Mathemateg i dderbyn rhan o £5m

Mae grwpiau ymchwil mewn mathemateg bur a chymhwysol yn Aberystwyth

Mae grwpiau ymchwil mewn mathemateg bur a chymhwysol yn Aberystwyth

30 Tachwedd 2006

Dydd Iau 30 Tachwedd 2006
Mathemateg yn Aberystwyth i dderbyn rhan o £5m
Mae Prifysgol Cymru, Aberystwyth wedi croesawu cyhoeddiad Cyngor Cyllido Addysgu Uwch Cymru yr wythnos hon ei fod am gefnogi datblygu Sefydliad Gwyddorau Mathemategol a Chyfrifiannol Cymru gyda chefnogaeth ariannol gwerth £5m o'r Gronfa Gydweithio ac Ailgyflunio.

Nod Sefydliad Gwyddorau Mathemategol a Chyfrifiannol Cymru yw gwella gallu ymchwil yn y meysydd hyn yng Nghymru i gystadlu'n well yn y DU ac yn rhyngwladol.

Mae’r Sefydliad, a fydd yn cynnwys adrannau ym: Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth; Prifysgol Cymru, Bangor; Prifysgol Caerdydd; a Phrifysgol Cymru Abertawe, yn mynd i gynyddu incwm ar gyfer ymchwil, yn enwedig o ffynonellau o’r tu hwnt i Gymru, a dylai hefyd chwarae rôl bwysig wrth weithio gyda diwydiant i annog ymchwil a fydd o fudd i ‘economi wybodaeth’ Cymru.

Bydd y Sefydliad hefyd yn chwarae rhan wrth ddatblygu nodau polisi Gwyddoniaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru a bydd yn gweithio’n agos gydag ysgolion i annog y genhedlaeth nesaf o wyddonwyr mathemategol.

Dywedodd yr Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor PCA:
"Mae croeso cynnes i’r sefydliad newydd hwn. Mae mathemateg yn tanategu meysydd helaeth o wyddoniaeth, ac mae ymchwil yn y pwnc yn arwain at gyfraniadau pwysig i’r economi wybodaeth. Bydd y Sefydliad yn arwain at gryfhau’r sylfaen ymchwil yng Nghymru ymhellach ac yn gwella’i cystadleugarwch yn rhyngwladol.  Bydd y rhaglen allymestyn a chyswllt ag ystod o gymwysiadau yn arbennig o werthfawr."

Dywedodd yr Athro Neville Greaves, cyfarwyddwr Mathemateg a Ffiseg yn Aberystwyth:
 “Mae ffurfio’r sefydliad traws-Gymru hwn mewn Gwyddorau Mathemateg a Chyfrifiannol yn plethu’n berffaith byda’r pwyslais yma yn Aberystwyth ar Fedeli a Dadansoddi Mathemategol. Yn ystod y 6 mis diwethaf mae mathemategwyr yma wedi ennill grantiau gwerth dros £600,000 gan y Cynghorau Ymchwil ar gyfer ymchwil i ewyn a hylifau egsotic. Yn o gystal mae’r gwaith ar ganolfan ddewleddu newydd gwerth £11m yn prysuro, canolfan fydd yn ychwanegu ymhellach at y cyfraniad mae Aberystwyth yn ei wneud i enw da ymchwil mathemategol Cymreig ar draws y Byd.”

Ymchwil Mathemategol yn Aberystwyth
Mae ymchwil mathemategol yn Aberystwyth yn rhannu i ddau faes yn fras: Pur a Chymhwysol.
Mae ymchwil mewn Mathemateg Gymhwysol yn ymwneud â modeli ac astudio llif hylifol: mae’r meysydd o ddiddordeb yn cynnwys cwestiynau damcaniaethol am nodweddion hylifau a chymariaethau rhwng yr hyn a ragwelwyd gan fodelai mathemategol â chanlyniadau arbrofion.  Mae diddordeb arbenning mewn deall hylifau cymleth: deunyddiadu an-Newtonaidd megis plasticiau toddedig, paent ac ewyn sydd ddim yn llifo yn yr un modd â hylifau Newtonaidd megis dwr.  Er enghraifft, pam fod modd rhoi bys mewn ewyn siafio, sydd yn gyfuniad o hylif ac awyr, a gadael twll ynddo?

Dadansoddir modelai o ffryntiau tywydd: Mae meteorolegwyr wedi sylwi fod y rhan fwyaf o gamgymeriadau rhagweld yn deillio o broblem syml o ddarogan ble; datblygwyd ffordd newydd o ddadansoddu camgymeridau rhagweld sydd yn crymryd hyn i ystyriaeth.

Mewn Mathemateg Bur ceir ymchwil i gombinatroeg algebraidd, a damcaniaeth codio yn arbenning. Mae’r codiau sydd yn cael eu hastudio yn rhai sydd yn cywiro camgymeriadau ac o darddiad geometrig. Defnyddir codiau i gywiro camgymeriadau mewn gwybodaeth wedi ei ddarlledu, er enghraifft trosglwyddo lluniau o long ofod (camgymeriadau wedi eu hachosi gan aflonyddwch heuliol neu atmosfferig) neu ddarllen cryno ddisgiau neu DVD ddisgiau fideo digidol yn electronaidd (e.e camgymeriadau o ganlyniad i grafiadau).
Mae ymchwil systemau dynamig yn defnyddio algebra cyfrifiadur i ddatrys systemau mawr o hafaliadau polynomial, all gynrychioli poblogaethau o rywogaethau biolegol sydd yn ymadweithio, er mwyn deall sut y mae’r system yn ymddwyn.