Stereo i weld yr Haul mewn 3D

Gosod paneli'r llong ofod Stereo yn eu lle. Credit: Dr C.J.Eyles, Prifysgol Birmingham

Gosod paneli'r llong ofod Stereo yn eu lle. Credit: Dr C.J.Eyles, Prifysgol Birmingham

26 Hydref 2006

Dydd Iau 26 Hydref 2006
Stereo i weld yr Haul mewn tri dimensiwn
Mae un o grwpiau ymchwil mwyaf blaengar Gwyddor yr Haul yn paratoi i chwarae rhan flaenllaw yn nhaith llong ofod NASA, Stereo, a fydd yn darparu'r lluniau tri dimensiwn cyntaf erioed o'r Haul.

Dwy efaill-arsyllfa – maent fwy neu lai yn union yr un peth - yw STEREO (Solar TErrestrial RElations Observatory) a fydd yn cylchdroi o amglych yr Haul ac yn cadw llygad ar y ffrwydriadau ffyrnig, sef Alldafliadau Màs Coronaidd yr Haul a’r tywydd gofod y maent yn ei greu sydd yn ei dro yn effeithio ar y Ddaear, lloerennau a gofodwyr. Lansiwyd STEREO yn gynnar heddiw, ddydd Iau 26 Hydref 2006.

Mae Dr Andy Breen yn aelod blaenllaw o Grŵp Ymchwil Ffiseg Cysawd yr Haul yn Sefydliad y Gwyddorau Mathemategol a Ffisegol ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, ac yn gyd-ymchwilydd ar offeryn SECCHI y daith (Sun Earth Connection Coronal and Heliospheric Investigation).

Set o 5 sbïenddrych ar y ddwy long ofod yw SECCHI a fydd yn edrych ar ran fewnol atmosffer yr Haul mewn golau uwchfioled ac atmosffer allanol yr Haul, sydd yn ymestyn tu hwnt i’r Ddaear, mewn golau gwyn cyffredin. Mae Dr Breen wedi datblygu cyfres o arbrofion ar gyfer dilyn stormydd solar wrth iddynt symud oddi wrth yr Haul a tuag at y Ddaear.

Bydd y ddwy efaill-arsyllfa yn cylchdroi o amgylch yr Haul fel bod un o flaen y Ddaear a’r llall tu ôl i’r Ddaear. Gan fod angen i’w hantenâu dysgl pwerus bwyntio at y Ddaear er mwyn derbyn gorchmynion a throsgwlyddo gwybodaeth, mae rhaid i un o’r ddwy long ofod hedfan ben i waered. Rhaid felly gosod yr offer ychydig yn wahanol ar y ddwy long ofod. Hefyd mae corff un ychydig trymach er mwyn gallu ysgwyddo pwysau’r llall yn ystod y lansiad. Bydd y rhan sydd yn dal y ddwy at ei gilydd ar ddechrau’r daith yn parhau ar y fwyaf o’r ddwy long ofod yn ystod y daith. http://www.pparc.ac.uk/Nw/prelaunch_stereo.asp .

Gwnaeth Grŵp Ymchwil Ffiseg Cysawd yr Haul ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth gyfraniad sylweddol i’r dealltwriaeth o’r gwynt solar a’i effeithiau ar y Ddaear. Y diweddar Athro Phil Williams oedd un o’r cyntaf i fesur cyflymder y gwynt solar wrth iddo lifo oddi wrth yr Haul.

Yn dilyn penodi’r Athro Manuel Grande, a ymunodd â Phrifysgol Cymru, Aberystwyth yn ddiweddar o Labordy Rutherford Appleton lle roedd yn Arweinydd Grŵp y Planedau a Plasma’r Gofod, bydd y grŵp yn Aberystwyth yn ehangu ei faes astudiaeth i gynnwys effeithiau’r gwynt solar ar y planedau Mawrth, Gwener a Mercher. Yr Athro Grande yw un o’r prif wyddonwyr ar Aspera 4 sydd yn rhan o’r daith Venus Express.

Lansiwyd Venus Express ym mis Tachwedd 2005 a dechreuodd gylchdroi Gwener yn llwyddiannus yn Ebrill 2006. http://www.aber.ac.uk/aberonline/en/archive/2006/04/uwa4306/.

Alldafliadau Màs Coronaidd (AMC)/ Digwyddiadau Storm Solar
Yn 1859 ffrwydrodd storm solar anferth a hyrddiodd blasma poeth ar ffurff Alldafliadau Màs Coronaidd tuag at y Ddaear. Gan fod hyn cyn oes y gofod y brif effaith oedd amharu ar linellau telegraff a gweld aurora mewn lleoedd anarferol. Pe bai storm o’r fath yn digwydd eto heddiw byddai’r effeithau yn llawer mwy dramatig gan mai’r lloerennau sydd yn amgylchynu’r Ddaear fyddai’n dioddef fwyaf. Yn ôl y rhagolygon byddai ffrwydriad tebyg yn cael effaith economaidd tebyg i gorwynt categori 5! Mae storm 1859 o bwys hefyd gan mai dyma’r tro cyntaf i wyddonwyr gysylltu ffrwydriad ar yr Haul â’r aurora a welwyd ar y ddaear 12 awr yn ddiweddarach. Y gwyddonydd o Brydain, Richard Carrington, welodd hyn a chafodd ei urddo gan y Gymdeithas Astronomegol Frenhinol am ei waith. 

Yn Awst 1972 gwelwyd storm sydd yn chwedlonol yn NASA. Digwyddodd rhwng dwy daith Apollo, wedi i un criw ddychwelyd o’r Lleuad a thra fod un arall yn paratoi i lansio. Pe bai gofodwr wedi bod ar y Lleuad ar y pryd mae’n bosibl y byddent wedi derbyn dogn ymbelydrol o 400 rem (Roentgen Equivalent man). Nid yn unig y byddai hyn wedi achosi clefyd ymbelydredd ond heb driniaeth feddygol yn syth gallai dogn o’r fath fod yn farwol. Mae gofodwyr ar yr Orsaf Ofod Ryngwladol (OOR) yn ddiogelach gan fod llongau gofod yn rhoi cysgod sylweddol oddi wrth stormydd solar, a’r ffaith fod yr OOR o fewn i faes magnetig amddiffynol y Ddaear. Bydd angen i ofodwyr ar y Lleuad neu Mawrth gynllunio cysgodfeydd yn ofalus yn absenodeb maes magnetig i’w hamddiffyn.

Gall Alldafliadau Màs Coronaidd amharu ar y rhwydwaith gwifrau trydan. Ar 13 Mawrth 1989, tarodd AMC faes magnetig y Ddaear ac ychwanegu at y llif mewn gwifrau trydan. Canlyniad hyn oedd fod cyfres o drawsnewidwyr wedi eu heffeithio gan adael 6 miliwn o bobl yn Quebec heb drydan, yn ogystal â diffodd y trydan mewn gwledydd eraill.

Cafwydd AMC arbennig o ffyrnig ar 31 Hydref 2003. Dallwyd Mars Express am ddiwrnod a difrodwyd y paneli solar ar nifer o longau gofod gan gynnwys Mars Express, SOHO a Cluster. Mae AMCau hefydd yn amharu ar systemau radio sydd yn defnyddio’r ionosffer i adlewyrchu signalau dros bellteroedd hir.