Gweithredu Polisi Dim Ysmygu newydd y Brifysgol

Arwydd dim ysmygu wrth yr Hen Goleg

Arwydd dim ysmygu wrth yr Hen Goleg

02 Ebrill 2007

Dydd Llun 2 Ebrill 2007
Gweithredu Polisi Dim Ysmygu newydd y Brifysgol
O ganlyniad i'r ddeddfwriaeth newydd i wahardd ysmygu mewn mannau cyhoeddus yng Nghymru sydd yn dod i rym ddydd Llun 2 Ebrill 2007, mae'r Brifysgol wedi diweddaru ei Pholisi Ysmygu i fodloni gofynion y ddeddfwriaeth.

O ddydd Llun yr 2il o Ebrill ymlaen, gwaherddir ysmygu ym mhob un o adeiladau’r Brifysgol (ac eithrio’r neuaddau preswyl – gweler isod), gan gynnwys mynedfeydd hanner caeedig i adeiladau a mynedfeydd allanol, ffenestri, a mannau eraill lle y gallai mwg fynd i mewn i adeilad. Mae’r ddeddfwriaeth ddi-fwg hefyd yn cynnwys cerbydau’r Brifysgol.

Cewch wybod mwy am y ddeddfwriaeth yn http://www.gwaharddsmygucymru.co.uk/cymraeg/.
Cewch weld Polisi Ysmygu’r Brifysgol trwy ddilyn y linc ar gornel dde y dudalen hon. Mae’r Polisi Ysmygu yn cynnwys pawb sy’n defnyddio adeiladau’r Brifysgol, sef staff a myfyrwyr y Brifysgol yn ogystal ag ymwelwyr i’r Brifysgol, gan gynnwys contractwyr.

Er mwyn cydymffurfio â’r gyfraith, rhoddir arwyddion Dim Ysmygu amlwg ym mhob mynedfa i fannau di-fwg ac yng ngherbydau’r Brifysgol. Bydd y mannau lle y gellid ysmygu yn y gorffennol sydd â tho neu nenfwd, yn ogystal â cherbydau, yn dod o dan y diffiniad o leoedd sy’n gaeedig, neu’n gaeedig i raddau helaeth, ac ni fydd hawl ysmygu yno yn ôl y ddeddfwriaeth newydd.

Efallai y byddwch am fachu ar y cyfle hwn i roi’r gorau i ysmygu neu o leiaf i ysmygu’n llai. Ceir cyngor yn rhad ac am ddim ynghylch rhoi gorau i ysmygu drwy ffonio:
- Llinell Gymorth i Smygwyr Cymru 0800 169 0169
- Gwasanaeth Rhoi’r Gorau i Smygu 0800 085 2219
Bydd swyddogion awdurdodedig ym mhob awdurdod lleol yn sicrhau bod pawb yn cydymffurfio â’r gyfraith newydd ledled Cymru. Mae’r cosbau y gellir eu rhoi yn cynnwys dirwy yn y fan a’r lle.

Os nad yw aelodau o’r staff neu fyfyrwyr yn y Brifysgol yn cydymffurfio â’r Polisi bydd camau disgyblu yn cael eu cymryd.

Bydd y polisi hwn yn cynnwys pob rhan o’r preswylfeydd a’r llety sy’n eiddo i’r Brifysgol, neu’n cael ei reoli gan y Brifysgol, (gan gynnwys ystafelloedd gwely a mannau cyffredin) hefyd o ddiwedd y sesiwn bresennol, yn dechrau ddydd Sul 3 Mehefin 2007.