Lansio meddalwedd swyddfa agored

16 Tachwedd 2006

Mae canolfan Mercator wedi lansio pecyn meddalwedd swyddfa dwyieithog newydd. Datblygwyd Agored gyda chymorth ariannol yr Undeb Ewropeaidd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, S4C a Bwrdd yr Iaith.

Achau'r Cymry ar lein

01 Tachwedd 2006

Perthyn i Owain Glyndwr neu Harry Tudur? Dyfarnwyd £300,000 i Adran y Gymraeg ar gyfer creu bas data ar-lein o achau'r Cymry rhwng 300 a 1500OC.

Llety Myfyrwyr Llanbadarn

03 Tachwedd 2006

Daeth adolygiad o lety myfyrwyr ar gampws Llanbadarn y Brifysgol i'r casgliad bod yr adeiladau wedi cyrraedd diwedd eu oes gwaith, a byddant yn cau ar ddiwedd Mehefin 2007.

2000 o fyfyrwyr ar gloc gwasanaeth bws y Brifysgol

23 Tachwedd 2006

Mae 2000 o fyfyrwyr wedi cofrestru ar gyfer tocyn teithio'r Brifysgol, AHA, ers dechrau'r flwyddyn academaidd ac mae nifer y teithiau bob wythnos wedi croesi'r 6000.

'The End of Impunity?'

03 Tachwedd 2006

Yn ystod yr wythnos pan mae disgwyl i Saddam Hussein gael ei ddedfrydu i farwolaeth bydd yr Ustus Geoffrey Robertson QC yn trafod os yw ei brawf wedi bod yn un teg ac a yw ei ddedfryd yn un gyfiawn. Bydd yn traddodi Darlith Goffa Yr Arglwydd Morris ddydd Mercher 8 Tachwedd.

Pwysigrwydd Gwyddoniaeth y Gofod ar gyfer byw heddiw

06 Tachwedd 2006

Bydd Dr Jøran Moen o Adran Ffiseg Prifysgol Oslo yn Norwy yn dod i Aberystwyth ddydd Mercher 8 Tachwedd i draddodi darlith gyhoeddus.

Penodi Cyfarwyddwr Newydd i'r Ganolfan Astudiaethau Addysg

08 Tachwedd 2006

Penodwyd Lynwen Rees Jones yn gyfarwyddwr newydd ar y Ganolfan Astudiaethau Addysg. Llynedd sicrhaodd y ganolfan £500,000 i gynhyrchu defnyddiadu addysgol a llyfrau yn Gymraeg a Saesneg.

Galw ar i bawb ddod i fentro!

08 Tachwedd 2006

Mae Wythnos Menter 2006 (13 – 17 Tachwedd) yn rhoi cyfle i chi gael gwybod mwy am y cymorth a'r cyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr, graddedigion a staff PCA i'w helpu i sefydlu busnesau.

'Daearyddiaethau Emosiynol: Beth a Phaham?'

20 Tachwedd 2006

Bydd yr Athro Nigel Thrift, Is-Ganghellor Prifysgol Warwick, yn traddodi Darlith J B Willans nos Fawrth 21 Tachwedd yn narlithfa A12 adeilad Hugh Owen am 7.00 o'r gloch.

Ystyried astudio am radd meistr neu ddoethuriaeth?

27 Tachwedd 2006

Gwahoddir unrhywun sydd â diddordeb i fynychu Ffair Astudiaethau Uwchraddedig ar ddydd Mercher 29 Tachwedd. Mae'r Ffair bellach wedi ei sefydlu fel digwyddiad blynyddol yn y Brifysgol.

Rheithgor Dwyieithog?

22 Tachwedd 2006

Cynhelir Seithfed Ddarlith Flynyddol Canolfan Materion Cyfreithiol Cymreig yn Siambr y Cyngor, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar Dachwedd 25ain am 4.30y.h.

Sgiliau Myfyrwyr yn denu y noddwr mwyaf erioed

22 Tachwedd 2006

Mae Cystadleuaeth Sgiliau Myfyrwyr y Brifysgol wedi sicrhau eu noddwr mwyaf erioed, gyda Grwp PRS yn cynnig £1,500 o wobr i'r tîm buddugol.

Mathemateg i dderbyn rhan o £5m

30 Tachwedd 2006

Mae'r Brifysgol wedi croesawu cyhoeddiad Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ei fod am fuddsoddi £5m i ddatblygu Sefydliad Gwyddorau Mathemategol a Chyfrifiannol Cymru.

Dadl bwysig ar arfau niwclear

29 Tachwedd 2006

Mae Sefydliad Coffa David Davies sydd yn rhan o'r Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol, yn trefnu cynhadledd ar y cyd gyda Chymdeithasau'r Cenhedloedd Unedig yng Nghymru a'r Deurnas Unedig yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn 2 Rhagfyr. Y pwnc dan sylw fydd arfau niwclear.