Llunio Polisi Tramor mewn Cymdeithas Amlddiwylliannol

Yr Hen Goleg

Yr Hen Goleg

16 Hydref 2006

Dydd Llun, Hydref 16 2006
Llunio Polisi Tramor mewn Cymdeithas Amlddiwylliannol
Yr Athro Christopher Hill i draddodi yr 21ain Darlith Goffa E H Carr
Bydd yr Athro Christpher Hill, Cyfarwyddwr y Ganolfan o Astudiaethau Tramor ym Mhrifysgol Caergrawnt, yn traddodi Darlith Goffa Flynyddol E H Carr, ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth ddydd Iau 19 Hydref am 7.00 yr hwyr yn yr Hen Neuadd yn Hen Goleg y Brifysgol.

Mae'r Athro Hill yn arbenigo mewn dadansoddi polisi tramor, gyda sylw arbennig i Ewrop. Bydd y ddarlith ‘Llunio Polisi Tramor mewn Cymdeithas Amlddiwylliannol' yn canolbwyntio ar un o’r dimensiynau pwysicaf a mwyaf dadleuol o lunio polisi tramor ar ddechrau’r unfed ganrif ar hugain.

Cyn dechrau ar ei swydd bresennol yn 2004, bu’n dysgu yn Adran Cysylltiadau Rhyngwladol yn Ysgol Economeg a Gwyddorau Wleidyddol (LSE), Llundain, lle bu’n ddeilydd cadair Montague Burton.

Mae hon yn ddarlith gyhoeddus ac mae croeso i bawb.

Llunio Polisi Tramor mewn Cymdeithas Amlddiwylliannol
Crynodeb
Mae llawer wedi cael ei ysgrifennu am amlddiwyllianaeth dros y ddegawd diwethaf, ac ers Medi 11 2001 mae’r ddadl ar driniaeth priodol polisi tramor mewn cymdeithas ddemocrataidd wedi cael ei ail-gynnu.  Ond dyw’r ddwy set o ystyriaethau ddim wedi cael eu dwyn at ei gilydd yn systematig tan yn ddiweddar iawn.  Yn y Deyrnas Unedig, cynhyrchodd yr ymosodiadau ar bobl Llundain ar Orffennaf 7 2005 gyfnewid barn gwleidyddol ynglyn â’r ‘gelyn mewnol’, neu’r amhosibilrwydd o roi feto polisi tramor yn nwylo un lleiafrif penodol.
Nod y ddarlith yw cyflwyno dimensiwn mwy dadansoddol i’r ddadl, drwy ddarparu persbectif cymharol ac hanesyddol.  Mae’n cymryd tri model o’r ffordd y mae gwladwriaeth yn ymdrin ag amrywiaeth cymdeithasol – yr un Americanaidd, un y Deyrnas Unedig ac un Ffrainc – er mwyn dadansoddi eu goblygiadau ar bolisi tramor, a vice versa.

Daw i’r casgliad y bydd rhaid i bob model adolygu’n sylweddol ei ddeallrwiaeth o’r cydbwysedd rhwng effeithiolrwydd ac atebolrwydd wrth lunio polisi tramor, yn bennaf oherwydd bod heddwch sifil a heddwch rhyngwladol wedi eu cysylltu nawr mewn ffyrdd nad oedd damcaniaethau blaneorol wedi eu dychmygu.

Er hyn, dylai fod yn bosibl i ail-weithio’r ymarferion a’r egwyddorion er mwyn caniatau i’r wladwriaeth amddiffyn buddiannau’r gymdeithas y mae’n bod ar ei chyfer heb wneud bwch dihangol o leiafrif mewnol neu mynd ar drywydd polisi sydd yn apelio at agweddau isaf y boblogaeth.
Ar y llaw arall, mae rhaid dod o hyd i ffyrdd sydd am sicrhau bod grwpiau lleiafrifol sydd â gofidion penodol cryf am bolisi allanol, yn cael eu clywed heb i eraill gwyno am driniaeth arbennig.

Mae hon yn sialens wleidyddol, foesol a thechnegol o’r radd uchaf, ond os nad ydym yn ymateb iddi, mae perygl i bolisi tramor wynebu problemau mwy yn ymwneud â chyfreithlondeb nac mae wedi ei brofi yn ystod can mlynedd cyntaf democratiaeth torfol.

Mae amlddiwyllianaeth yn codi cwestiynau amlwg am addysg, gwisg, cymorth gan y wladwriaeth ac ati.  Ond beth yw’r oblygiadau ar gyfer polisi tramor?  Tan yn ddiweddar iawn nid oedd hwn wedi ymddangos yn fater o bwys; ond nawr mae’n bwnc llosg a dadlengar.  Mae’r ddarlith yma yn ceisio edrych ar y materion dan sylw mewn modd dadansoddol, gan edrych ar brofiadau tair gwladwriaeth sydd yn ymdrin ag amlddiwyllianaeth mewn ffyrdd gwahanol: Ffrainc, y Deyrnas Unedig ac Unol Daleithiau America.

Darlithoedd Coffa EH Carr – cefndir
Sefydlwyd Cadair Gwleidyddiaeth Rhyngwladol Woodrow Wilson yn Aberystwyth yn 1919 a hi yw’r hynaf yn y pwnc. Tebyg taw E.H. Carr, y pedwerydd i’w dal, oedd ei deilydd mwyaf amlwg.  Yn ystod ei flynyddoedd yn Aberystwyth (1936-1947), ysgrifennodd Carr The Twenty Years’ Crisis 1919-1939: An Introduction to the Study of International Relations, llyfr sydd yn cael ei adnabod fel un o weithiau arloesol y pwnc.  Yn ddiweddarach, daeth i amlygrwydd yn y byd academaidd ehanganch am ei waith aml-gyfrol, A History of Soviet Russia a’i lyfr llwyddiannus What is History?.  Bu farw Carr yn 1982 yn 90 mlwydd oed.

Mae’r Adran wedi bod yn cynnal darlith flynyddol er cof amdano ers 1984.  Mae Darlith Goffa E.H. Carr yn cael ei thraddodi i gynulleidfa gyhoeddus ar bwnc o ddewis y siaradwr yn y maes cyffredinol o wleidyddiaeth rhyngwladol.

Yn wreiddiol cyllidwyd y gyfres hon o ddarlithoedd gan freindal o lyfrau a ddaeth o gynhadleddau a noddiwyd gan yr Adran dros gyfnod o 20 mlynedd yn Neuadd Gregynog, canolfan cynhadleddau Prifysgol Cymru ger y Drenewydd, Powys.  Gregynog oedd cartref David Davies, a waddolodd Cadair Wilson.  Mae’r cyfres o ddarlithoedd nawr yn cael ei ariannu yn rhannol gan Sage, cyhoeddwyr International Relations, cylchgrawn Sefydliad Coffa David Davies.