'Daearyddiaethau Emosiynol: Beth a Phaham?'

Graddiodd yr Athro Thrift yn Aber yn 1971.

Graddiodd yr Athro Thrift yn Aber yn 1971.

20 Tachwedd 2006

Dydd Llun 20 Tachwedd 2006
Cyfres Ddarlithoedd Cyhoeddus Prifysgol Cymru, Aberystwyth
‘Daearyddiaethau Emosiynol: Beth a Phaham?'
Bydd yr Athro Nigel Thrift, Is-Ganghellor Prifysgol Warwick, yn traddodi Darlith J B Willans nos Fawrth 21 Tachwedd yn narlithfa A12 adeilad Hugh Owen am 7.00 o'r gloch. Dyma’r ddiweddaraf yng nghyfres ddarlithoedd cyhoeddus y tymor.

Pwnc darlith yr Athro Thrift fydd ‘Daearyddiaethau Emosiynol: Beth a Phaham?. Mewn rhagarweiniad i’r ddarlith dywedodd:
“Pam fod daearyddiaeth emosiwn yn bywsig? Fel beth fyddai daearyddiaeth o emosiwn yn edrych? Beth allwn ni ei wneud ag en Dyma rai o’r cwestiwynau y byddaf yn ceisio eu hateb yn y ddarlith hon drwy edrych ar waith diweddar mewn meysydd more amrywiol â bioleg, gwyddoniaeth wybyddol, theori gymdeithasol a ailddarganfuwyd, ac ardaloedd newydd o berfformio. Byddaf yn egluro ac yn ymhelaethu ar fy nadleuon drwy ystyried dau faes of ddaearyddiaeth emosiynol yn fanwl: corfforaeth fusnes a gwleidyddiaeth ddemocrataidd fodern.”

Graddiodd yr Athro Thrift yn Aber yn 1971 ac aeth ymlaen i ennill ei ddoethuriaeth o Brifysgol Bryste. Yn ystod ei yrfa bu’n bennaeth Adran Gwyddorau Bywyd ac Amgylcheddol ac yn Athro Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Rhydychen, ac yn Athro Daearyddiaeth Ddynol ym Mhrifysgol Bryste.

Caiff ei ystyried yn un o’r daearyddwyr dynol a gwyddonydd cymdeithasol mwyaf blaengar, ac iddo mae’r clod am fathu’r term ‘moderniaeth feddal’ yn o gystal â bod yn gyfrifol am darddiad ‘Theori Ang-Nghynrychioladol’. Derbyniodd wobrau a chanmoliaeth am ei waith ymchwil a cafodd ei ethol yn Gymrawd yr Academi Brydeinig yn 2003.

Mae’n eistedd ar nifer o bwyllgorau ymchwil i Lywodraeth y DU a bu’n aelod o Bwyllgor Blaenoriaethau Ymchil Y Cyngor Ymchwil Economiadd a Chymdeithasol. Yn 1982 Yr Athro Swift oedd un o gyd-sefydlwyr y cyfnodolyn Environment and Planning D: Society and Space (http://www.envplan.com/epd/epdinfo.html) tra’n reolwr olygydd, ers 1979, ar y cyfnodolyn Environment and Planning A (http://www.envplan.com/epa/epainfo.html).