pa mor serth yw’r rhiwiau ar bob cymal.
Bydd y beicwyr ar gymal 15, sydd yn gorffen ar lethr enwocaf yr Alpau, L’Alpe D’Huez, yn mynd i’r afael â fersiwn electronaidd o’r rhiw ei hun. Ond ni fydd rhaid iddynt gwblhau 187km y cymal gan fod cymalau Tour Aberystwyth yn un rhan o ddeg o’r pellter llawn.


Ac yn unol â thraddodiad y Tour bydd yr enwog ‘Maillot Jaune’ (y Crys Melyn) yn cael ei gyflwyno i’r enillydd, y Crys Gwyrdd i’r person sydd â’r amserau gorau yn y cymalau yn erbyn y cloc, a’r Crys Smotiau Polka i’r ‘grimpeur’ gorau - Brenin y Mynyddoedd. Noddwyd y gwobrau gan Cambrian Tyres a Summit Cycles o Aberystwyth a Technogym UK Ltd.

Cynhelir y gystadleuaeth yng Nghanolfan Chwaraeon y Brifysgol sy’n cynnig yr offer a’r meddalwedd cadw’n heini diweddaraf. Yn ystod y dair blynedd ddiwethaf buddsoddwyd dros £200,000 ac mae’r Ganolfan yn brolio 50 darn o offer cadw’n heini, bob un wedi ei gysylltu i’r pecyn ffitrwydd a meddalwedd diweddaraf “Wellness System” gan Technogym. Mae’r system hon yn daparu “hyfforddwr ymarfer corff poced” personol i’r defnyddwyr sydd yn rhoi arweiniad ac adborth er mwyn iddynt wneud yn fawr o’u sesiynau cadw’n heini. 


Dyma gymalau Tour de France 2006 (Aberystwyth):
Mehefin 10ed  Prologue        7.1km          Strasbourg *
Mehefin 11eg  Cymal 1         18.4km          Strasbourg - Strasbourg
Mehefin 12ed  Cymal 4         20.7km          Huy – Saint Quetin
Mehefin 13eg  Cymal 7         5.2km           Saint Gregoire – Rennes *
Mehefin 14eg  Cymal 11       16.9km          Bordeaux - Dax
Mehefin 15ed  Cymal 13       20.6km          Tarbes - Val D’Aran / Pla De Beret ^
Mehefin 16eg  Cymal 14       18.5km          Montelimat – Gap ^
Mehefin 17eg  Cymal 15       18.7km          Gap – Alpe D’Huez ^
Mehefin 18ed  Cymal 19       5.7km           Le Creusot – Montceau Les Mines **
Mehefin 19th  Lefel 20         15.4km          Sceaux / Antony - Paris
* Yn erbyn y cloc unigol
** Yn erbyn y cloc i dimoedd
^ Cymalau Brenin y Mynyddoedd    

Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan gysylltu â Darren Hathaway ar 01970 621521 neu trwy e-bost dnh@aber.ac.uk . Tal mynediad yw £10 i aelodau o Glwb Sborti’r Brifysgol ac £20 i’r rhai nad ydynt yn aelodau (mae hyn y cynnwys £5 o flaendal ar gyfer yr allwedd electronig sydd eu hangen i ddefnyddio’r offer). Ceir manylion llawn am y gystadleuaeth ar-lein ar www.aber.ac.uk/sportscentre/ .