'The End of Impunity?'

Yr Hen Goleg yn Aberystwyth

Yr Hen Goleg yn Aberystwyth

03 Tachwedd 2006

Dydd Gwener 3 Tachwedd 2006
‘The End of Impunity?'
Yn ystod yr wythnos pan mae disgwyl i Saddam Hussein gael ei ddedfrydu i farwolaeth, bydd yr Ustus Geoffrey Robertson QC, barnwr apêl y Cenhedloedd Unedig ac awdur Crimes against Humanity, yn trafod os yw ei brawf wedi bod yn un teg ac a yw ei ddedfryd yn un gyfiawn.

Bydd yr Ustus Robertson yn siarad ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth ar ddydd Mercher Tachwedd yr 8fed pan fydd yn traddodi Darlith Goffa yr Arglwydd Morris. Bydd yn trafod y trafferthion o roi gormeswyr ar brawf, o Charles I i Slobadon Milosevic ac yn esbonio sut mae cyfraith trosedd rhyngwladol wedi datblygu ers i Nuremberg o leiaf wneud hynny'n bosibl.

Cynhelir y ddarlith am 5 o’r gloch yn theatr darlithio A12 yn Adeilad Hugh Owen ar gampws Penglais.  Bydd yr Ustus Robertson hefyd yn arwyddo copiau o’i lyfrau ‘The Tyrannicide Brief’ a ‘Crimes against Humanity’, fydd ar werth, cyn y ddarlith.

Mae hon yn ddarlith gyhoeddus ac mae croeso i bawb.

Yr Ustus Geoffrey Robertson QC
Geoffrey Robertson yw syflaenydd a phennaeth Siambr Stryd Doughty.  Yn ddiweddar cafodd ei benodi i Siambr Apêliadau Llys Arbennig y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Sierra Leone.

Mae wedi dadlau nifer o achosion pwysig yn y Llys Iawnderau Dynol Ewropeaidd, Ty’r Arglwyddi, y Cyfrin Gyngor a Llysoedd y Gymanwlad.  Yn ddiweddar ymddangosodd yn Llys yr Apêl Terfynol ar gyfer Hong Kong, Goruchaf Lys Malaysia, Llys Apêl Fiji, Uchel Lys Awstralia a’r Tribiwnlys Troseddau Rhyngwladol ar gyfer Iwgoslafia, a Canolfan Genedlaethol Banc y Byd ar gyfer Datrys Anghydfodiadau Buddsoddi.

Mae wedi ymddangos gerbron rheithgor yr Hen Feili yn ymwneud â rhai o’r treialon mwyaf enwog gan gynnwys Oz, Gay News, Achos ABC, “the Romans in Britain”, Randle a Pottle, y bomio yn Brighton a Dessie Ellis, ac ar lefel Apeliadol mewn achosion blaenllaw ar gamdrin y broses ac adnabyddiaeth a thystiolaeth arbenigwyr.  Arweiniodd yr Amddiffyn ym mhrawf Matrix Churchill ac ar gyfer y Guardian yn achos enllib Hamilton/Greer.

Mae wedi cynnal nifer o orchwylion dros Amnesti Rhyngwladol i Dde America a Fietnam, ac arweiniodd Cyngor Bar 1992/Cymdeithas Cyfreithiol Iawnderau Dynol ar genhadaeth i Malawi.  Yn 1990 gwasanaethodd fel ymgynghorwr i’r Comisiwn Brenhinol a oedd yn ymchwilio i’r fasnach arfau anghyfreithlon a milwyr cyflog i garteliau cyffuriau Columbia. Cafodd ei wneud yn Feinciwr y Deml Ganol yn 1997.

Geoffrey Robertson yw awudr Crimes Against Humanity: The Struggle for Global Justice (2il argraffiad, 2002); Media Law (gyda Andrew Nicol QC, 4ydd argraffiad, 2001); Freedom, the Individual and the Law (8fed argraffiad, 1993); a bywgraffiad, The Justice Game (1999).  Cyhoeddwyd ei lyfr newydd, The Tyrannicide Brief gan Random House yn Hydref 2005.  Mae’n adrodd y stori ddramatig o sut heriodd cyfreithwyr Cromwell y frenhiniaeth.

Mae gwaith cyhoeddedig arall Geoffrey Robertson yn cynnwys Reluctant Judas (1976), Obscenity (1979), People Against the Press (1983), Does Dracula Have Aids? (1998) a Geoffrey Robertson’s Hypotheticals. Enillodd ei ddrama, The Trials of Oz, enwebiad BAFTA am y “Ddrama Orau” yn 1991 a derbyniodd Gwobr Ryddid Gwybodaeth yn 1993.

Mae’n Recordiwr, Meistr y Ddeml Ganol, Aelod Cyngor Cyfiawnder, Ymddiriedolwr ‘Capital Cases Trust’ ac Athro Ymweld yng Nghyfraith Iawnderau Dynol yng Ngholeg Birkbeck a Choleg y Frenhines Mary, Prifysgol Llundain.